Pridd gan Llŷr Titus yn cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023
- Cyhoeddwyd

Yn ôl un o'r beirniaid, mae Pridd gan Llŷr Titus yn ein cyflwyno i "arddull newydd yn y Gymraeg"
Llŷr Titus sydd wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023 am ei nofel, Pridd.
Cafodd y nofel - sy'n creu darlun o fywyd hen ŵr yng nghefn gwlad Llŷn - ei disgrifio fel darn "gwreiddiol", "awthentig" a "thrawiadol" gan y beirniaid.
Cyhoeddwyd hefyd mai Sgen i'm Syniad - Snogs, Secs, Sens gan Gwenllian Ellis ddaeth i'r brig yng Ngwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni, gydag Anwyddoldeb gan Elinor Wyn Reynolds yn cipio'r wobr Farddoniaeth.
Caryl Lewis - sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn yn Gymraeg ar ddau achlysur - enillodd y wobr Saesneg eleni am ei nofel Drift.
Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Tramshed yng Nghaerdydd nos Iau.
Yn wreiddiol o Fryn Mawr ger Sarn ym Mhen Llŷn, mae Llŷr Titus - sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon - eisoes wedi profi llwyddiant fel awdur a dramodydd.
Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a'r Fedal Ddrama y flwyddyn wedyn, tra bod ei gyfrol gyntaf Gwalia wedi cipio Gwobr Tir na n-Og yn 2016.
Bydd yn derbyn cyfanswm o £4,000 o wobr ariannol, yn ogystal â thlws wedi ei ddylunio a'i greu gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.
Derbyniodd enillydd pob categori wobr o £1,000.

Cafodd Pridd ei disgrifio fel nofel "gwreiddiol", "awthentig" a "thrawiadol"

Yr enillwyr yn y categorïau Cymraeg:
Gwobr Plant a Phobl Ifanc: Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron & Huw Aaron (Atebol)
Gwobr Ffuglen: Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cylchu Cymru, Gareth Evans Jones (Y Lolfa)
Y Wobr Farddoniaeth: Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)
Gwobr Barn y Bobl Golwg360: Sgen i'm Syniad - Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

'Arddull newydd yn y Gymraeg'
Y beirniaid eleni oedd Ceri Wyn Jones, Megan Angharad Hunter, Sioned Wiliam a Savanna Jones.
Yn ôl Megan Hunter, cafodd pob un o'r beirniaid eu "swyno" gan Pridd, sy'n nofel "fer ond trawiadol".
"Mae yma symlrwydd a chynildeb cynnes yn y disgrifiadau o'r hyn a wna'r Hen Ŵr ar ei fferm o ddydd i ddydd, ond rhywsut, ar yr un pryd, mae pob brawddeg yn disgleirio o dlysni," meddai.
Ychwanegodd Savanna Jones: "Mae'r llyfr yma wedi ein diddori, wedi ein swyno ac wedi ein cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg.
"O'r cychwyn cyntaf mae'r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei fyd.
"Mae'r cyfeiriad at berthynas pobl gyda lle, newid traddodiad, galar, a tir yn unigryw ac yn eich annog i adlewyrchu ac i gwestiynu fel darllenwr.
"Gwreiddioldeb y darn oedd wedi ein plesio fel panel."

Fe enillodd Caryl Lewis wobr Llyfr y Flwyddyn yn Gymraeg yn 2005 ac yn 2016
Enillydd y Brif Wobr Saesneg eleni yw Drift gan Caryl Lewis.
Yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg, mae hi wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco ac yn 2016 gydag Y Bwthyn.
Dyma'r tro cyntaf erioed i awdur gipio'r brif wobr yn y ddwy iaith.

Yr enillwyr yn y categorïau Saesneg:
Gwobr Plant a Phobl Ifanc: When The War Came Home, Lesley Parr (Bloomsbury Children's Books)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: Drift, Caryl Lewis (Doubleday - Transworld, Penguin Random House)
Gwobr Ffeithiol Greadigol: And… a memoir of my mother, Isabel Adonis (Black Bee Books)
Y Wobr Farddoniaeth: As If To Sing, Paul Henry (Seren Poetry Wales Press Ltd)
Gwobr People's Choice Wales Arts Review: The Last Firefox, Lee Newbery (Penguin Random House Children's)

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022