Cynllun ceiswyr lloches: Apêl AS am dawelwch
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Llanelli wedi apelio am dawelwch yn dilyn methiant ymgais cyfreithiol i atal gwesty yn y dref rhag cartrefu dros 200 o geiswyr lloches.
Er gwaethaf gwrthwynebiad lleol i gynllun Llywodraeth y DU mae disgwyl i hyd at 241 o bobl gyrraedd Gwesty Parc y Strade yr wythnos nesaf.
Ddydd Gwener fe wnaeth yr Uchel Lys wrthod ymgais gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i atal y cynlluniau i gartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade.
Yn ôl y Swyddfa Gartref mae'r cynlluniau'n angenrheidiol ac mae'r system ceisio lloches dan straen "anhygoel".
Arestio dau
Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys nos Sul bod swyddogion wedi bod yn ymateb i brotest arall ger y gwesty yn ystod y dydd "yn dilyn sawl digwyddiad a achosodd stŵr yn y safle".
Dywedodd y llu mewn datganiad bod "swyddogion wedi mynd i'r safle yn wreiddiol tua 08:40 ar gais staff diogelwch ac aros yno i hwyluso protestio heddychlon wrth i'r grŵp gynyddu o ran maint.
"Cafodd dau berson eu harestio ar amheuaeth o rwystro'r heddlu yn dilyn digwyddiad ble gwnaeth protestwyr atal cerbyd oedd yn rhwystro blaen y safle rhag cael ei symud. Maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
"Mae swyddogion yn parhau yn y safle i hwyluso protestio heddychlon, ble maen nhw'n trafod â phob carfan ac yn rhoi tawelwch meddwl i'r gymuned."
Mae'r llu hefyd wedi cadarnhau bod ffordd ger y gwesty - Heol Pentrepoeth yn Ffwrnais - ar gau i bawb ond trigolion.
Dywedodd AS Llafur Llanelli, Y Fonesig Nia Griffith wrth raglen Politics Wales: "Ni allwn ni esgus nad yw hyn yn mynd i ddigwydd. Mae'n rhaid i ni fod yn realistig.
"Byddwn i'n apelio am dawelwch er lIes pawb yn y gymuned... ac i bobl ble mae yna bryderon gwirioneddol a maen nhw eisio codi unrhyw beth gyda'r contractwyr, yna dewch aton ni fel cynrychiolwyr lleol."
Apeliodd hefyd ar i bobl beidio cymryd sylw o ddeunydd "annymunol" ar-lein.
Mae un fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos presenoldeb heddlu amlwg wrth y gwesty wrth i bobl yn y dorf lafarganu "Welsh lives matter".
"Yr hyn sy'n bwysig nawr yw gwahaniaethau rhwng ble mae gan breswylydd lleol bryder dilys ynghylch rywbeth, a'r pethau ofnadwy rydym wedi ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ddydd Llun fe fydd y cyngor sir yn edrych yn fanwl ar ddyfarniad yr Uchel Lys i weld o oes sail i apelio yn ei erbyn.
"Os taw'r achos yw bod nunlle pellach i fynd, yna bydd yn rhaid i ni dderbyn y sefyllfa fel ag y mae.
"Rwy'n credu taw'r gwir broblem yn fan hyn yw'r diffyg gwybodaeth ry'n ni wedi ei gael gan y Swyddfa Gartref ynghylch beth yn union sy'n mynd i ddigwydd."
Dywed y Fonesig Nia ei bod wedi ymgynghori gyda llywodraethwyr ysgol, y cyngor a'r gwasanaeth iechyd i drafod y camau nesaf.
"Dydyn ni ddim hyn yn oed yn gwybod faint o blant sy'n dod. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni geisio cael llefydd iddyn nhw os maen nhw yn dod, felly dyw e ddim yn hawdd pan nad oes gyda chi lawer o wybodaeth," meddai.
Ychwanegodd bod y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi delio â'r mater wedi bod yn "ddychrynllyd".
Ar raglen BBC Radio Wales' Sunday Supplement BBC Radio Wales, fe fynegodd arweinydd Cyngor Sir Gâr siom yr awdurdod yn sgil penderfyniad y llys, ond dywedodd nad oedd "unrhyw edifeirwch" ynghylch cymryd camau cyfreithiol.
"Roedd yn ddyledus arnom i drigolion a busnesau Llanelli, i gymuned Ffwrnais ac, yn bwysicach byth, staff Gwesty Parc y Strade ac wrth gwrs y rheiny sydd wedi colli eu swyddi.
"Rydym yn dal o'r farn bod angen i Lywodraeth y DU newid eu trywydd yn hyn o bryd, ond yn amlwg fe fydd y barnwr yn egluro ei resymau am y dyfarniad yfory."
Dywedodd Mr Price ei fod yn cefnogi nod Cymru o fod yn genedl noddfa ond yn credu nad meddiannu gwestai cyfan yw'r ffordd orau o fynd ati.
Mae Gwesty Parc y Strade, meddai, yn "ased gwirioneddol bwysig".
Ychwanegodd: "Mae'r syniad ein bod yn cau gwesty'n llawn, a diswyddo 95 aelod staff, i mi yn anfaddeuol, yn enwedig yng nghyd-destun argyfwng costau byw."
Mae'r Swyddfa Gartref wedi datgan eisoes bod nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU ac angen llety wedi cyrraedd eu lefel uchaf erioed.
Dywedodd llefarydd bod y Swyddfa Gartref "yn ymroddi i wneud pob ymdrech i leihau'r defnydd o westai a'r baich ar y trethdalwr".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023