Deuddeg gan Sywel Nyw yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Sywel Nyw a Glyn Rhys-James yn perfformio Bonsai gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Deuddeg gan Sywel Nyw sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022.

Cafodd enw'r enillydd ei gyhoeddi ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ddydd Mercher.

Lewys Wyn yw Sywel Nyw, ac mae hefyd yn adnabyddus fel canwr a gitarydd Yr Eira.

Mae Deuddeg yn gasgliad o 12 sengl a gafodd eu rhyddhau yn fisol yn 2021, ac yn Ionawr eleni cafodd y senglau eu rhyddhau ar ffurf albwm.

I greu'r albwm fe gydweithiodd Lewys Wyn gyda llu o artistiaid, gan gynnwys Mr, Endaf Emlyn, Dionne Bennett a Lauren Connelly.

Eleni, am y tro cyntaf, cafodd enillydd y wobr hon ei enwi a'i anrhydeddu ym Mhafiliwn yr Eisteddfod - yn yr un seremoni â Thlws y Cerddor.

Disgrifiad o’r llun,

Lewys Wyn yw Sywel Nyw, ac mae hefyd yn adnabyddus fel canwr a gitarydd Yr Eira

Wedi'r seremoni, disgrifiodd y profiad fel un "hollol wych, annisgwyl hefyd".

"O'dd o'n weddol swreal a bod yn onest," meddai.

"D'on i ddim yn disgwyl ar ôl ysgrifennu'r albwm yn landio'n hun yn eistedd ar y gadair ar bafiliwn y Steddfod."

Ychwanegodd: "Y gydnabyddiaeth ydy o, oherwydd anaml iawn wyt ti fel cerddor yn derbyn rhywun yn brolio neu ryw fath o wobr.

"Yn amlwg y peth mwya' ydy'r gerddoriaeth ond mae o'n neis cael rhywun yn gwerthfawrogi'r hyn wyt ti 'di 'neud, ac yn deud 'tha chi bo' ti wedi gwneud gwaith da bod 'na rywun yn lico dy ganeuon di."

Ffynhonnell y llun, Sywel Nyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Deuddeg yn gasgliad o senglau a gafodd eu rhyddhau yn 2021, ac a ryddhawyd fel albwm yn 2022

Roedd wyth albwm wedi cyrraedd y rhestr fer eleni sef:

  • Wyt Ti'n Meddwl Bod o Wedi Darfod - Ciwb

  • Gwalaxia - Ffrancon

  • Rhydd - Kizzy Krawford

  • Amser Mynd Adra - Papur Wal

  • Tri - Plu

  • Bywyd Llonydd - Pys Melyn

  • Deuddeg - Sywel Nyw

Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar label recordiau Lwcus T, sef y label sy'n cael ei redeg gan frawd Lewys, Griff Lynch.

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Y Selar yn gynharach eleni dywedodd Lewys: "Mewn gwirionedd nes i ddechra' chwarae hefo'r syniad nôl yn Ebrill 2020 [ar ddechrau'r pandemig] - o'n i isio gneud 'wbath yn wahanol i'r arfer so nes i ddechra' meddwl tu allan i'r bocs am syniada' o ryddhau senglau."

"Do'n i'm isio g'neud albwm ar ei ffurf draddodiadol felly dyma oedd y syniad gora' ddes i fyny hefo! Oherwydd mod i'm yn fand o'n i'n gweld fod gen i'r rhyddid i 'neud be bynnag o'n i isio."

Cafodd y rhestr fer ei llunio gan banel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys Catrin Morris, Elin Fouladi, Elliw Mai, Ffion Wyn Morris, Gwen Màiri, Lloyd Steele, Tomos Williams ac Ynyr Morgan Ifan.

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd â Radio Cymru.