Teyrnged i ddyn 'anhygoel' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Bedwas
- Cyhoeddwyd
Roedd dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Caerffili ar 7 Gorffennaf yn cael ei "garu gan bawb oedd yn ei adnabod", medd ei deulu.
Bu farw Darrel King, 60 o Gaerffili, mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur a char ar yr A468 ger Bedwas.
Cafodd dyn 70 oed o Gaerffili oedd hefyd yn rhan o'r gwrthdrawiad ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac mae nawr mewn cyflwr sefydlog ac yn derbyn triniaeth mewn ysbyty arall.
Mewn teyrnged i Mr King dywedodd ei deulu: "Roedd Darrel yn fab, tad, ewythr a thaid anhygoel a oedd yn caru bywyd ac roedd wedi'i garu gan bawb oedd yn ei adnabod.
"Fel teulu rydym i gyd yn dorcalonnus yn dilyn ei farwolaeth sydyn a thrasig ac rydym yn gweld ei eisiau bob dydd.
"Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i'r rheiny a stopiodd i gynnig cymorth ac i'r holl wasanaethau brys am bopeth ceision nhw ei wneud i'w helpu."
Dywedodd Heddlu Gwent fod teulu Mr King yn parhau i dderbyn cymorth arbenigol.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i apelio ar unrhyw dystion oedd yn teithio ar yr A468 rhwng cylchfan Cedar Tree a Bedwas rhwng 17:30 a 18:30 ar 7 Gorffennaf i gysylltu gyda nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023