Buddugoliaeth i Hwlffordd yng Nghyngres Europa
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Lee Jenkins ar ôl 89 munud i'w gwneud hi'n gyfartal ar gyfanswm goliau
Mae Hwlffordd trwodd i ail rownd ragbrofol Cyngres Europa ar ôl trechu KF Shkëndija o Macedonia ar giciau o'r smotyn.
Ar ôl colli'r cymal cyntaf 1-0 oddi cartref, llwyddodd Hwlffordd i ennill o'r un sgôr yng Nghaerdydd nos Iau trwy gôl hwyr Lee Jenkins.
Wedi amser ychwanegol, llwyddodd y Cymry i ennill 3-2 ar giciau o'r smotyn.
Fe fydd tîm Tony Pennock yn wynebu B36 Torshavn o Ynysoedd y Faroe yn y rownd nesaf.
Dim llwyddiant i Benybont a Chei Connah
Ond fe ddaeth ymgyrchoedd Ewropeaidd Penybont a Chei Connah i ben nos Iau.
Cafodd Penybont eu trechu o 2-0 yn erbyn FC Santa Coloma yn Andorra, gan olyu eu bod allan o 3-1 ar gyfanswm goliau.
Fe gollodd Cei Connah 0-2 yn erbyn KA Akureyri o Wlad yr Iâ hefyd, i'w gwneud hi'n 4-0 i'r gwrthwynebwyr ar gyfanswm goliau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023