Ateb y Galw: Betsan Moses
- Cyhoeddwyd
![BETSAN](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/8592/production/_130549143_2ec19ee8-3a47-4a5f-847c-6500469b0692.jpg)
A ninnau ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, mae'n amserol mai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon. Cafodd Betsan ei henwebu gan Iwan Llewelyn Jones yr wythnos d'wethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mowredd, mae cofio beth ges i swper neithiwr yn gamp erbyn hyn! 'Wi'n amau mai trio chware'r gitâr fydde fe. yn bump oed. A chyn i buryddion iaith ddweud mai canu offeryn rydyn ni, fe allaf eich sicrhau nad oedd yr offeryn dan sylw yn canu wrth i mi geisio ei chware! Fe wnaeth Mam a Dats brynu gitâr plentyn yr un i fi a'm chwaer. Fe wnaeth fy chwaer ddysgu'r grefft yn ddigon hwylus, ond roedd ceisio mynd o gord G i C i D i mi'n fater arall!
'Wi'n cofio gwisgo ffrog laes goch gyda chathod cartŵn du arni (ac oedd, roedd gan fy chwaer yr un ffrog yn ogystal - doedd gan y Von Trapps ddim byd arnom ni!) a cheisio chwarae cytgan "Pam ma cath yn lico pysgod" a sylweddoli na fyddwn i fyth yn gallu galw'n hun yn gerddorol!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
S'dim angen meddwl am hyn - Mynydd Sylen i mi bob tro. 'Wi'n gallu 'i weld o ffenestr ein lolfa ni adre ac mae'n anhygoel meddwl mod i'n edrych allan ar y darn o dir fu'n fan cychwyn Terfysg Beca. Ar ddiwrnod braf o haf, s'dim byd gwell na cherdded y topie yn nannedd y gwynt a'r rhedyn yn cadw cyfrinachau'r merched. Fan yna rwy eisiau i ngweddillion gael eu gwasgaru ymhlith yr eithin gwyllt.
![betsan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/EAF1/production/_130554106_b9548133-cda8-49e0-b0d3-4713fdb4532c.jpg)
Mae Betsan wrth ei bodd yn yr awyr agored
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y nosweithiau gorau yw'r rhai sy'n digwydd ar hap heb unrhyw gynllunio. Mae Lowri'n ffrind wedi symud o'r dref i'r wlad. Wna i bicio fewn i ddweud helo weithiau pan fydda i adref ar brynhawn Sadwrn a gadael 24 awr yn ddiweddarach! Ei pherllan yw'r llecyn perffaith am sgwrs dros lasied o win ymhell o stwr y byd. Bydd gwledd yn ymddangos a hen ffrindie'n ymgasglu ac mae'r byd yn lle canwaith gwell.
![Betsan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/FF41/production/_130554356_f0320ae0-f601-485f-abe9-68623bf96f4a.jpg)
Betsan gyda'i ffrind, Lowri
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ofergoelus, teg, clên (gobeithio!)
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Gen i griw o ffrindie gwych ers ysgol a choleg sy' bellach y grwpiau sgwrsio WhatsApp gore'n y byd! Unwaith y flwyddyn awn ni i ffwrdd am benwythnos, ac nid gorddweud yw dweud bod 'na ddisgwyl eiddgar am y tripie!
![betsan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/75C1/production/_130554103_bdcd29f4-23b9-4dc4-a68d-a2b09e3695ae.jpg)
Betsan gyda chriw o'i ffrindiau
Ma 'na amserlen wedi'i threfnu ond yn fwy nag aml mae'n mynd yn deilchion gan bod y chwerthin a'r janglo'n ennill y dydd.
![betsan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3B5A/production/_130549151_16077fe5-eae9-411b-bc83-435a4bd3ce66.jpg)
Un arall o Betsan ar noson allan gyda'r ffrindiau
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Pa un i ddewis! Mi o'n i'n gweithio bob gwylie coleg yn y Butcher's Arms yn Llanddarog. Rwy'n cofio un nos cael fy siarsio i gael archebion pwdin y byrddau i fewn mewn digon o amser i baratoi am yr ail eisteddiad. Wrth wibio o gwmpas yn casglu archebion, wnes i draw at un cwpwl a holi beth fydde nhw'n dymuno ei gael i bwdin, ac medde'r gŵr wrtha i "I'll have a rest," a medde fi'n ôl wrtho "unfortunately, I don't believe that's on the menu!"
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yr wythnos ddiwethaf yn hel atgofion am ffrind annwyl a gollasom yn llawer rhy ifanc.
![botel](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/676/cpsprodpb/BFF9/production/_130554194_967b6160-0d73-481b-9b17-ba4b80e9b1f0.jpg)
Vermut; diod poblogaidd o Sbaen sy'n ffefryn gan Betsan
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rwy'n siŵr y bydde eraill yn dweud bod gen i nifer ond yr un peth sy'n gwylltio'n chwaer yw'r ffaith mod i'n dueddol o lanhau rownd pobl! Mae'n gas gen i weld briwsion ar y llawr, felly os ydw i'n ddigon ewn gyda phobl wna i sgubo'r llawr o'u hamgylch tra eu bod nhw'n bwyta!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Paradwys fyddai gwyliau mewn siop lyfrau! Sucking Sherbet Lemons gan Michael Carson yw un o'm hoff lyfrau ac rwy'n ame iddo roi tân yn fy mol i frwydro'n erbyn anghyfiawnderau a defnyddio'n llais er gwell.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?.
Sam Shepard y dramodydd, actor a chyfarwyddwr Americanaidd. Pan o'n i'n fyfyriwr roedd gen i freuddwyd o fod yn sgwennu mewn llofft yn Efrog Newydd i Off Off Broadway. Petai gen i owns o dalent Sam Shepard bydden i'n hapus fy myd.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy'n hynod o ofergoelus ac o'r herwydd fe fydd wastad darn o ddiledyn du o'm cwmpas a darn o lo yn fy mag.
![betsan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/576/cpsprodpb/16021/production/_130554109_5d260ffe-0d29-4daa-83da-522c7dc80174.jpg)
Betsan yn ei hoff got
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Dim byd a phob dim! 'Wi'n fore-godwr, wastad yn codi am bedwar y bore. Rwyn amau mai cysgu fewn fyddwn i'n ei wneud i gychwyn i gael profiad cwbl wahanol cyn gadael yr hen fyd 'ma!
![print](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/676/cpsprodpb/13529/production/_130554197_cc051a95-ce4f-4394-8807-dae41dc94e41.jpg)
Print trawiadol o dad Betsan
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dwi ddim yn berson sentimental felly welwch chi fyth luniau'r teulu a'r briodas ar hyd y tŷ. Collodd Bry'r gŵr a fi ein tadau yn llawer rhy gynnar felly ma' nhw yma mewn llun ac ysbryd. Nid portreadau confensiynol mohonynt gan nad person confensiynol mohonof!
![dic](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/00F5/production/_130554200_877c48e4-4cd6-40b1-95e7-88f4ca58376e.jpg)
Dic, tad Bry yn ifanc
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Myfi, fy nghi - s'dim gofid o gwbl ganddi, ac mae'r byd a'r betws wedi mopio arni!
![ci](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/148E2/production/_130549148_0d16d925-98c8-4354-8f9d-41b89b043a93.jpg)
Myfi, ci annwyl Betsan
Hefyd o ddiddordeb: