Cwest: Bachgen, 4, wedi boddi trwy ddamwain ger ei gartref

  • Cyhoeddwyd
Ifan Wedros Owen-JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ifan ddechrau Awst y llynedd

Trwy ddamwain y bu farw bachgen awtistig pedair oed a gafodd ei ddarganfod mewn pwll o ddŵr ger y cartref teuluol yn Sir Benfro, ym marn crwner.

Dywedodd un arbenigwr meddygol wrth y cwest yn Hwlffordd bod hi'n bosib bod y cyflwr wedi cyfrannu at farwolaeth Ifan Wedros Owen-Jones.

Doedd Ifan ddim yn medru siarad yn sgil ei gyflwr, ond roedd yn dal yn aros am ddiagnosis ffurfiol.

Dywedodd y Crwner ei bod yn anodd asesu effaith ei gyflwr ar y digwyddiad.

Clywodd y cwest adroddiad ysgrifenedig gan y Cwnstabl Jamie Lang-Ford am yr hyn ddigwyddodd.

Roedd Ifan yn un o bedwar o feibion i Sian a Wedros, ac yn byw mewn carafán ar fferm Cidigill ym Mlaenffos ger Crymych. Roedd brawd Sian, Matthew Owen, yn byw yn y garafán gerllaw.

Ar brynhawn 7 Awst 2022, clywodd y cwest bod ei fam, Sian, wedi mynd i Gastellnewydd Emlyn cyn dychwelyd i'r cartref teuluol.

Roedd y plant, gan gynnwys Ifan, yn chwarae yn y garafán. Roedd Sian yn cysgu'n ysgafn wrth i'r plant chwarae o'i chwmpas. Roedd Ifan yn chwarae ar ei iPad.

Wrth iddi gysgu'n ysgafn dywedodd ei bod hi'n medru clywed Ifan yn ailadrodd enwau cymeriadau Sam Tân tu allan i'r garafán.

Ar ôl peth amser, gofynodd wrth un o'r plant eraill ble oedd Ifan. Doedd dim golwg ohono.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y llun yma, a gafodd ei rannu gan deulu Ifan wedi ei farwolaeth, yn adlewyrchu ei hoffter o Sam Tân

Chwaer 'yn ei dagrau'

Fe neidiodd yn y car i chwilio amdano ar dir y fferm. Daeth ei brawd Matthew adref tua 17:00, gyda'i wraig.

Dywedodd bod ei chwaer, Sian, yn ei dagrau. Fe waeddodd Matthew: "O na, dyw e ddim wedi mynd i'r pwll?"

Aeth Matthew i lawr i'r pwll, rhyw 400 llath i ffwrdd, a darganfod ei nai wyneb i lawr yn y dŵr. Doedd Ifan ddim yn symud.

Galwyd y gwasanaeth brys ac ymatebwyr cyntaf ac fe roddwyd cymorth cyntaf ond bu farw Ifan am 18:40.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y cwest ei gynnal yn Neuadd Sirol Penfro yn Hwlffordd

Fe ddarllenodd y Crwner Paul Bennett bytiau i'r gwrandawiad o adroddiad post-mortem gan Dr Anthony Bamber.

Dywedodd bod Ifan wedi marw ar ôl boddi, ond bod awtistiaeth yn medru golygu nad yw pobl â'r cyflwr yn medru deall peryglon. Mae hefyd yn medru golygu eu bod â diddordeb arbennig mewn dŵr.

Yn ôl Dr Bamber, mae'n bosib bod ei awtistiaeth wedi cyfrannu at yr hyn ddigwyddodd.

Yn ôl y Crwner, bu farw Ifan Wedros Owen-Jones yn sgil damwain. Roedd hi'n anodd asesu, dywedodd, i ba raddau roedd ei awtistiaeth wedi effeithio ar yr hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Mr Bennett bod amgylchiadau marwolaeth Ifan yn "ddychrynllyd a thrasig", ac nad oedd ei deulu yn gallu bod yn bresennol yn y cwest i glywed y dystiolaeth am fod "ymdopi gyda galar colli plentyn yn anodd i oddef".

Pynciau cysylltiedig