URC yn cyhoeddi polisi i 'wella defnydd o'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gwella y defnydd o'r Gymraeg o fewn y sefydliad.
Ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, cyhoeddodd prif weithredwr dros dro'r undeb bolisi iaith newydd.
Mae'n ymrwymo i "gynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth sy'n cael ei gynnig i'r cyhoedd".
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod URC yn chwarae rhan fawr ym mywyd Cymru a'i bod yn "croesawu'n fawr yr ymrwymiad i'r Gymraeg".
Yn ôl llefarydd ar ran URC, bydd prif gyhoeddiadau'r undeb, gan gynnwys y prif ddatganiadau i'r wasg, adroddiadau gemau rhyngwladol a straeon newyddion mawr eraill ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn fewnol hefyd yn cael "ei argymell a'i annog," medd llefarydd.
Ychwanegon hefyd y bydd ymrwymiad cadarn i arwyddion newydd a pherthnasol o amgylch Stadiwm Principality fod yn ddwyieithog.
Bydd cyhoeddiadau a chyfathrebiadau eraill sy'n cael eu cynhyrchu gan URC, gan gynnwys rhaglenni gemau rhyngwladol ac amrywiaeth o ddarpariaeth ar-lein, dywedon, yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg.
Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru: "Mae ystyried a hyrwyddo'r Gymraeg ym mhopeth a gynigwn i'n cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl.
"Byddwn yn gwella ein darpariaeth a'n gwasanaethau ac yn croesawu'r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo'r Gymraeg yn eu cynnig i ni a'n cefnogwyr."
Clywed y Gymraeg 'yn naturiol ymhobman'
Yn lansiad y polisi newydd ddydd Llun, fe gafodd yr ymrwymiad ei gydnabod gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg trwy dderbyn statws 'Cynnig Cymraeg'.
Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg: "Mae angen i'r Gymraeg gael ei chlywed yn naturiol ymhobman, boed hynny yn gymunedol, yn y maes celfyddydol ac wrth gwrs yn y byd chwaraeon.
"Mae Undeb Rygbi Cymru yn chwarae rhan fawr ym mywyd Cymru - ac rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw i'r Gymraeg.
"Rwy'n arbennig o falch o allu rhoi cymeradwyaeth i'w Cynnig Cymraeg, ac edrychaf ymlaen at gydweithio'n agos gyda'r Undeb wrth i'w cynlluniau gael eu datblygu."
Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd yn gweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu hyfforddiant i'w staff.
Dywedodd yr undeb bod dros 100 o aelodau staff wedi dweud eu bod nhw eisiau dysgu'r iaith neu gryfhau eu sgiliau Cymraeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2021