Gangiau'n targedu pobl ifanc ar-lein i werthu cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Anna
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un ferch ei bod yn teimlo "wedi ei chaethiwo" gan gang

Mae comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio fod delio cyffuriau yn gallu cael effaith fawr ar ddyfodol pobl ifanc.

Roedd Dafydd Llywelyn yn ymateb i ymchwiliad BBC Cymru sy'n edrych ar sut mae gangiau troseddol yn defnyddio apiau fel Snapchat i ddenu plant yn eu harddegau i werthu cyffuriau ar eu rhan.

Mae rhaglen Wales Investigates wedi siarad â dynes yn ei hugeiniau a dreuliodd sawl blwyddyn yn gweithio i gang troseddol o ddwyrain Ewrop. Rydyn ni wedi newid enw'r ddynes i 'Anna'.

Roedd hi yn ei harddegau pan gwrddodd hi â dyn mewn clwb nos. Fe gysylltodd e â hi ar Snapchat gan ddechrau perthynas â hi cyn gofyn iddi helpu gyda gwerthu cyffuriau.

'Torri fy nghalon'

"Roeddwn i'n ofnus i ddechrau ond yna sylweddolais i nad o'n i'n edrych fel gwerthwr cyffuriau arferol. Roedd hi'n haws i fi werthu heb i bobl amau" dywedodd.

Roedd Anna'n teimlo ei bod yn gwneud cymwynas â rhywun oedd yn ei charu ond sylweddolodd yn fuan ei bod yn cael ei defnyddio.

"Ro'n i'n meddwl ei fod e'n gariad i fi," meddai. "Yna bydden i'n gweld negeseuon wrth ferched eraill neu negeseuon roedd e wedi eu hanfon at ferched eraill.

"Ro'n i'n torri fy nghalon. Doedd neb arall allen i droi atyn nhw ac o'n i ofn codi'r peth rhag iddo fe fy ngadael i."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedden nhw'n cynnig cyffuriau iddi a hithau'n meddwl ei bod hi'n eu cael nhw am ddim hyd nes i'r gang ddweud wrthi ei bod hi mewn dyled iddyn nhw.  

"Fe dd'wedon nhw fod gen i ddewis" meddai. "Helpu nhw i werthu cyffuriau neu gynnig ffafrau rhywiol iddyn nhw. Ro'n i'n poeni am fynd i drafferth gyda'r heddlu felly fe ddewisais i gynnig ffafrau rhywiol," meddai.

Roedd Anna'n teimlo ei bod hi wedi ei chaethiwo.

"Doedd gen i ddim rheolaeth dros y sefyllfa," dywedodd. "A doeddwn i ddim yn gwybod beth allen nhw 'neud i fi. Do'n i erioed wedi teimlo mor unig."

Effaith fawr ar ddyfodol pobl ifanc

Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod defnyddio gwefannau cymdeithasol i ddelio cyffuriau yn broblem gynyddol.

Dywedodd Dafydd Llywelyn bod pobl ifanc yn cael eu targedu a'u bod nhw weithiau'n fregus. 

"Mae pobl yn cael eu denu [i werthu cyffuriau] am eu bod nhw'n meddwl bod modd gwneud arian yn gyflym ond mae 'na fygythiadau iddyn nhw.

"Fe allai'r gangiau ymosod arnyn nhw a phan mae'r heddlu wedyn yn mynd ati i erlyn mae e'n gallu cael effaith fawr ar eu dyfodol nhw, o ran swyddi, o ran teithio.

"Os yw'n nhw'n meddwl mynd i wledydd tramor yn y dyfodol mae e'n gallu cael effaith fawr iawn."

Mae e'n dweud bod yna help ar gael gan swyddogion arbenigol mewn ysgolion a cholegau ac y dylai pobl ifanc gysylltu â nhw i ofyn am gymorth.  

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Tim Holmes fod cyfryngau cymdeithasol wedi'i wneud yn haws i droseddwyr gyfathrebu gyda phobl ifanc

Yn ôl Dr Tim Holmes, darlithydd troseddeg ym Mhrifysgol Bangor, does dim byd newydd mewn defnyddio pobl ifanc i werthu cyffuriau ond mae gwefannau cymdeithasol wedi gwneud hynny'n haws.

"Maen nhw'n gwneud cyfathrebu'n haws ac felly mae hynny'n rhoi cyfle i gangiau," dywedodd.

"Mae e'n symud y rhwystrau rhwng pobl ifanc a throseddwyr a'i gwneud hi'n haws i gyfathrebu efo nhw. Maen nhw'n gwneud hi'n anoddach cadw'r bobl yma i ffwrdd o blant.

"Os y'ch chi'n mynd arlein does dim cwestiwn eich bod chi'n mynd i gyfarfod rhywun dydych chi ddim yn nabod. Mae hanner y troseddu ym Mhrydain yn digwydd ar lein."

Yn ôl gwefan Snapchat mae prynu a gwerthu cyffuriau ar yr ap yn anghyfreithlon ac mae ecsbloetio unrhywun sy'n ei ddefnyddio yn arswydus.

"Ry ni'n gweithio mewn sawl ffordd i atal y cynnwys yma ac i gadw pobl yn ddiogel," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Mae gyda ni dîm sy'n cefnogi ymchwiliadau'r heddlu, sy'n cwrdd gydag arbenigwyr yn gyson i ddeall sut mae gangiau yn ymddwyn a'r eirfa maen nhw'n ei ddefnyddio.

"Rydyn ni hefyd yn ei gwneud hi'n anodd i bobl ddieithr gysylltu gyda phobl ifanc."

'Bywydau pobl yn cael eu chwalu'

Mae'r BBC hefyd wedi siarad gyda Tom - nid dyna ei enw iawn. Roedd e'n arfer gweithio i gang troseddol.

Mae e'n dweud eu bod nhw'n targedu pobl ifanc i'w helpu nhw i werthu cyffuriau.

"Roedd rhai'n dweud wrtha' i eu bod nhw'n 16 ond ro'n i'n amau hynny," meddai.

Fe fuodd e'n helpu gangiau o Lundain a Birmingham i werthu cyffuriau yng Nghaerdydd er mwyn cael cyffuriau am ddim dan drefn sy'n cael ei alw'n 'County Lines'.

"Mae gangiau o'r tu fas i Gaerdydd yn gweithredu yn y ddinas" meddai.

"Maen nhw'n gwerthu cyffuriau o'u ceir, o fflatiau a hyd yn oed o dai moethus. Maen nhw ym mhobman."

Mae yna amcangyfrif fod tua 500 o gangiau 'County Lines' yn gweithredu trwy Brydain.

Mae uned arbenigol o fewn heddlu Llundain yn dweud eu bod wedi rhwystro 1,500 o rwydweithiau gwerthu cyffuriau ers 2019 gan weithio gyda lluoedd heddlu ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Anna, doedd mynd at yr heddlu ddim yn bosib: "Waeth i chi gael targed ar eich pen am weddill eich oes," dywedodd.

"Fyddai byth yn rhoi'r gorau i edrych dros fy ysgwydd".

Mae Tom yn edifar am y rôl oedd ganddo yn helpu'r gangiau.

"O'n i'n siŵr y bydden i'n cael fy lladd neu'n mynd i'r carchar" meddai, "mae bywydau pobl yn cael eu chwalu gan y gangiau yma."

Fe ddaeth ei ran e yn y gang i ben yn dilyn cyrch ar ei gartref gan yr heddlu.

"Ro'n i'n falch," meddai, "dyna oedd fy nghyfle i ddianc."

Os oes unrhyw agwedd o'r stori hon wedi cael effaith arnoch chi mae yna gyngor ar gael drwy gysylltu â llinell ffon BBC Action Line.

Gwyliwch raglen BBC Wales Investigates ar BBC One Wales am 20:00 nos Lun 24 Gorffennaf ac ar iPlayer.