Prydau ysgol gwyliau'r haf i barhau i blant dwy sir

  • Cyhoeddwyd
Dwy ferch yn bwyta pryd ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Cynghorau Gwynedd a Blaenau Gwent yw'r awdurdodau lleol diweddaraf i gadarnhau eu bod am ddarparu prydau bwyd am ddim i blant cymwys yn ystod y gwyliau, er i Lywodraeth Cymru ddirwyn y cynllun cenedlaethol i ben.

Mae gweinidogion y llywodraeth wedi dweud nad oes digon o arian yn y coffrau i barhau gyda'r cynllun a gafodd ei gyflwyno yn ystod y pandemig.

Daw hynny wedi i gynghorau Caerffili a Phowys hefyd ddweud y byddan nhw'n dod o hyd i arian o'u cyllidebau eu hunain i barhau gyda'r ddarpariaeth.

Dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd tua 2,700 o ddisgyblion ysgol cynradd ac uwchradd yn gymwys am y cymorth rhwng 21 Gorffennaf a 31 Awst.

Fe wnaeth cabinet y cyngor dderbyn argymhelliad brys i ariannu'r costau er mwyn rhoi £3.90 y diwrnod dros y gwyliau ar gyfer plant rhieni a gwarchodiaid ar incwm isel.

Mae'r cyngor yn rhagweld mai tua £316,000 fydd cost cynnal y cynllun dros wyliau'r haf eleni.

Mae eisoes wedi gweinyddu tua £3.32m o daliadau i deuluoedd difreintiedig y sir dan y cynllun cenedlaethol ers Ebrill 2020.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am addysg, "plant fydd yn dioddef fwy na neb" heb y fath gymorth, wrth i'r argyfwng costau byw barhau.

"Dylai'r gwyliau haf fod yn gyfle i deuluoedd ymlacio a chael hwyl gyda'i gilydd, nid treulio eu hamser yn poeni am sut maent am dalu am hanfodion bywyd," meddai'r Cynghorydd Beca Brown.

"O gofio hyn, roedd yn siom cael ar ddeall yn hwyr yn y dydd am benderfyniad y llywodraeth i ddod â'r trefniant i ddarparu prydau ysgol am ddim dros y gwyliau i deuluoedd incwm isel i ben."

Dywedodd ei bod yn poeni "y byddai'n anodd iawn i deuluoedd bregus ail-flaenoriaethu eu harian ar gyfer cyfnod yr haf gyda chyn lleied o rybudd".

Ychwanegodd fod y cyngor wedi cael gwybod am benderfyniad Llywodraeth Cymru ddiwedd Mehefin, a'u bod ers hynny wedi "ystyried pa fesurau y gallwn eu rhoi mewn lle i gefnogi teuluoedd yng Ngwynedd i bontio'r bwlch".

Pleidlais trawswbleidiol 'unfrydol'

Dywed Cyngor Blaenau Gwent, sy'n cael ei arwain gan gynghorwyr Llafur, y bydd teuluoedd cymwys yn parhau i allu hawlio taliad wythnosol o £19.50 drwy'r gwyliau haf, a bydd pob disgybl cynradd yn cael prydau am ddim yn yr ysgol o fis Medi.

Fe gytunodd aelodau, beth bynnag eu plaid, yn unfrydol o blaid defnyddio arian wrth gefn i ariannu'r cynllun.

Dywedodd y deilydd portffolio Pobl ac Addysg, y Cynghorydd Sue Edmunds bod "dros 2,500 o blant" wedi elwa o'r cymorth yn ystod y gwyliau hanner tymor diwethaf ym mis Mai.

"Rydym yn cydnabod sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran peidio â pharhau i ariannu'r cynllun ar draws Cymru, ac felly rydym wedi edrych yn lleol i weld be allen ni wneud fel cyngor i sicrhau y gellid parhau i roi'r cymorth yma ar gyfer y gwyliau haf sydd ar fin dechrau."