Miloedd yn heidio i gartref newydd Tafwyl er y glaw

  • Cyhoeddwyd
Torf Tafwyl 2023

Mae miloedd o bobl wedi heidio i ŵyl Gymraeg fwyaf Caerdydd, er gwaethaf cyfnodau o dywydd gwael.

Mae Tafwyl yn cael ei chynnal ar gaeau parc Bute am y tro cyntaf eleni, wedi penderfyniad bod angen symud i leoliad mwy na'i chartref blaenorol ar dir Castell Caerdydd.

Hefyd am y tro cyntaf eleni mae S4C yn darlledu'n fwy o'r digwyddiad, gan gynnwys perfformiad llawn Bwncath, prif act arlwy nos Sadwrn.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn rhan o seremoni agoriadol yr ŵyl ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Drakeford ganmol rôl Tafwyl o ran rhoi cyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg wrth annerch seremoni agoriadol yr ŵyl

Cyfeiriodd Mr Drakeford at nod Llywodraeth Cymru o geisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gan ddweud bod yna "uchelgais arall... i ddyblu defnydd y Gymraeg".

"Mae'n un peth i ddysgu - mae'n rhywbeth arall i ddefnyddio'r Gymraeg a dyna pam mae Tafwyl yn bwysig" dywedodd.

"Mae'n rhoi cyfle i bobl i ddefnyddio'r Gymraeg, yn anffurfiol, gyda phobl eraill sy'n defnyddio'r Gymraeg - nid jyst yn yr ysgol, ond y tu fas o'r ysgol... pob agwedd o fywydau pobl yma yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Cymylau du ym Mharc Bute ddydd Sadwrn

Dywedodd Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Y'n ni'n sylweddoli os y'n ni am dyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ma' rhaid i ni dynnu pobl aton ni a dyna yw rhan o gennad Tafwyl.

"Y'n ni yn sicr yn trio tynnu pobl aton ni o ymylon y Gymraeg a cael nhw i fwynhau gŵyl, fi'n gobeithio, sydd mor gynhwysol â phosib."

Mae trefnwyr Tafwyl wedi disgrifio manteision symud y digwyddiad i leoliad newydd, gan gynnwys lle ar gyfer mwy o ymwelwyr a thair mynedfa.

Roedd yna groeso ymhlith ymwelwyr i'r penderfyniad i symud i Barc Bute.

Disgrifiad o’r llun,

Catrin gyda'i mab yn y glaw - a Siriol yn yr heulwen

Dywedodd Catrin a ymwelodd â'r ŵyl gyda'i mab: "Fi'n hapus bod e wedi symud eleni. Mae'n neis bod e mwy yng nghanol y dre ond ddim yn y castell.

"'Dan ni'n dod bob blwyddyn. 'Dw i'n gweithio yng Nghaerdydd yn rhedeg Cylch Meithrin a ma' jyst yn neis cael gŵyl ar gyfer yr iaith Gymraeg... lot o hwyl i gael yma."

Dywedodd Siriol ei bod wedi dod i'r ŵyl "i glywed y gerddoriaeth Gymraeg", a'i bod yn edrych ymlaen at fwynhau "peint a dawnsio" nos Sadwrn.

"Mae'n digon agos, trên lawr a digon central i bawb. Mae'n neis bod e yn y ddinas ac yn central."

Ymhlith y stondinwyr yn yr ŵyl eleni mae'r cynhyrchydd gemwaith Elin Mair Roberts - dylunydd Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

"Tro dwytha i mi fod 'ma oedd nôl yn 2016 yn y castell, felly mae'n neis iawn i ddod nôl i Gaerdydd a'i weld ar ei newydd wedd ar safle lot mwy," dywedodd.

"Mae'n bwysig iawn i ddathlu bob dim sydd ynghlwm â Cymru a busnesau bach Cymru.

"Mae'r tywydd yn gaddo yn eithaf anffafriol drwy'r penwythnos. Mae'n job deud os 'di o'n mynd i amharu, ond yn enwedig yng Nghymru ma' pawb mor gefnogol fel arfer so gobeithio deith pawb allan yng nghanol y glaw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty a Lleu yn falch o'r cyfle i weithio yn yr ŵyl - ond hefyd i fwynhau ar ddiwedd eu shifftiau

Mae Lleu a Kirsty ar ddyletswydd yn yr ŵyl ar ran Prifysgol Bangor.

"Ni'n dod i Tafwyl i weithio ar stondin y Brifysgol ond hefyd i fwynhau ar ôl y gwaith," dywedodd Lleu.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn ofnadwy o bwysig yn enwedig gyda'r iaith Gymraeg," meddai Kirsty. "Ma' cael gweld Dafydd Iwan ddim yn gyfle sy'n dod yn aml. 'Dan ni wrth ein bodd yma."