Statws gwarchodedig wisgi Cymreig 'yn garreg filltir'

  • Cyhoeddwyd
Casgenni PenderynFfynhonnell y llun, Graham Hembrough/Distyllfa Penderyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd pennaeth cwmni Penderyn fod y statws yn garreg filltir

Mae wisgi brag sengl Cymreig wedi cael statws gwarchodedig, fel cig oen.

Dyma'r gwirod cyntaf i dderbyn y statws dynodiad daearyddol (GI) dan y cynllun gafodd ei lansio yn y DU yn 2021 ar ôl Brexit o'r enw UKGI.

Roedd pedair distyllfa'n rhan o'r cais terfynol ar gyfer y statws, sef Penderyn, In the Welsh Wind, Da Mhile a Coles.

Mae gwaith cynhyrchu'r ddiod wedi ehangu dros yr ugain mlynedd diwethaf ac mae'n cael ei dosbarthu ar hyd mwy na 45 o wledydd erbyn hyn gyda disgwyl iddi gynhyrchu £23m eleni.

Mae cyfanswm o 20 o gynnyrch bwyd a diod wedi eu gwarchod yn swyddogol yng Nghymru, gan gynnwys Halen Môn, Caws Caerffili, Ham Caerfyrddin, Eirin Dinbych yn ogystal â gwin, cennin a chig oen Cymreig.

Dywedodd pennaeth cwmni Penderyn, Stephen Davies, fod cael y statws yn "garreg filltir arwyddocaol".

"Mae'n helpu gyda diogelu ansawdd y cynnyrch yn ogystal a'i darddiad," ychwanegodd.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod y diwydiant whisgi Cymreig yn "chwarae rôl bwysig yn sector bwyd a diod" Cymru.

"Dw i'n bles iawn dros bawb fu ynghlwm â chael y statws pwysig hwn ac mae'n sicrhau fod y cynnyrch arbennig hwn yn derbyn y cydnabyddiaeth a'r bri y mae'n ei haeddu," dywedodd.

'Hybu gwerthiant, creu swyddi a thyfu'r economi'

Fe gafodd statws UKGI ei sefydlu i sicrhau fod bwydydd a diodydd penodol o'r DU yn gallu sicrhau gwarchodaeth gyfreithiol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd - sydd hefyd yn rhedeg ei chynllun ei hun.

Dywedodd Ysgrifennydd Bwyd a Ffermio'r DU Therese Coffey fod dyfarnu'r statws yn "hybu gwerthiant gartref a thramor, creu swyddi a thyfu ein heconomi".

"Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â rhai o'r distyllwyr yn Sioe Frenhinol Cymru a dathlu hanes rhyfeddol y cynnyrch unigryw hwn," ychwanegodd.