Angen 'gweledigaeth hir dymor' ar gyfer bwyd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Neuadd Fwyd y Sioe
Disgrifiad o’r llun,

Y wledd sydd i'w gweld yn Neuadd Fwyd y Sioe Fawr eleni

Mae angen gweledigaeth hir dymor ar gyfer bwyd yng Nghymru - dyna neges Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn y Sioe Fawr eleni.

Yn ôl Derek Walker mae angen ystyried sut y gall Cymru addasu i fyd lle mae ansicrwydd bwyd a hinsawdd yn creu heriau anferth wrth i ni geisio bwydo ein hunain.

Er mwyn cyrraedd y nod mae'n sôn am ragor o gydweithio a dysgu wrth ein gilydd ac edrych ar beth sy'n digwydd ar draws y byd.

Yn Liège yng ngwlad Belg mae cynlluniau i fwydo pobl leol gan ddefnyddio bwyd lleol cynaliadwy yn unig.

Dyma enghraifft o gynllun y gellid ei ystyried yng Nghymru yn ôl Mr Walker sy'n credu y gellid defnyddio mwy o datws Sir Benfro ar gyfer bwydo plant ysgol a chleifion mewn ysbytai.

"Y nod yn y pen draw yw sicrhau bwyd da i bawb ac ailsefydlu y cysylltiad rhwng sut ry'n ni yn cynhyrchu ein bwyd a sut ry'n ni yn bwyta ein bwyd.

"Wrth roi mwy o bwyslais ar sut ry'n ni yn tyfu ein bwyd, yn lleihau gwastraff ac edrych ar ein deiet mae modd gwella ein lles ni i gyd," meddai.

Yn y dyfodol mae'n gobeithio y bydd gweledigaeth newydd hir dymor yn golygu bod modd i bawb gael mynediad i fwyd fforddiadwy, iach a chynaladwy.

Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Edwards o gwmni cig Edwards o Gonwy yn derbyn ei wobr

Mae syniadau'r comisiynydd wedi cael croeso ar faes y Sioe.

Enillydd gwobr Menter Bwyd o Gymru Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni yw Ieuan Edwards o gwmni cig Edwards o Gonwy.

Dywedodd mai "cynaliadwyedd yw'r ffordd ymlaen, ry'n ni wedi datblygu rysetiau ac mae ein byrgyrs ni er enghraifft yn mynd eisoes i ysgolion yng Nghymru a'r cig wedi ei bori yng Nghymru i bobl a phlant Cymru.

"Ry'n ni yn falch iawn o gael cynnyrch Cymreig. Me ysgolion yn un esiampl. Byddai ymestyn hynny i'r ysbytai ag ati, fe fyddai hynny'n gam positif iawn yn fy marn i."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mathew Rees o gwmni Ham Caerfyrddin yn dweud bod mwy o alw am gynnyrch Cymreig

Mae cwmni Ham Caerfyrddin, sydd yn arddangos yn y Neuadd Fwyd yn y sioe am y tro cyntaf, yn dweud eu bod nhw yn ehangu eu staff a'u cynnyrch yn y dyfodol oherwydd bod mwy o alw am gynnyrch Cymreig.

Mathew Rees yw perchennog y busnes a dywedodd: "Mae cydweithio a chysylltu â chwsmeriaid a busnesau eraill yn bwysig."

Ers mis Ionawr mae'r cwmni wedi dyblu eu cynhyrchiant ac mae'r stoc yna nawr yn barod i'w werthu.

Dywedodd eu bod yn bwriadu "dyblu eto cyn diwedd y flwyddyn".

Yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol mae Cymru eisoes wedi dechrau cydweithio ar lefel leol a chenedlaethol, ond wrth edrych i'r tymor hir mae'n credu y byddai gweledigaeth newydd yn helpu i sicrhau Cymru iachach.