Ateb y Galw: Iwan Llewelyn Jones
- Cyhoeddwyd
Y pianydd Iwan Llewelyn Jones sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Bethan Rhys Roberts.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gwers biano gyntaf yn bump oed (Waddling Ducks oedd y darn cyntaf erioed i mi chwarae).
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Môn - fy nghynefin.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Datganiad debut yn Wigmore Hall, Llundain 1987.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymro, greddfol, anturus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Priodi yn 2014.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Brexit.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wrth dderbyn bil cyfleustodau.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Creision.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad?
The Commitments.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Maurice Ravel.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mynychu'r gym yn selog.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ar y piano yng nghwmni teulu a ffrindiau.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Map o'r byd - cymaint i weld a chymaint i 'neud.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Carlos Alcaraz.
Pwy ydy chi'n enwebu i Ateb y Galw wythnos nesa?
Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.