Teyrngedau i gyn-athro, 75, wedi digwyddiad ym Mhorth Tywyn
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-athro wedi marw yn dilyn digwyddiad ym Morth Tywyn ger Llanelli nos Sadwrn.
Bu farw Peter Ormerod, 75, ddydd Mercher ar ôl dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad ar Heol yr Orsaf, Porth Tywyn.
Roedd Mr Ormerod yn adnabyddus fel cyn-athro Mathemateg poblogaidd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin.
Mae dyn o Gaerdydd yn cael ei gadw'n y ddalfa wedi ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.
Fe ymddangosodd Hywel David Williams, 39, o ardal Grangetown y brifddinas yn Llys Ynadon Llanelli fore Mercher.
'Cariadus ac annwyl'
Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu fod "Peter yn berson uchel ei barch, fel athro ac fel aelod o'r gymuned".
"Roedd yn dad, yn dadcu ac yn frawd cariadus ac yn ffrind annwyl iawn."
Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn, meddai Heddlu Dyfed Powys.
Dywedodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Bro Myrddin, fod Mr Ormerod yn "agos iawn i galonnau pawb" yn yr ysgol a'u bod wedi eu "syfrdanu" o glywed y newyddion.
"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu ar yr adeg anodd yma," meddai.
"Bu'n gydweithiwr triw ac athro Mathemateg brwd ar hyd ei gyfnod o dros 30 o flynyddoedd yn yr ysgol. Bu'n aelod hefyd o'r Uwch Dîm Arwain ac roedd ysgol Bro Myrddin yn agos iawn i'w galon hyd yn oed ar ôl ei ymddeoliad yn 2009.
"Bydd cenhedlaeth o blant yn cofio amdano gyda gwên ac yn diolch am y cyfle o fod o dan ei adain."