Amheuon am ffitrwydd Jess Fishlock wedi anaf
- Cyhoeddwyd
Mae amheuon a fydd Jess Fishlock yn ddigon iach i chwarae i dîm pêl-droed merched Cymru nos Sul wrth iddyn nhw wynebu Unol Daleithiau America mewn gêm gyfeillgar.
Roedd Cymru wedi gobeithio bod modd i'r chwaraewraig ganol cae chwarae i OL Reign yng Nghynghrair Genedlaethol Pêl-droed y Merched (NWSL) a chwarae yn erbyn UDA.
Ond bu'n rhaid i Fishlock, 36, adael y cae ddydd Gwener wedi cwymp ar ôl 23 munud.
Eisoes mae tîm Gemma Grainger yn chwarae heb eu capten Sophie Ingle a fydd Rachel Rowe ddim yn chwarae yn sgil anaf i'w choes.
Mae colli Fishlock yn ergyd - hi yw'r chwaraewraig sydd wedi cael y mwyafrif o gapiau i Gymru ac mae hi wedi sgorio 36 gôl yn ystod 141 ymddangosiad rhyngwladol.
Mae hefyd yn ergyd bersonol i Jess Fishlock ei hun - mae hi wedi bod yn chwarae yn America ers 2013 ond eto i wynebu y tîm cenedlaethol.
Ddydd Sadwrn fe wnaeth Gemma Grainger wrthod cadarnhau'n bendant a fydd hi'n chwarae neu beidio.
"Ry'n wedi bod â chynllun ar gyfer Jess yn ystod y bythefnos ddiwethaf ac ry'n ni'n mynd o ddydd i ddydd ac yn gweld be sy' orau iddi hi," meddai.
Mae'r gêm yn cael ei chwarae yn San Jose gyda'r gic gyntaf am 2100 - ac fe fydd i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022