Tro pedol ar newid arwyddair Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr Athro Gruffydd Aled Williams: Tro pedol yn 'newyddion gwych'

Ni fydd arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn newid wedi'r cyfan, er gwaethaf ffrae am ei gyfieithiad Saesneg.

Yn dilyn ymgynghoriad diweddar ar foderneiddio'r ŵyl, fe ddaeth i'r amlwg fod rhai yn poeni fod gwir ystyr y geiriau 'Byd gwyn' yn mynd ar goll wrth eu cyfieithu.

Fe gyhoeddodd yr eisteddfod eu bwriad fis diwethaf i ddod o hyd i fardd arall i greu arwyddair newydd erbyn 2024.

Ond mae cynhyrchydd gweithredol yr ŵyl bellach wedi dweud y byddai'r geiriau gwreiddiol yn parhau i gael eu defnyddio, ar ôl "ystyried ymateb y cyhoedd".

Roedd rhai yn teimlo ei bod yn rhesymol i newid yr arwyddair gydag eraill yn teimlo fod y Gymraeg yn cael ei "diraddio".

Fe wnaeth 85 o bobl arwyddo llythyr yn gofyn i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ailystyried y penderfyniad i'w newid.

Mae'r arwyddair 'Byd gwyn fydd byd a gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo' gan y bardd T Gwynn Jones wedi bodoli ers dros 75 mlynedd.

Cafodd yr arwyddair ei gyfieithu o'r dechrau gan y bardd i 'Blessed is a world that sings, gentle are its songs'.

Ond roedd cyfieithiad llythrennol 'Byd Gwyn' yn poeni rhai, sef 'White World', gyda phryder ei bod yn bosib ei gam-ddehongli.

'Dadleuon grymus iawn'

Mewn datganiad ar wefan yr ŵyl,, dolen allanol fe ddywedodd llefarydd: "Yn dilyn cryn ystyriaeth o ymateb y cyhoedd, mae'r Bwrdd wedi pleidleisio i barhau i ddefnyddio arwyddair T Gwynn Jones.

"Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i drafodaeth gyhoeddus yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod arwyddair yr Eisteddfod yn adlewyrchu'r byd rydym yn byw ynddo heddiw a'r byd rydym am fyw ynddo yfory."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad, yn dilyn ymgynghoriad, oedd newid geiriau'r arwyddair erbyn 2024

Ychwanegodd bod "angen ystyried llawer o leisiau gwahanol, a chwestiynu sut mae iaith yn parhau i esblygu".

"Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi cyfrannu'n adeiladol at y drafodaeth ystyrlon hon; mae'r dadleuon wedi'u gwneud yn rymus iawn, ar y naill ochr, i gadw arwyddair presennol yr Eisteddfod, ac ar yr ochr arall, i gomisiynu barddoniaeth newydd.

"Er mwyn sicrhau fod y neges yn glir i'n cynulleidfaoedd ar draws y byd, bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yr arwyddair yn ymddangos ochr yn ochr â'u gilydd lle bynnag y bo modd.

"Ein ffocws nawr yw cynnal Eisteddfod a fydd yn dod â chymunedau o bedwar ban byd ynghyd, mewn dathliad llawen o rym cerddoriaeth a dawns i greu dealltwriaeth a harmoni."

Bydd y sefydliad yn datblygu Polisi Iaith Gymraeg ac yn rhannu manylion yn fuan, meddai'r llefarydd.

'Mae'n 2023, mae ieithoedd yn newid'

Ar stryd fawr Llangollen brynhawn Mawrth roedd na ymateb cymysg i'r cyhoeddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard yn cefnogi'r penderfyniad

Dywedodd Richard, "Weithiau does dim angen newid pethau.

"Os dydi rhywbeth ddim yn cyfieithu i ieithoedd eraill ond yn gweithio yn yr iaith wreiddiol, pam fod angen ei newid o?"

Ychwanegodd Bryn, "Os da chi'n dechre mynd lawr y llinell yna fyddwch yn gorfod newid bob peth yn y diwedd.

"Allwch ddim gadael i bobl eraill newid yr eirfa neu fysa pob iaith yn cael ei dinistrio."

Disgrifiad o’r llun,

Debbie: "Dydi gwyn ddim yn cyfieithu i'r Saesneg yr un ffordd"

Ond dywedodd Debbie, "Fi'n meddwl dylsen nhw newid e.... mae'n 2023 ac mae'n rhaid gweld fod ieithoedd yn newid.

"Mae'n rhaid i ni feddwl fod y byd yn wahanol nawr a dydi gwyn ddim yn cyfieithu i'r Saesneg yr un ffordd a ma' fe yn y Gymraeg."