Pris morgeisi: 'Anochel y bydd pethau'n mynd yn dynnach'
- Cyhoeddwyd
"Dwi just ddim yn gwybod beth i'w wneud. Dwi wedi bod yn aros ac yn aros, ac yn gobeithio bod pethau yn mynd i wella."
Mae Julie Richards yn awyddus i brynu tŷ wedi 10 mlynedd o rentu ym Mhontypridd.
Yn fam sengl ac yn ei 50au, ei chynllun oedd ail-ymuno â'r farchnad dai eleni.
Ond ar ôl gweld prisiau tai yn cynyddu'n aruthrol ers cyfnod Covid, mae cynnydd yng nghostau benthyg bellach yn rhwystro gwireddu'r freuddwyd.
"Dwi wedi bod yn meddwl dros y flwyddyn ddiwethaf am brynu tŷ," meddai. "Dwi eisiau rhywbeth sefydlog."
Gyda merch yn ei harddegau fydd yn mynd i'r coleg ymhen dwy flynedd mae Julie yn barod i adael tŷ tri llofft yng nghanol Pontypridd a symud i gartref newydd sy'n llai o faint.
Ond ar adeg pan mae Julie yn barod i ymrwymo'n ariannol i brynu tŷ, mae'r gost o gael morgais yn debyg o fod yn uwch nag ar unrhyw adeg ers argyfwng ariannol 2008.
Rhent yn codi hefyd?
Yn ôl ffigyrau'r gwasanaeth data ariannol Moneyfacts, mae costau benthyg wedi bron â threblu ers y flwyddyn ddiwethaf.
Ym mis Hydref 2021, roedd hi'n bosib cael cyfradd llog gwerth 2.25% ar gyfer cytundeb dwy flynedd (fixed-rate deal), a'r gyfradd ar gyfer cyfnod o bum mlynedd oedd 2.55%.
Ond erbyn 6 Hydref 2022 roedd y cyfraddau llog wedi cynyddu i 6.11% am ddwy flynedd, a 6.02% ar gyfer pum mlynedd.
Mae'r cynnydd yn destun pryder i Julie Richards a'r miliynau o bobl eraill sydd am drefnu morgais newydd.
Ac mae Julie yn poeni y bydd landlordiaid yn gofyn am fwy o rent, wrth i'w costau benthyg nhw gynyddu hefyd.
Dywedodd Julie: "Dwi just ddim yn gwybod beth i'w wneud, dwi ddim reallyeisiau bod yn talu morgais rhywun arall. Hefyd efallai bydd y rent yn mynd i fyny oherwydd y cyfraddau yn codi.
"Felly dwi mewn sefyllfa anodd iawn, a just ddim yn gwybod ble fyddai mewn mis, neu mewn pum mis."
'Mwy yn mynd i drafferthion'
Mae pennaeth un cymdeithas adeiladu wedi rhybuddio y bydd mwy o fenthycwyr yn mynd i drafferthion ariannol wrth i gyfraddau llog gynyddu.
Dywedodd Will Carroll, pennaeth Monmouthshire Building Society, y bydd "pethau'n mynd yn dynnach" wrth i gostau benthyg godi.
Roedd y gymdeithas adeiladu yn un o nifer i dynnu rhai morgeisi a chyfraddau sefydlog o'r farchnad yn sgil cyhoeddi cyllideb fechan Llywodraeth y DU.
Ychwanegodd Mr Carroll fod ei staff eisoes yn helpu'r rhai sy'n pryderu am gynnydd i'w costau ad-dalu, a'r rheiny sy'n rhagweld y bydd costau yn cynyddu pan fydd eu cytundebau presennol yn dod i ben.
"Rwy'n meddwl ei bod yn anochel, gydag argyfwng costau byw a chostau'n cynyddu'n gyffredinol, y bydd pethau'n mynd yn dynnach.
"Ond fel benthyciwr cyfrifol, pan fyddwn yn cytuno morgais rydym yn cymryd i ystyriaeth cynnydd mewn cyfraddau llog yn y dyfodol ar allu unigolyn i dalu. Felly mae'r elfen honno o ddiogelwch o fewn eu taliadau morgais, pan maen nhw'n cael y morgais i ddechrau.
"Felly er ein bod ni'n disgwyl cynnydd yn yr aelodau hynny sy'n profi anawsterau ariannol, rydyn ni'n gobeithio na fydd yn rhy ddifrifol ac y gallwn ymdopi nes efallai y bydd pethau'n dychwelyd i sefyllfa mwy arferol."
Er gwaethaf yr ansicrwydd, mae Julie Richards yn dweud ei bod yn hyderus ac mi fydd hi'n cadw llygaid barcud ar y farchnad wrth i forgeisi ddechrau ail-ymddangos.
"Dwi'n berson positif ar y cyfan, felly dwi'n obeithiol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022