Sir Gâr: Cyn-athro wedi marw 'ar ôl ffrae annibyniaeth'
- Cyhoeddwyd
Bu farw cyn-athro ar ôl cael ei wthio yn y stryd yn dilyn ffrae dros annibyniaeth i Gymru, mae llys wedi clywed.
Roedd Peter Ormerod, 75, wedi ffraeo mewn tafarn yn Sir Gâr gyda Hywel Williams, 40, ynghylch a ddylai Cymru fod yn wlad ar wahân i'r DU.
Clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd y dynion yn cytuno ar y pwnc, a'u bod wedi trafod y mater mewn tafarn ym Mhorth Tywyn cyn digwyddiad rhwng y ddau y tu allan.
Mae Hywel Williams o Gaerdydd yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad.
'Rhywfaint o anghytuno'
Bu farw Mr Ormerod, cyn-athro yn Ysgol Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, yn dilyn digwyddiad ym Medi 2022.
Clywodd y llys ei fod yn nhafarn y Portobello ym Mhorth Tywyn ar y noson dan sylw, ar wahân i Mr Williams, ond bod sgwrs wedi troi at annibyniaeth a gwleidyddiaeth yn gyffredinol.
Dywedodd yr erlynydd Ian Wright KC bod "rhywfaint o anghytuno" rhwng y ddau ddyn.
Aeth y ddau allan o'r dafarn yn fuan ar ôl ei gilydd, ac fe glywodd y llys bod lluniau CCTV o'r ddau gyda'i gilydd ger siop goffi.
Dywedodd Mr Wright bod Mr Ormerod wedi mynd at Mr Williams gan bwyntio tuag ato.
"Yn dilyn hynny, mae'r ddau ddyn yn ymddangos ar y CCTV yn symud at ei gilydd cyn i Hywel Williams wthio Peter Ormerod yn ei frest", meddai.
"Fe wnaeth y gwthiad achosi i Peter Ormerod ddisgyn yn ôl a tharo cefn ei ben.
"Ar ôl taro ei ben ar y llawr, ni wnaeth Peter Ormerod symud eto."
Gwadu dynladdiad
Clywodd y llys bod Mr Williams wedi galw ambiwlans ac aros ar y safle nes i'r heddlu ei arestio.
Clywodd y llys hefyd bod Mr Williams wedi rhegi ar Mr Ormerod yn yr eiliadau ar ôl y digwyddiad.
Bu farw Mr Ormerod bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty ar ôl cael anafiadau difrifol i'w ben.
Clywodd y llys bod Mr Williams wedi honni mai amddiffyn ei hun a wnaeth y noson honno.
Dywedodd wrth yr heddlu bod Mr Ormerod "wedi dod tuag atai", a'i fod wedi "ei wthio i ffwrdd".
Mae Mr Williams yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022