Coleg dan gysgod Covid: 'Tair blynedd heriol ond pleserus'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lleu PryceFfynhonnell y llun, Lleu Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Graddiodd Lleu Pryce mewn Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau o Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 2023

Mae Lleu Pryce o Sanclêr yn un o'r miloedd o fyfyrwyr sydd newydd raddio fis yma, a hynny yn dilyn tair blynedd go anarferol yn y brifysgol, lle ddechreuodd cyfeillgarwch oes mewn mwgwd ac roedd addysg dros sgrîn cyfrifiadur.

Dyma ei stori:

'Breuddwyd ryfedd'

Roedd cyfnod pandemig Covid-19 yn rhyfedd iawn i fi ac i bawb arall dwi'n siŵr, wrth i mi fyw drwy un o gyfnodau mwyaf unigryw fy mywyd hyd yma. Roedd y cysyniad o bandemig yn rhywbeth hollol ffuglennol i mi ac mae'n dal i deimlo fel breuddwyd ryfedd a dweud y gwir.

Mae'n anodd credu fy mod i wedi treulio gymaint o amser yn astudio a chymdeithasu drwy sgrîn cyfrifiadur yn hytrach na siarad wyneb yn wyneb â phobl.

Yn ffodus i fi efallai, doedd dim modd i mi sefyll fy arholiadau lefel A oherwydd y pandemig (nid arholiadau ysgrifenedig yw fy nghryfder!).

Ac ar ôl llwyddo i osgoi'r arholiadau fe ges i gynnig diamod i astudio Newyddiaduraeth a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor. Wrth gwrs cafodd nifer fawr gynigion diamod yn ystod cyfnod Covid, rhag i chi feddwl fy mod i'n fyfyriwr hynod ddisglair!

Hunan-ynysu a darlithoedd mewn pyjamas

Ffynhonnell y llun, Lleu Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Lleu gyda'i dad Iwan ar ei ddiwrnod cyntaf yn Neuadd JMJ, Prifysgol Bangor

Roedd fy nghyfnod i fel myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf yn un hollol unigryw o'r cychwyn cyntaf.

Wrth symud i mewn i fy ystafell wely am y flwyddyn yn Neuadd JMJ, roedd pawb yn gwisgo mygydau ac roedd diheintyddion dwylo ar bob wal yn yr adeilad. Roedd neuaddau myfyrwyr Prifysgol Bangor yn debycach i Ysbyty Gwynedd.

Roedd y ffaith fy mod i'n gorfod cwrdd â dieithraid a fyddai'n cyd-fyw efo fi, a cheisio dod i'w hadnabod tra'n gwisgo mygydau yn anodd â dweud y lleiaf.

O fewn mis, roedd Covid yn ein fflat, ac yn anffodus iawn, fi oedd y cyntaf i'w ddal. Treuliais dridiau hir yn fy ystafell heb allu mynd i'r coridor na'r gegin. Ond ofer oedd pob ymdrech - fe ddaliodd y gweddill yn y fflat y feirws hefyd.

Ffynhonnell y llun, Lleu Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y mwgwd yma yn ddefnyddiol iawn...

Roedd y mwyafrif o ddarlithoedd a digwyddiadau cymdeithasol yn y brifysgol yn cael eu cynnal ar-lein. Ond, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn colli unrhywbeth mawr.

Roedd hi dal yn bosib cwrdd â phobl mewn grwpiau bychain ac roeddwn i'n ffodus bod yn rhan o UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) a oedd yn trefnu gymaint o ddigwyddiadau â phosib o fewn y cyfyngiadau.

Roedd y gallu i ddeffro pum munud cyn darlithoedd ac ymuno'n rhithiol yn fy mhyjamas yn ddelfrydol hefyd. Roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael y profiad gorau posib o dan yr amgylchiadau.

Cysylltiad personol

Wrth edrych yn ôl dw i'n sylweddoli na chefais y profiad cyflawn o fod yn fyfyriwr prifysgol. Ond wrth gwrs, ar y pryd doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r holl gyfleoedd a phrofiadau yr oeddwn yn eu colli yn y flwyddyn gyntaf.

Wrth i sefyllfa Covid ddechrau sefydlogi, dychwelodd dysgu i fod wyneb yn wyneb.

Er bod hyn yn golygu nad oeddwn yn medru cuddio tu ôl i'r sgrîn a bod rhaid i mi wisgo dillad call, roedd hi gymaint haws dysgu yn yr un ystafell. Roedd cael dweud 'helo' a 'bore da' wrth y darlithwyr yn gwneud i mi deimlo fy mod mewn darlith go iawn yn hytrach na gwylio fideo.

Ffynhonnell y llun, Lleu Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Lleu yn mwynhau yn Eisteddfod Ryng-gol Bangor yn ei ail flwyddyn

Fe wnes i sylweddoli'n go glou bod cael cysylltiad personol â'r darlithwyr yn hollbwysig ac yn rhywbeth roeddwn i wedi ei golli yn y flwyddyn gyntaf. Roedd hi cymaint haws canolbwyntio mewn darlithoedd a sicrhau fy mod yn gwrando yn hytrach na chau'r gliniadur a mynd nôl i gysgu.

Roedd y cyfle i gymdeithasu gyda myfyrwyr a ffrindiau o brifysgolion eraill Cymru yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn yr ail a thrydedd flwyddyn yn un o fy uchafbwyntiau. Roedd y gallu i gymdeithasu'n iawn heb orfod poeni am holl reolau'r pandemig yn rhyddhâd.

Y ddawns Ryng-golegol yn Aberystwyth yw un o'r digwyddiadau eraill sy'n aros yn y cof.

Rydw i'n cofio teimlo'n rhyfedd gweld cymaint o bobl wedi gwasgu i mewn i un dafarn ar ôl treulio gymaint o amser yn cadw dau fedr oddi wrth bawb. Er dweud hynny, roedd hi'n brofiad pleserus medru cymdeithasu heb ddefnydd sgrîn a mygydau.

Ffynhonnell y llun, Lleu Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Dawns yr Haf - un o ddigwyddiadau ola'r flwyddyn

Roedd y gallu i deithio i draethau Ynys Môn, tafarndai Caernarfon neu chwarae gemau pêl-droed yn wych hefyd ac yn rhywbeth na fyddai fyth yn ei gymryd yn ganiataol eto.

Diolch byth am dechnoleg...

Yr haf hwn, braint oedd derbyn fy ngradd yn yr un seremoni â Dafydd Iwan, a hynny wedi tair blynedd heriol ar un llaw ond hynod bleserus ar y llaw arall.

Ffynhonnell y llun, Lleu Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dafydd Iwan yn derbyn Gradd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor yn yr un seremoni raddio â Lleu

Er gwaetha'r rhwystrau, mae blynyddoedd y brifysgol wedi profi ei bod hi'n bosibl parhau â chyfeillgarwch er gwaetha'r cyfyngiadau, a pharhau ag addysg. Ac mae'r ddau wedi bod yn bosibl oherwydd technoleg.

Ond wedi dweud hynny does gen i ddim bwriad cymryd rhan mewn cwis gyda ffrindiau dros Zoom yn y dyfodol agos, oni bai y daw cyfnod clo arall!

Hefyd o ddiddordeb: