Cyhoeddi rhestrau Brwydr y Bandiau a'r bandiau gwerin

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Alis Glyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig

Mae rhestr fer yr artistiaid fydd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi ei chyhoeddi.

Dyma'r 19eg flwyddyn i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ac yn 2023 fe wnaeth 14 o artistiaid neu fandiau gystadlu.

Maes B a BBC Radio Cymru ar y cyd sy'n cynnal y gystadleuaeth yn flynyddol.

Y pedwar olaf sydd wedi cyrraedd y brig yw Alis Glyn, Francis Rees, Moss Carpet a Tew Tew Tennau.

Bellach mae rhestr fer cystadleuaeth newydd - Brwydr y Bandiau Gwerin - hefyd wedi ei chyhoeddi

Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae "wrth ei bodd bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol.

"Dwi'n edrych ymlaen yn arw at berfformio ar Lwyfan y Maes ar bnawn dydd Mercher yn y 'Steddfod a gwrando ar y tri artist arall," meddai.

Mae'n hoff iawn o gerddoriaeth artistiaid fel - Mared, Lizzie McAlpine, Gwilym a The Beatles.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn, gyrraedd y pedwar olaf

Dyma'r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn, gyrraedd y pedwar olaf, yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau.

Mae hi'n un arall o griw gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig ac mae'n disgrifio'r gymuned mae'r prosiect yma wedi'i greu fel "un sy'n tyfu, ac yn gymuned sydd yn helpu ei gilydd".

Mae'n disgrifio ei cherddoriaeth fel "dream pop, ond dwi'n cael lot o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth Ewropeaidd ar ôl Eurovision eleni," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Moss Carpet yn brosiect o Gaernarfon, sydd yn arbrofi gyda gwahanol genres

Mae Moss Carpet yn brosiect o Gaernarfon, sydd yn arbrofi gyda gwahanol genres ac mae'n hoff o "arbrofi gyda gwahanol dechnegau a gweld sut mae'n mynd! Y canlyniad yw cymysgedd o weadau sonig…"

Mae wedi bod yn creu cerddoriaeth am bum mlynedd, "ar ben fy hun yn fy ystafell wely, doeddwn i byth yn meddwl bysa pobl yn gwrando a mwynhau [fy ngherddoriaeth]".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych

Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych a dywed Eban Elwy Williams, prif leisydd y band mai "Brwydr y bandiau oedd y nod ers i ni ddechrau, 'da ni'n teimlo'n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl".

Maen nhw'n gwrando ar lwyth o wahanol gerddoriaeth fel band, ond mae eu prif ddylanwadau yn dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae.

'Penbleth hyfryd'

Yn beirniadu'r gystadleuaeth eleni roedd Glyn Rhys-James (Mellt), Marged Siôn (Artist ac aelod o Self Esteem), Marged Gwenllian (Y Cledrau + Ciwb), a Siôn Land (Alffa).

Dywedodd Marged Gwenllian sy'n fasydd yn Y Cledrau a Ciwb: "Roedd safon eleni'n wych, a nifer fawr wedi ymgeisio, oedd yn gwneud pethau'n anodd i ni, ond roedd hi'n benbleth hyfryd i'w chael."

Dywedodd Siôn Land drymiwr y band Alffa ddaeth yn gyntaf ym Mrwydr y Bandiau nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017: "Mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn un o'r cystadlaethau pwysicaf yn yr Eisteddfod, yn enwedig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

"Roedd y gystadleuaeth yn rhan hanfodol o daith Alffa a heb y gystadleuaeth fysa ni'm yn lle 'da ni rŵan."

Mae'r pedwar artist wedi recordio sesiynau yn stiwdio Sain ac mae'r perfformiadau i'w gweld draw ar YouTube Maes B.

Cynhelir rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher 9 Awst rhwng 15:30 a 17:50.

Brwydr y Bandiau Gwerin

Yn dilyn llwyddiant Brwydr y Bandiau, mae'r Eisteddfod Gwnedlaethol a BBC Radio Cymru wedi lansio cystadleuaeth newydd - Brwydr y Bandiau Gwerin - a chafodd y rhestr fer ei chyhoeddi fore Iau.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

(gyda'r cloc) Lo-Fi Jones, Rhiannon, Melda Lois, a'r Brodyr Magee fydd yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin

Y bwriad yw dilyn esiampl Brwydr y Bandiau drwy gynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a chryfhau'r sîn werin ar gyfer y dyfodol.

Mae pedwar o artistiaid neu fandiau wedi cyrraedd y rhestr fer: Melda Lois, artist unigol sy'n wreiddiol o Gwm Croes, yn ardal Penllyn; Lo-Fi Jones, band o Fachynlleth a Chaerdydd; Y Brodyr Magee, grŵp teuluol o Ynys Môn, a Rhiannon, sy'n artist unigol o Ffarmers, Sir Gaerfyrddin.

Y beirniaid yw Lleuwen Steffan a Gwilym Bowen Rhys.

Bydd yr enillydd yn derbyn gwobr o £600 (£300, Clwb Gwerin y Castell, Cricieth, a £300 gan Hefina a Tomos, Tyddyn Cae, Boduan), ynghyd â sesiwn ar BBC Radio Cymru.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i grwpiau neu unigolion gyda'r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn pecyn datblygu proffesiynol sy'n cynnwys recordio a ffilmio dwy gân mewn set byw, ac mae un o ganeuon pob artist neu fand bellach i'w gweld ar sianel YouTube yr Eisteddfod.

Cynhelir y rownd derfynol yn y Tŷ Gwerin ar Faes yr Eisteddfod, ddydd Mawrth 8 Awst am 15:30.