Bardd y Mis: Pum munud gyda Katie Gramich
- Cyhoeddwyd
Bardd y Mis BBC Radio Cymru ar gyfer mis Gorffennaf ydi Katie Gramich o Geredigion.
Ers ymddeol fel darlithydd mewn llenyddiaeth Saesneg, gwaith creadigol yn hytrach na gwaith academaidd sydd yn dwyn ei hawen y dyddiau hyn. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.
Rwyt ti'n wreiddiol o Rydlewis, Ceredigion a rwyt ti bellach yn byw yn Aberystwyth ers ymddeol. Wyt ti wedi treulio cyfnodau yn byw tu hwnt i Geredigion a beth sy'n gwneud yr ardal yma yn arbennig i ti?
Ie, un o Rydlewis ydw i yn wreiddiol, pentref Moelona a Charadoc Evans ill dau, ac mae hynny'n dweud llawer am y deuoliaethau sy'n fy nghythryblu o ddydd i ddydd! Symudon ni i fyw yn Aberystwyth ar ôl i mi ymddeol o Brifysgol Caerdydd; mae'n braf bod nôl yng Ngheredigion a chlywed iaith y Cardi, fy nhafodiaith innau, o'm cwmpas.
Wedi dweud hynny, mae Aberystwyth braidd yn wahanol i dde Ceredigion. Pan glywes i gymydog yn dweud ei fod yn mynd i dorri'r 'sietin', ro'n i'n becso braidd, achos doedd dim clem 'da fi beth oedd yn mynd i'w wneud! Rwy hefyd wedi clywed cymdogion yn dweud 'goriad' yn lle 'allwedd' a hyd yn oed 'rŵan' yn lle 'nawr'...dwi ddim yn dafodieithegydd ond mae hyn yn awgrymu i mi fod Aber yn gorwedd ar ryw ffin anweledig rhwng de a gogledd. Mae hynny'n fy siwtio i i'r dim. Ar y ffin rwy'n hoffi bod.
Ydw, rwy wedi byw yn llawer o lefydd gwahanol cyn dod yn ôl i Geredigion. Bues i'n byw yn Sbaen am sbel wrth astudio Sbaeneg yn nhref hardd a hanesyddol Salamanca. Ac wedyn bues i yn Alberta, Canada yn gwneud fy noethuriaeth.
Wrth edrych yn ôl, gwelaf mai profiad byw yng Nghanada wnaeth i mi sylweddoli go iawn mai Cymraes oeddwn i. Mae hynny'n swnio'n baradocsaidd, ond rwy'n siŵr ei bod hi'n brofiad nid anghyffredin.
Gorfod egluro tro ar ôl tro mai Cymraes oeddwn i, ac nid Saesnes, disgrifio'r iaith a'r diwylliant gwahanol, hiraethu am fynyddoedd tra oeddwn yng nghanol gwastadeddau helaeth y Paith...ie, ar ôl pedair blynedd hapus yno, dychwelais i Gymru yn gwybod pwy oeddwn i. Wel, mwy neu lai.
A beth yn benodol sy'n arbennig am Aber? Codi yn y bore, edrych mas drwy'r ffenest a gweld tri pholyn ar y gorwel: Cofeb Wellington ar Bendinas (1853), mast deledu Blaenplwyf (1956), a thyrbin gwynt Cefn Croes (2005). Angylion di-adain yn sefyll o dy flaen fel petaent yn adrodd hanes Cymru fodern. Ydw, rwy wedi sgrifennu cerdd amdanyn nhw....
Roeddet yn arfer darlithio mewn llenyddiaeth Saesneg. Ydy'r iaith Saesneg a'i llenyddiaeth yn dylanwadu arnat wrth ysgrifennu yn Gymraeg?
Ydyn, yn bendant. Ambell waith rwy'n edrych yn ôl ar rywbeth dwi wedi sgrifennu a sylweddoli mai fersiwn Cymraeg o linell Saesneg sydd wedi nythu yn fy mhen ydyw. Er enghraifft, wnes i lunio'r llinellau 'Mae blaenau dy fysedd yn ymbalfalu am ddefnyddiau'r fferm,/Ac yn llithro dros dannau trist telyn y blynyddoedd' fel diweddglo i gerdd o'r enw 'Defnyddiau'r fferm' ac yna gweld bod y geiriau'n atsain o ddiwedd nofela Carson McCullers, Ballad of the Sad Café.
Weithiau, mae'r benthyg o'r Saesneg yn fwy ymwybodol. Rwy'n arbennig o hoff o gerddi'r bardd Eingl-Gymreig, Edward Thomas, er enghraifft, ac ar ddiwedd cerdd arall o'r enw 'Shibwns' mi wnes i sgrifennu llinell sydd mwy neu lai yn gyfieithiad o linell olaf cerdd Thomas, 'Old Man': 'Gwelaf blant unig, ofnus yn tyrru at ei gilydd/mewn coridor hir, cul, tywyll, heb ddiwedd'.
Rwyt ti'n perthyn i deulu amlieithog. Sonia am hynny a faint o ieithoedd rwyt ti'n siarad?
Mae ieithoedd wedi bod yn bwysig i mi erioed. Gwnes i Sbaeneg a Lladin yn yr ysgol ac rwy'n cofio'n iawn llefain drwy'r nos pan glywais fod yr athro Lladin yn ymddeol ac felly doedd dim modd i mi astudio'r iaith fel pwnc Lefel A. Ond mi wnes i barhau efo Sbaeneg i fyny at MA. Roedd llên Lladin-Americanaidd yn apelio ataf yn fwy na dim, yn enwedig gwaith Jorge Luis Borges a Pablo Neruda. Rwyf wedi cyfieithu rhai o'u cerddi i'r Gymraeg. Sgrifennais ddoethuriaeth yn cymharu barddoniaeth Saesneg, Sbaeneg a Ffrangeg y Caribî, felly rwy'n gallu darllen Ffrangeg yn net.
Wedyn nes i briodi Almaenwr o München, ac mae Almaeneg wedi bod yn rhan o'n bywyd teuluol a diwylliannol am ddegawdau. Ar hyn o bryd rwy'n canolbwyntio ar gyfieithu cerddi'r bardd cyfoes o'r Almaen, Jan Wagner - mae ei waith yn syfrdanol ac unigryw. Yn ddiweddar rwyf wedi cyfrannu at flodeugerdd amlieithog sy'n cael ei olygu gan John Eliot yn Budapest - mae cerddi Cymraeg yn ein dwy iaith ymddangos ar y cyd gyda chyfieithiadau Almaeneg a Hwngareg. Cyfieithwyd 2 o'm cerddi i i'r Almaeneg (gan rywun arall) a phan ddarllenodd Johannes nhw, dywedodd 'wyt ti'n swnio fel Jan Wagner!' Roeddwn i mor blês.
Mae Johannes, y gŵr, ac Eluned, y ferch, yn sgrifennu'n greadigol hefyd; maen nhw'n feirniaid craff iawn. Treuliodd Eluned gwpwl o flynyddoedd yn Japan, a dod yn rhugl yn yr iaith, tra bod Johannes a finnau'n hercian ar ei hôl.
Daw'r mab-yng-nghyfraith, Renato, o Rio de Janeiro yn wreiddiol, ac felly mae Portiwgaleg wedi dod yn rhan o alaeth ieithyddol y teulu. Mae Angharad, y wyres 3 oed, yn ddigon cyfforddus mewn 4 iaith erbyn hyn, ond dim ond Cymraeg dwi'n siarad â hi am y tro. Mae ei hiaith ffres hi yn ysbrydoliaeth feunyddiol.
Rwyt ti wedi cyfieithu rhai o gerddi Gwerful Mechain o'r Gymraeg i'r Saesneg. Beth yw dy hoff gerdd gan Gwerful Mechain a pham y penderfynaist gyfieithu ei gwaith i'r Saesneg?
Daeth Gwasg Broadview ataf a gofyn i mi lunio cyfieithiad o'i gwaith, yn bennaf ar gyfer myfyrwyr yng Ngogledd America a oedd yn astudio llenyddiaeth y canol oesoedd. Dywedais na, am nad ydwyf yn arbenigwraig yn y canol oesoedd o gwbl. Ond roedden nhw tamaid bach fel Mrs Doyle yn Father Ted - 'Ach go on, go on, go on, go on' ac yn y diwedd wnes i gytuno.
Nid mod i ddim am wneud y gwaith, ond roedd hi mor bell allan o'm comfort zone roedd hi'n fy nychryn yn lan. Ar yr un pryd, roedd hi'n bwysig i mi fod darllenwyr rhyngwladol yn dod i wybod am Werful Mechain oherwydd roeddwn yn teimlo ei bod hi wedi cael ei chuddio i raddau gan y byd academaidd Cymreig tan yn gymharol ddiweddar. Wrth gwrs, 'Cywydd y cedor' yw ei cherdd fwyaf adnabyddus erbyn hyn, ac roedd hi'n lawer o sbort cyfieithu honna!
Mae Gwerful mor ddoniol a chynnil yn ei dychan o feirdd gwrywaidd. Ond rhaid cyfaddef, nid honna yw fy hoff gerdd ganddi. Gobeithio nad yw hi'n swnio'n rhy drist, ond rwy'n hoffi'r englyn 'Y bedd':
Och! lety, gwely gwaeledd - anniddan
Anheddle i orwedd,
Cloëdig, unig annedd,
Cas gan bawb yw cwsg y bedd.
A dyma fy nghyfieithiad i:
Oh last lodging, affliction's enclave,
Hard abode to abide in; none craves
To lie down in this locked, lonely cave,
Nor longs for the sad sleep of the grave.
Petaet yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?
Mae beirdd yn dueddol i fyw bywydau poenus neu farw'n ifanc, felly dwi ddim yn ffansïo bod yn eu hesgidiau nhw am ddiwrnod. Neu, wedi meddwl, efallai gallwn ni fyw diwrnod olaf y beirdd a fu farw cyn eu hamser ac achub nhw i sgrifennu rhagor o gerddi: rwy'n meddwl am feirdd fel Sylvia Plath, Charlotte Mew, Edward Thomas, Keats, Emily Brontë, Phillis Wheatley, ac yn y blaen.
Ond os yw hynna'n swnio ychydig yn uchelgeisiol, byddwn i'n dewis fod yn Goethe - mi gafodd e fywyd hir a llawn, ac roedd yn gwybod popeth, felly gallwn i ddysgu tipyn o gael ei ymennydd ef am ddiwrnod.
Pa ddarn o farddoniaeth fyddet ti wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?
Cymaint, cymaint o gerddi! Ni allaf ddewis dim ond un.
Dyma'r deg uchaf: The idea of order at Key West gan Wallace Stevens, God's Grandeur gan Gerard Manley Hopkins, Goblin Market gan Christina Rossetti, The Song of Wandering Aengus gan W. B. Yeats, As the team's head brass gan Edward Thomas, In time of the breaking of nations gan Thomas Hardy, A Marriage gan R. S. Thomas, Frost at Midnight gan Coleridge, Aubade gan Philip Larkin a One Art gan Elizabeth Bishop.
Pam? Maen nhw i gyd yn berffaith ac ni allwn i fyth obeithio dod yn agos at eu gorchest. Ond, mae'n rhaid rhygnu 'mlaen neu, fel y dywedodd Samuel Beckett unwaith, "Try again. Fail again. Fail better."
Fel cyn ddarlithydd a beirniad llenyddol, pa gyngor fyddet ti'n ei roi i rywun sy'n awyddus i ysgrifennu'n greadigol ond sydd yn teimlo'n ddihyder i gyhoeddi ei waith?
Ysgrifennwch rywbeth bob dydd, heb ffael. Peidiwch â chael eich rhithio i waith arall, fel ysgrifennu academaidd - bydd pobl eraill yn gallu gwneud y gwaith gwerthfawr hwn yn eich lle. Dim ond chi sydd â'r fflam creadigol y tu mewn i chi - peidiwch â gadael iddo ddiffodd.
Hefyd o ddiddordeb: