Y Drefn gan Mared yw Albwm Cymraeg y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mared

Y Drefn gan Mared sydd wedi ennill Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021.

Cafodd y canlyniad ei gyhoeddi ar Radio Cymru nos Wener.

Dywed trefnwyr cystadleuaeth Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2021 bod y safon eleni "yn arbennig o uchel" mewn blwyddyn "anodd iawn i'r diwydiannau creadigol".

Daw Mared yn wreiddiol o Lannefydd ac mae wedi arbrofi gyda gwahanol fathau o gerddoriaeth - yn 2018 hi enillodd y wobr Llais Rhyngwladol Theatr Gerdd yn Eisteddfod Llangollen.

Fel rhan o'r wobr, cafodd berfformio yn Eisteddfod Gold Coast yn Awstralia. Mae Mared hefyd yn gantores adnabyddus ar lwyfan Cân i Gymru ac yn 2018 roedd hi'n ail am ei chân Byw a Bod.

Y Drefn yw ei halbwm cyntaf ac wedi gwrando arno dywedodd Elan Rhys o Plu bod "enaid diymhongar Mared nid yn unig i'w glywed yn ei llais ond yn ei 'sgwennu'. Dihangfa fendigedig".

Ymhlith artistiaid eraill sydd wedi canmol yr albwm mae Lleuwen, Ani Glass, Sian James a Lisa Angharad ac ymhlith y geiriau y maent wedi'u defnyddio i'w ddisgrifio mae 'cysurus', 'digymar', 'celfydd' ac 'arallfydol'.

Cerddoriaeth oedd maes astudio Mared ym Mhrifysgol Leeds ac wedi hynny fe gwblhaodd radd Meistr mewn Sioeau Cerdd yn Llundain.

Mae Mared yn rhan o deulu'r label IKACHING.

Disgrifiad,

Mared yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn gyda'i halbwm cyntaf 'Y Drefn'

Mae Pontydd (y gân yn y fideo) yn un o senglau'r albwm oedd yn drac yr wythnos ar Radio Cymru ym mis Awst 2020.

"Mae'r gân yn gân jazz," medd Mared, "a dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi benthyg diwylliannau pobl eraill a bod pobl eraill yn benthyg ein diwylliant ni. Mae'n bwysig cofio o le mae hynny wedi dod. Am dyna be mae hi, basically."

Nod y gystadleuaeth, sy'n cael ei rhedeg ar y cyd â BBC Radio Cymru, yw "dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy'n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd".

Roedd y gystadleuaeth yn agored i albymau a gafodd eu rhyddhau rhwng 31 Mai 2020 a diwedd Mai eleni.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Y 10 albym ar restr fer 2021 oedd:

Carw - Maske

Carwyn Ellis & Rio 18 - Mas

Cwtsh - Gyda'n Gilydd

Datblygu - Cwm Gwagle

Elfed Saunders Jones - Gadewaist

Jac Da Trippa - Kim Hong Chon

Mared - Y Drefn

Mr - Feiral

Mr Phormula - Tiwns

Tomos Williams - Cwmwl Tystion

Cafodd y rhestr ei llunio gan banel o feirniaid sy'n rhan o'r diwydiant cerddoriaeth. Y cam cyntaf oedd dewis eu hoff gynnyrch yn ystod y 12 mis cyn pleidleisio dros eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.

Y beirniaid eleni oedd Dylan Cernyw, Dylan Hughes, Dylan Jenkins, Eilir Owen Griffiths, Ifan Davies, Marged Gwenllian, Marged Rhys, Nia Mai Daniel, Rhiannon Lewis a Tegwen Bruce Deans.

Nos Iau cyhoeddwyd mai Skylrk sef Hedydd Ioan o Ddyffryn Nantlle oedd enillydd Brwydr y Bandiau eleni.

Ddydd Iau dywedodd Osian Williams ei bod "yn wych gweld cymaint o fandiau yn rhyddhau cerddoriaeth er gwaethaf effeithiau'r pandemig sydd wedi atal gigs am gyfnodau helaeth dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf".