Morgeisi: Pobl ifanc yn 'anobeithiol' dros brynu tŷ

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, roedd Luke Davies yn trafod ei drafferthion yn prynu tŷ

Mae pobl ifanc yn dweud fod prynu tŷ yn teimlo'n "anobeithiol" a'u bod yn cael eu "cosbi" gan y sefyllfa bresennol yn y farchnad dai.

Gyda chyfraddau llog ar eu huchaf ers y cwymp ariannol yn 2008 a phrisiau rhent yn codi'n gyflym, mae miloedd o bobl ifanc sy'n ceisio prynu eu tŷ cyntaf yn ystod un o'r cyfnodau anoddaf i wneud hynny mewn cenhedlaeth.

Ond mae eraill sy'n rhentu hefyd yn dweud eu bod yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw obaith o gynilo digon o arian i hyd yn oed gael blaendal ar gyfer prynu.

Mae Llywodraeth y DU, sydd yn gyfrifol am y diwydiant morgeisi, wedi cael cynnig i ymateb.

'Ysu am rhywle i alw'n gartref'

"Mae gena'i gyflog da ond efallai y bydd rhaid i mi gael ail swydd."

I Freya Milner, sy'n 24 oed, mae'r sefyllfa yn un hynod rwystredig.

Ffynhonnell y llun, Freya Milner
Disgrifiad o’r llun,

Mae Freya yn talu £775 y mis mewn rhent - sydd ddim yn cynnwys biliau - am ei fflat un ystafell

Er iddi gael cymorth gael ei theulu i gasglu blaendal at ei gilydd, mae cyfraddau llog uchel yn ogystal â phrinder o dai addas fforddiadwy yn golygu ei bod yn dal i dalu bron i hanner ei chyflog ar rent.

Mae gan Freya swydd sy'n talu'n dda, meddai, fel crëwr cynnwys gwyddonol i gwmni gemau cyfrifiadurol addysgiadol.

Ond does ganddi ddim syniad sut mae disgwyl i bobl sengl proffesiynol brynu tŷ heb gymorth.

Mae Freya yn talu £775 y mis mewn rhent sydd ddim yn cynnwys biliau am ei fflat un ystafell, y pris isaf meddai am gartref "lle nad oedd y paent yn disgyn oddi ar y wal".

Mae'n ysu, meddai, i gael rhywle iddi fedru galw'n gartref.

"Fydden ni ddim yn meindio rhentu tase fe ddim mor ddrud am fflat sydd yn aml yn llawn problemau."

Mae'n credu fod tai a fflatiau yng Nghaerdydd o safon arbennig o wael, ac iddi fyw mewn un eiddo gyda thwll yn y nenfwd ac ei bod "mor oer na allwn i gysgu".

Ffynhonnell y llun, Freya Milner
Disgrifiad o’r llun,

Bu i Freya weithio drwy'r pandemig

Mae'n dweud fod rhaid i brofiadau pobl ifanc gael eu cymryd o ddifri' ac i gymdeithas sylweddoli fod yr ifanc eisoes yn aberthu llawer.

"Does gena'i ddim car achos mae rhedeg un yn rhy ddrud ar fy nghyflog presennol," meddai.

"Mae gen i ddwy radd ac mi weithiais drwy'r pandemig yn profi samplau Covid.

"Ond dyw fy nghyflog ddim yn ddigon i gael morgais o £200,000."

'Pobl ifanc yn digalonni'

Yn ôl Freya mae gormod o bobl yn teimlo fod y to ifanc yn wastraffus, ond mae'n mynnu fod pobl ifanc yn fwy na bodlon i weithio'n galed, ond fod y farchnad yn rhy ddrud ac nad oes digon o gefnogaeth ar gael.

"Rodd y genhedlaeth o'm blaen i yn dweud 'cael di radd dda a bydd popeth arall yn iawn', ond dyw hynny heb ddigwydd. 

"Rwy'n gweithio llawn amser ond alla i ddim ennill digon. Sai'n yfed a sai'n mynd mas i fwyta fwy nag unwaith y mis, fel arfer ar gyfer penblwydd ffrind."

"Rwy'n credu fod pobl ifanc yn digaloni," meddai Freya. "Ry'n ni eisiau cael llefydd ein hunain."

Mae'n cofio panig pobl yn 2008, meddai, ac yn cwestiynu pam nad oes panig tebyg heddiw.

"Ro'n i tua 10 oed a dwi'n cofio y panig a'r pryder. Ac eto does na ddim yr un fath o sylw yn y wasg a'r cyfryngau y tro hyn.

"Ry'n ni fod i dderbyn y sefyllfa a gobeithio y bydd pethau'n gwella."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraddau llog wedi codi'n sylweddol dros y misoedd diwethaf

Mae cyfraddau llog ar eu huchaf ers 15 mlynedd.

Mae morgais pris penodol yn cael ei werthu gyda llog o 6% neu fwy, a bydd morgeisi pobl yn codi o tua £500 y mis i 1 miliwn o berchnogion tai cyn ddiwedd 2026.

Mae nifer y cartefi sydd ar gael wedi gostwng o bron i draean, sy'n poethi'r farchnad ymhellach.

Ac yn ôl gwefan Zoopla mae rhent wedi cynyddu 11.1% yn y flwyddyn rhwng Ionawr 20022 a Ionawr 2023.

Yng Nghaerdydd mae rhent wedi cynyddu 10.8%, ond yng Nghastell Nedd Port Talbot roedd 'na gynnydd o 16%.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn dweud fod Banc Lloegr mewn "perygl gwirioneddol" o or-gywiro wrth godi cyfraddau llog i reoli chwyddiant, gan achosi trallod "y mae modd ei osgoi" i filoedd.

Fe gyhuddodd y banc canolog o "achosi dirwasgiad yn fwriadol".

"Mae'n amlwg iawn o'r hyn maen nhw wedi'i ddweud eu bod nhw'n mynd i godi cyfraddau llog i bwynt lle mae diweithdra yn mynd i fod yn codi ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ac ni fydd Cymru wedi'i heithrio o hynny," meddai Mr Drakeford wrth BBC Radio Wales Breakfast ddydd Iau.

"Ni fydd wedi gweld effaith yr holl godiadau cyfradd llog y mae wedi ei roi yn y system hyd yn hyn."

'Allwn ni ddim gwario £900 yr un'

Mae Andrew Noel yn dweud fod angen amddiffyn buddiannau pobl sy'n rhentu cyn y gallan nhw hyd yn oed feddwl am brynu tŷ.

Mae'n gweithio yn y sector preifat ac yn rhannu tŷ ar hyn o bryd gyda ffrind.

Dyw prynu ddim yn opsiwn iddo ar hyn o bryd yn bennaf am fod rhentu mor ddrud, ond hefyd am fod morgeisi fel ag y maen nhw.

Mae'r syniad o gynilo, meddai Andrew, yn anodd gan fod y realiti o brynu tŷ mor bell i ffwrdd.

Ffynhonnell y llun, Andrew Noel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Noel yn dweud fod angen gwneud mwy i helpu'r rheiny sy'n rhentu

I'r rhai sy'n ceisio cynilo maen rhaid dygymod ag eiddo gwael ar rent uchel, meddai Andrew.

Mae'n rhaid iddo adael ei gatref bresennol ym mis Chwefror, ac ar hyn o bryd nid yw'n medru sicrhau ymweliad ag unrhyw ddarpar lety.

"'Da ni yn ceisio chwilio am rywle sydd ddim yn mynd i gymryd ein cyflog i gyd bob mis," meddai.

"Yn amlwg rydyn ni angen arian wrth gefn i dalu biliau, felly allwn ni ddim gwario £900 yr un."

Yr unig opsiwn felly, yn ôl Andrew, yw naill ai byw gyda rhieni am flynyddoedd i gynilo neu prynu fel rhan o gwpwl.

"Mi allwn ni fyw heb dim math o bleser ond beth yw'r pwynt o hynny," meddai.

"Be' di'r pwynt byw mewn dinas fel hyn?"

Rheoli costau rhent yw'r unig ateb meddai Andrew: "Mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth a bydd rhaid i bobl ddechrau symud mas o'r ddinas."

'Roeddwn yn grac ac eitha trist'

Un a gafodd siom yn ddiweddar yw Luke Davies, wrth geisio prynu tŷ y tu allan i Gaerdydd.

Yn gyflwynydd ac actor hunan-gyflogedig, mae'n wreiddiol o ardal Llanelli ond bellach yng byw yn y brifddinas.

Er mwyn gallu meddwl am brynu tŷ roedd Luke wedi llwyddo i sicrhau blaendal o £30,000, gyda chymorth ychwanegol gan ei deulu wrth ymgeisio am forgais o £200,000.

Byddai morgais fel hyn yn golygu ad-daliadau misol o gwmpas £800-£900 y mis.

Mae hyn yn wahanol i ffrindiau Luke, meddai, sy'n talu tua £400 y mis gan fod prisiau wedi cynyddu ers iddyn nhw sicrhau eu morgeisi.

Ond gyda phob dim yn i le, roedd Luke wedi rhoi cynnig ar dŷ.

Ffynhonnell y llun, Luke Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Luke wedi llwyddo i sicrhau blaendal o £30,000

Ond ddydd Llun fe chwalodd y freuddwyd o fod berchen ar dŷ wrth i'r gwerthiant ddisgyn drwodd.

Bellach gyda phrisiau tai yn codi, a'r ffaith fod ei gais am forgais yn amodol ar gyfer y tŷ arbennig yma, dydy Luke ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd i'r morgais erbyn hyn.

Ond gyda morgeisi ddim mor gystadleuol nawr a phan wnaeth y cais gwreiddiol, mae'n edrych y bydd hi'n anoddach fyth i ddod o hyd i dŷ arall.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd: "Rwyf i a fy mhartner yn self employed felly mae pob ceiniog yn cownto.

"Gafodd y cynnig ei dderbyn fis Ebrill, oedd yn newydd gwych... oedd popeth yn ei le.

"Ar y pryd, ac am gwpl o oriau, roeddwn yn eitha grac ac eitha trist."

Er yn gobeithio y byddant yn gallu sicrhau tŷ yn y pendraw, ychwanegodd Luke mai'r bwriad nawr yw symud i dy rhieni ei barner am "ychydig o fisoedd".

"Mae'n rhaid bod yn bositif," meddai.

"Ond ni'n lwcus iawn fod ganddon ni ddigon o waith."

Pynciau cysylltiedig