Ceiswyr lloches Strade: Gwrthod cais y cyngor i oedi
- Cyhoeddwyd
Mae'r Uchel Lys wedi gwrthod ymgais gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i atal cynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.
Fe wnaeth y cyngor gymryd camau cyfreithiol gan honni y byddai defnydd Gwesty Parc y Strade yn newid heb gael caniatâd cynllunio.
Fe ddaeth cadarnhad fis diwethaf y byddai hyd at 241 o geiswyr lloches yn cael eu cartrefu yn y gwesty o 10 Gorffennaf er gwaethaf pryderon difrifol yn lleol.
Fe fydd 95 o staff y gwesty yn colli eu swyddi ddydd Llun nesaf.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud bod nifer y ceiswyr lloches sydd angen llety yn rhoi straen ar y system.
Ynghyd â Chyngor Sir Gaerfyrddin a phobl leol, mae gwleidyddion, sefydliadau ac elusennau fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi lleisio eu pryderon am y cynllun.
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023
'Newid defnydd sylweddol'
Roedd y cyngor wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y rheiny sy'n ymwneud â'r cynllun - Gryphon Leisure Limited, Sterling Woodrow Limited, Clearsprings Ready Homes Limited, Robert Horwood a Gareth Street.
Ond mewn gwrandawiad ddydd Gwener, cafodd cais y cyngor ei wrthod gan yr Uchel Lys, a bydd y Barnwr Gavin Mansfield KC yn amlinellu ei resymau ymhellach ddydd Llun.
Daeth hynny wrth i rai trigolion lleol sy'n anhapus gyda'r newid gynnal protest yn ystod y dydd, gan geisio rhwystro mynediad i'r safle.
Yn y gwrandawiad ddydd Gwener dywedodd cyfreithiwr ar ran perchnogion y gwesty, Gryphon Leisure Ltd, fod "angen brys" am le i gadw ceiswyr lloches.
Ychwanegodd cyfarwyddwr y cwmni fod pwysau ariannol yn golygu "risg difrifol y gallai ei ddefnydd fel gwesty fod wedi dod i ben beth bynnag", ac felly bod angen yr arian fyddai'n dod o ddarparu'r lle fel llety i'r ceiswyr lloches.
Dywedodd Craig Howell Williams KC, ar ran y cyngor, eu bod yn "ymwybodol iawn" o'r pwysau ar y Swyddfa Gartref, ond fod diffyg gwybodaeth wedi bod am ymdrechion i ddod o hyd i rywle arall oni bai am Westy Parc y Strade.
Ychwanegodd fod y gwesty "moethus" ac "unigryw" yn cael ei ddefnyddio'n gyson, a bod "lle da i amau" honiadau Mr Horwood fod y busnes dan fygythiad os nad oedd yn cael ei newid i gadw ceiswyr lloches am y tro.
Ond mynnodd Jenny Wigley KC, ar ran Clearsprings, Gryphon, Mr Horwood a'i gyd-gyfarwyddwr Gareth Street, mai dyma oedd yr unig westy ar gael ar fyr rybudd i roi lloches mewn sefyllfa o "argyfwng".
Os nad oedd ceiswyr lloches yn gallu cael eu gosod yno, meddai, "byddai'n arwain at risg eu bod yn cael eu cadw'n hirach mewn cyfleusterau ac amodau israddol a rhy llawn, fel Canolfan Manston, neu'n waeth fyth, eu bod yn ddigartref".
'Colli gwesty enwog'
Wrth ymateb i'r dyfarniad dywedodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Darren Price, eu bod yn "siomedig".
"Ond nid wy'n difaru dod â'r achos hwn i'r llys, gan fod arnon ni hyn i drigolion a busnesau Llanelli, i gymuned Ffwrnes, ac i'r staff yng Ngwesty Parc y Strade, er mwyn cymryd pob cam posib," meddai.
Ychwanegodd y byddai'r cyngor yn aros i glywed y dyfarniad llawn, ac yn y cyfamser eu bod yn parhau i roi cymorth staff y gwesty "drwy'r cyfnod anodd hwn", gan gynnwys eu helpu i ddod o hyd i swyddi newydd.
"Mae'r Cyngor yn dal i fod o'r farn fod angen i Lywodraeth y DU adolygu ei pholisi ar y defnydd o westai wrth letya ceiswyr lloches," meddai.
"Yn amlwg, nid yw'r dull presennol yn gweithio."
Wrth ymateb i gamau'r cyngor, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, a bod hynny'n rhoi "straen anhygoel" ar y system lloches.
"Rydym wedi bod yn glir fod defnyddio gwestai i gartrefu ceiswyr lloches yn annerbyniol - mae dros 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai ar hyn o bryd, yn costio £6m y dydd i drethdalwyr y DU.
"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i wneud pob ymdrech i leihau'r defnydd o westai, a chyfyngu'r baich ar y trethdalwr."
Eglurodd y datganiad nad oedd y Swyddfa Gartref fyth yn gwneud sylw ar faterion os oedd camau cyfreithiol ar y gweill.
Nid oeddynt yn rhan o unrhyw benderfyniadau'n ymwneud â staff, meddai, roedd hynny'n fater i berchnogion a chontractwyr.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, fe feirniadodd AS Llanelli, Nia Griffith, y Swyddfa Gartref gan ddweud bod yna ddiffyg ymgynghori ar y cynlluniau.
Gofynnodd: “Pam nad yw’r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru a siroedd Cymru i weld a oes na lefydd addas iddyn nhw [ffoaduriaid] eu defnyddio?
"Doedd 'na ddim gwybodaeth i staff chwaith, wythnos ar ôl wythnos. Mae hyn yn ofnadw' iddyn nhw."
Ychwanegodd: "Nid yw fan hyn yn lle addas. Ni yn colli gwesty sydd yn enwog ac mae pobl yn ei ddefnyddio.
"A ni’n colli twristiaid i ddod i’r ardal, a bydd yn rhoi straen ar y gwasanaethau eraill yn yr ardal.”
Mae perchnogion y gwesty, Sterling Woodrow, wedi cael cais am sylw.