Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2023
- Cyhoeddwyd

Bwriad y wobr, yn ôl y trefnwyr, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi pa artistiaid sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni.
Bwriad y wobr, sy'n cael ei threfnu ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg" yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae naw albwm ar y rhestr a'r amrywiaeth o ran cerddoriaeth ac arddull yn cwmpasu alawon gwerin, "pop arallfydol" ac "agwedd pync".
Fe gafodd enwau'r rhai a ddaeth i'r brig eu cyhoeddi ar raglen Huw Stephens ar Radio Cymru nos Iau.

Rhestr fer 2023
Adwaith - Bato Mato
Sŵnami - Sŵnamii
Pedair - Mae 'na Olau
Rogue Jones - Dos Bebes
Cerys Hafana - Edyf
Fleur de Lys - Fory ar ôl Heddiw
Kizzy Crawford - Cariad y Tir
Dafydd Owain - Uwch Dros y Pysgod
Avanc - YN FYW (Live)

Y beirniaid eleni oedd Iwan Teifion Davies, Marged Siôn, Gwenno Roberts, Mirain Iwerydd, Dom James, Dafydd Hughes ac Aneirin Jones.
Fe fydd enillydd y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Gwener 11 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021