'Dwi'n ofni bod dylanwadwr ar-lein wedi radicaleiddio fy mab'
- Cyhoeddwyd
Mae Will yn debyg i lawer o fechgyn 15 oed. Mae'n hoffi chwaraeon, ymlacio gyda'i ffrindiau ac edrych ar y cyfryngau cymdeithasol - ond mae ei fam yn poeni ei fod wedi cael ei "radicaleiddio".
Derbyniodd Jane, sy'n byw yn y gogledd, alwad gan ysgol ei mab ynghylch "ddigwyddiad" yn ymwneud ag un o'i athrawon benywaidd.
Roedd Will a bechgyn eraill, meddai Jane, wedi bod yn ailadrodd safbwyntiau dadleuol y dylanwadwr Andrew Tate - gyda'r bwriad o wneud i'r athrawes "wingo".
Mae rhai athrawon yn poeni am eu bod wedi gweld mwy o fechgyn yn dyfynnu Mr Tate.
Fe ddywedodd arbenigwr ar ddiogelu plant bod yn rhaid i'r Bil Diogelwch Ar-lein - a allai ddod i rym yn y DU y flwyddyn nesaf - ddiogelu dynion ifanc yn wyneb syniadau "misogynistaidd".
Yn ôl Llywodraeth y DU bydd y mesur yn "rhoi stop ar gyfryngau cymdeithasol anrheoledig yn achosi niwed i'n plant".
Enwau ffug yw Will a Jane, gan fod y rhiant eisiau rhannu ei stori yn ddienw.
Dywedodd hi fod Will wedi parhau i herio ei athrawes er iddi ddweud wrtho mai daliadau "eithafol" yw rhai Mr Tate.
"Mae o'n gweld dyn sy'n gryf a phwerus ac sydd wedi ennill llawer o arian," meddai Jane am ei hunig fab.
Pwy yw Andrew Tate?
Roedd Mr Tate, 35, unwaith yn gic-focsiwr proffesiynol, a ddaeth i amlygrwydd yn 2016 pan gafodd ei ddiarddel o raglen Big Brother wedi i fideo honedig ohono'n ymosod ar ddynes ddod i'r amlwg.
Dywedodd ar y pryd bod y fideo wedi cael ei olygu a'i fod yn "gelwydd noeth i wneud i mi edrych yn ddrwg".
Magodd ddilyniant sylweddol ar-lein, cyn cael ei wahardd gan Twitter am ddweud y dylai menywod sy'n dioddef ymosodiad rhyw "ysgwyddo cyfrifoldeb" am hynny.
Cafodd ei wahardd gan rwydweithiau eraill hefyd, fel YouTube, Facebook ac Instagram, ac wrth ddiddymu ei gyfrif, dywedodd TikTok fod "misogynistiaeth yn ideoleg atgas na fyddwn yn ei oddef".
Yn ddiweddar, cafodd ddychwelyd i Twitter wedi i Elon Musk gymryd yr awenau.
Mae BBC Cymru yn disgwyl am ymateb i gais am sylw, ond yn ddiweddar dywedodd Mr Tate mewn cyfweliad gyda Piers Morgan bod "camddealltwriaeth" am ei syniadau.
Yn flaenorol, dywedodd bod ei sylwadau wedi cael eu "cymryd o'u cyd-destun a'u helaethu" er mwyn creu "naratif ffug" amdano.
'Teimlo fel radicaleiddio'
Yn ôl Jane, mae ei mab yn credu bod "popeth mae Mr Tate yn ei ddweud yn cael ei dynnu o'i gyd-destun ac yn cael ei ddefnyddio i wneud iddo fo edrych yn wael".
Wedi'r digwyddiad yn yr ysgol, roedd hi'n falch fod yr athrawes yn gwybod nad oedd y safbwyntiau yma yn adlewyrchu cefndir Will.
"Mae'n drist achos 'dach chi'n meithrin gwerthoedd plant o'r crud," meddai.
"Ond mae grym y cyfryngau cymdeithasol yn fwy dylanwadol na blynyddoedd o fagwraeth dda."
Fe ddangosodd Will fideos Mr Tate iddi hi, wrth geisio esbonio'i safbwynt.
Dywedodd Jane ei bod yn gobeithio mai rhywbeth "dros dro" oedd y cyfnod yma.
Ond ychwanegodd bod hyn yn "teimlo fel ei fod o wedi cael ei radicaleiddio".
Pryderon athrawon
Mae athrawon yn pryderu am eu bod wedi gweld mwy o fechgyn yn dyfynnu Mr Tate - a phan ofynnwyd i un criw o fechgyn ysgol uwchradd ysgrifennu am eu harwr, dewision nhw bortreadu Mr Tate.
"Mae'n anhygoel ac yn annichonadwy cymaint o wybodaeth sydd ar gael i ni," meddai un athro o'r de oedd eisiau bod yn ddienw.
"Os ydy'r plant 'ma yn troi'r gornel anghywir ar y we, maen nhw'n gallu cyrraedd man radical iawn, iawn, ac mae hwn yn efengyl iddyn nhw."
Dywedodd athro arall o'r de fod plant yn ei ddosbarth yn cael eu tynnu at gynnwys Mr Tate achos ei "ddelwedd" fel "miliwnydd wnaeth ei ffortiwn ei hun".
"Ychydig yn ddiweddarach ddechreuon nhw ymwneud efo cynnwys sydd yn arddangos ei safbwyntiau mwy eithafol," meddai.
"Dyna pryd wnaethon ni ddechrau sylwi bod ei gynnwys yn radicaleiddio'r bechgyn ifanc yma fel eu bod nhw'n arddel safbwyntiau tebyg."
Dywedodd Dr Nia Williams, darlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, y gallai dylanwad Mr Tate effeithio ar bobl ifanc yn y tymor hir.
"Mae'r bobl ifanc yma mewn lle hynod o dda i gael eu dylanwadu," meddai.
"Mae o'n gyfnod bregus ofnadwy achos mae'n gyfnod lle maen nhw'n datblygu pwy ydyn nhw, ac os ydy'r negeseuon yma yn cael eu hamlygu at hynny, yna mae hynna'n gallu treiddio mewn i'r oedolyn y byddan nhw'n tyfu i fod."
Yn ôl elusen plant yr NSPCC mae'r polisi o adael i'r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau cynnwys ar-lein hunan-reoleiddio wedi "methu'n llwyr", ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth y DU i "amddiffyn" pobl.
"Dydy'r bobl yma ddim yn cadw at eu cyfrifoldeb i ddiogelu pobl rhag cael niwed ar-lein, felly mae'n rhaid i'r llywodraeth ddeddfu," meddai Hannah Ruschen, uwch swyddog polisi gyda'r elusen.
'Ddyla' fo ddim bod yna'
Mae'r arbenigwr diogelwch a chyn-aelod blaenllaw o Heddlu'r Met, Dai Davies, yn cytuno.
Mae'n credu bod Mr Tate "i weld yn gallu argraffu a dweud pethau fyddwn i'n eu hystyried yn fisogynistaidd ac yn niweidiol i ddiogelwch menywod".
Cafodd mesurau dadleuol i orfodi platfformau technoleg mawr i ddileu deunydd sy'n gyfreithlon ond yn niweidiol eu tynnu o'r Bil Diogelwch Ar-lein, sy'n cael ei drafod gan San Steffan ar hyn o bryd.
"'Swn i'n licio gweld eu bod nhw'n edrych eto ar y legislation. Rhywbeth sy'n harmful, ddyla' fo ddim bod yna," meddai Mr Davies.
"Mae pawb yn siarad am freedom of speech ond mae 'na fwy o freedom i stopio plant i gael eu influencio, fel mae [Mr Tate] i weld wedi gwneud am flynyddoedd rŵan."
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU eu bod yn rhoi terfyn ar "gyfryngau cymdeithasol anrheoledig yn achosi niwed i'n plant".
"O dan y Bil Diogelwch Ar-lein, bydd yn rhaid i blatfformau technoleg atal unigolion dan 18 oed rhag gweld cynnwys anghyfreithlon a deunydd arall sy'n niweidiol neu'n anaddas i oed, gan gynnwys deunydd treisgar, neu fe allen nhw dderbyn dirwyon enfawr," meddai'r llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020