Porth Tywyn: Diffynnydd wedi cyfaddef gwthio cyn-athro
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn achos cyn-athro a fu farw wedi ffrae am annibyniaeth wedi gweld lluniau camera cylch cyfyng ohono yn cael ei wthio y tu allan i dafarn yn Sir Gâr.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Hywel Williams wedi gwthio Peter Ormerod y tu allan i dafarn y Portobello ym Mhorth Tywyn.
Roedd y llys eisoes wedi clywed bod Peter Ormerod, 75, a Hywel Williams 40, wedi ffraeo am a ddylai Cymru fod yn wlad ar wahân i'r DU.
Ddydd Mawrth roedd y lluniau CCTV a welodd y rheithgor yn dangos Hywel Williams yn gwthio Peter Ormerod i'r llawr am 22:41 ar 24 Medi 2022.
Mae Hywel Williams o Gaerdydd yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad.
Clywodd y llys bod Mr Ormerod wedi bwrw ei ben yn erbyn y llawr wedi iddo gael ei wthio, ac nad oedd wedi symud.
Bu farw yr athro a oedd yn arfer dysgu yn Ysgol Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Ramadeg Caerfyrddin bedwar diwrnod yn ddiweddarach ar 28 Medi wedi iddo gael anafiadau difrifol i'w ben a'i ymennydd.
Clywyd bod Hywel Williams yn sefyll ger ei fam, Marilyn Williams, adeg y digwyddiad.
Ar y ffilm CCTV mae Ms Williams i'w chlywed yn gweiddi "O Hywel, Hywel" yn syth wedi'r digwyddiad.
Mae Hywel Williams i'w glywed yn ymateb drwy ddweud "Beth bynnag Mam. Dyw e ddim yn gallu dod ata i fel'na. Fe ellith e **** bant, yr hen **** bach tew".
Yn ei dystiolaeth yntau, fel un o'r bobl gyntaf i gyrraedd lleoliad y ffrwgwd rhwng y ddau ddyn, dywedodd landlord y dafarn ers 16 mlynedd, Malcolm Parker, bod golwg anhapus ar Mr Ormerod wrth iddo adael ac iddo gau giât yn glep ar ei ôl.
"Roedd yn edrych fel petai rhywbeth ar ei feddwl," dywedodd wrth y llys.
Roedd Mr Ormerod, meddai, "wedi symud i mewn i ofod personol y dyn arall", ac roedd Mr Williams wedi ei wthio "mewn panic".
Gan ddisgrifio'r gwthiad yn un "caled iawn", fe glywodd sŵn pen Mr Ormerod yn taro'r palmant, ac roedd Mr Williams yn amlwg yn ofidus a "methu stopio crynu".
'Alla i ddim credu bod hyn yn digwydd'
Clywodd y rheithgor hefyd yr alwad 999 a wnaed gan Hywel Williams i Heddlu Dyfed-Powys 40 eiliad wedi'r digwyddiad.
Yn ystod yr alwad mae Mr Williams yn cyfaddef ei fod wedi gwthio Mr Ormerod ac mae'n dweud: "Fe ddywedodd wrtha i am **** bant ac fe wnes i ei wthio... Alla i ddim credu bod hyn yn digwydd."
Nodwyd hefyd fod Mr Ormerod yn gwaedu'n drwm o'i glust a bod ei guriad calon yn wan.
Mae'r lluniau CCTV a'r alwad 999 yn dangos Mr Williams yn mynd i nôl diffibriliwr gyferbyn â gorsaf drên Porth Tywyn.
Mae Mr Williams yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022