Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
a525 RhuthunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ar yr A525 yn Rhewl ddydd Sul

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Rhuthun, Sir Ddinbych ddydd Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha ac Audi Q3 ar yr A525 yn Rhewl. Bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle.

Cafodd dyn, menyw a phlentyn oedd yn teithio yn y car eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd gyda mân anafiadau.

Dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes o Heddlu Gogledd Cymru: "Yn anffodus rydym yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol arall ar ffyrdd gogledd Cymru ac mae ein cydymdeimlad dwys yn mynd i deulu a ffrindiau'r beiciwr modur ar yr adeg anodd yma."

Ychwanegodd: "Roedd y beiciwr modur yn teithio gyda grŵp o feicwyr, ac rydym yn annog unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal neu sydd 'efo delweddau dashcam i gysylltu â ni cyn gynted â phosib.

"Mi fydden i hefyd yn hoffi diolch i'r gymuned leol a'r cyhoedd am eu hamynedd a dealltwriaeth tra bod y ffordd ar gau er mwyn gadael i'r uned ymchwilio i wrthdrawiadau fforensig gynnal ei hymchwiliad cychwynnol."

Cafodd y ffordd ei hail-agor yn fuan cyn 18:30 ddydd Sul.

Pynciau cysylltiedig