Enwogion Llŷn ac Eifionydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
enwogion

Gyda miloedd yn heidio i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni mae'n gyfle i gydnabod y bobl dalentog a medrus sydd wedi dod o'r ardal.

Gwleidyddion, academyddion, beirdd, actorion a chantorion; mae 'na gymysgedd cyfoethog o bobl sydd wedi rhagori mewn sawl maes. Dyma rai ohonynt.

David Lloyd George a Megan Lloyd George

Un o wleidyddion mwyaf dylanwadol dechrau'r ugeinfed ganrif, ac un o'r Cymry enwocaf erioed, cafodd David Lloyd George ei eni yn 1863 a'i fagu yn Llanystumdwy. Roedd yn Ganghellor ar y Deyrnas Unedig rhwng 1908 a 1915, yn Ysgrifennydd Arfau Rhyfel ac yna Ysgrifennydd Rhyfel ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yna'n Brif Weinidog o 1916 i 1922.

Cafodd David Lloyd George bump blant; Richard Lloyd George (1889-1968), Mair Eluned Lloyd George (1890-1907), Olwen Elizabeth Lloyd George (1892-1990), Gwilym Lloyd George, (1894-1967) a Megan Arvon Lloyd George (1902-1966).

Dilynodd Megan ôl troed ei thad a'i brawd, Gwilym, a chael ei hethol fel Aelod Seneddol dros y Blaid Ryddfrydol. Roedd hi'n ddirprwy arweinydd ar y blaid cyn newid i ymuno â'r Blaid Lafur. Roedd hi'n Aelod Seneddol dros Ynys Môn rhwng 1929 ac 1951, ac fe gynrychiolodd Caerfyrddin rhwng 1957 a 1966. Bu farw Megan Lloyd George ym Mhwllheli yn 1966.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

T.E. Lawrence

Cafodd T.E Lawrence ei eni mewn tŷ o'r enw Gorphwysfa yn Nhremadog yn 1888, ond mae'n debyg fod y milwr, archeolegydd, diplomydd ac awdur yn cael ei 'nabod yn well gan enw arall; Lawrence of Arabia. Ymhlith pethau eraill, roedd Lawrence yn enwog am ei rôl yng ngwrthryfel yr Arabiaid yn erbyn Yr Ymerodraeth Otomanaidd o 1916 i 1918.

Bu farw mewn damwain beic modur yn 1935, yn 46 oed, ac mae wedi ei gladdu yn Rhydychen. Mae'n debyg mai ei ddamwain oedd y ffactor a arweiniodd at newid yn y gyfraith gan wneud gwisgo helmed yn orfodol ar gefn beic modur.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Aimee Duffy

Cafodd 'Duffy', fel mae hi'n cael ei 'nabod ar lwyfan, ei magu yn Nefyn, cyn byw am gyfnod yn Sir Benfro yn dilyn ysgariad ei rhieni. Dychwelodd i Ben Llŷn gan astudio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor Pwllheli.

Daeth Duffy yn ail yng nghystadleuaeth Wawffactor ar S4C yn 2003, ond daeth ei moment fawr yn 2008 gyda'r gân 'Mercy'. Roedd ei albwm 'Rockferry', a ryddhawyd ym mis Mawrth 2008, yn llwyddiant ysgubol gan gyrraedd rhif un yn y siartiau ym Mhrydain ac mewn sawl gwlad arall. Fe wnaeth ei ail albwm, 'Endlessely' hefyd gyrraedd y 10 uchaf mewn llawer o wledydd yn 2010, gan gynnwys siartiau Prydain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Eirlys Parri

Mae Eirlys Parri'n athrawes, cantores ac actores (adnabyddir hefyd fel Eirlys Eckley). Mae hi'n wreiddiol o Forfa Newydd ac fe wnaeth enw i'w hun yn canu yn yr 70au ac 80au. Mae ei recordiau EP yn cynnwys Blodau'r Grug, Ti Yw Fy Nghân, Cân Y Gobaith, Cannwyll Yn Olau ac Yfory.

Ffynhonnell y llun, Marian Ifans

John Jones

Merthyr Catholig a sant oedd John Jones, a oedd hefyd yn cael ei 'nabod fel Griffith Jones, ac weithiau John Buckley Jones. Ganwyd yn 1559 yng Nghlynnog Fawr, a'i frawd oedd William Jones, sefydlydd cwfaint Benedictaidd Cambrai.

Ymunodd Jones ag Urdd Sant Ffransis yn Rhufain yn 1591 a threuliodd gyfnod yn Pontoise, Ffrainc. Dychwelodd i Brydain yn 1592, ac yna yn 1593 cafodd ei arestio yn Llundain ar gyhuddiad o fod yn Offeiriad Catholig yn gweithio yn erbyn y diwygiad Protestannaidd. Oherwydd hyn, cafodd ei ddienyddio trwy ei grogi, diberfeddu a'i chwarteru yn Southwark, Llundain, ar 12 Gorffennaf 1598.

Clough Williams-Ellis

Cafodd Clough Williams-Ellis ei eni yn Swydd Northampton ar 28 Mai, 1883, ond roedd ei deulu'n dod o Gymru ac fe gafodd ei fagu yng Nglasfryn, Pwllheli ers yn 4 oed. Mae'n enwog am gynllunio'r pentref Eidalaidd, Portmeirion, gyda thua hanner y pentref yn cael ei adeiladu rhwng 1926 ac 1939.

Dros y blynyddoedd a ddilynodd cafodd nifer o adeiladau newydd eu codi yn y pentref ac mae'r lle wedi bod yn fan boblogaidd ar gyfer lleoliadau ffilmiau, rhaglenni teledu a fideos cerddoriaeth dros y degawdau. Cafodd y rhaglen The Prisoner ei ffilmio yn y pentref yn y 1960au ac mae Iron Maden a Supergrass ymysg y bandiau sydd wedi ffilmio yno. Bu farw Clough Williams-Ellis yn 1978, ac ei ŵyr Robin Llywelyn sydd bellach yng ngofal Portmeirion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Gareth F. Williams

Awdur oedd Gareth Finley Williams a gafodd ei eni ym Mhorthmadog yn Chwefror 1955. Roedd yn adnabyddus am ysgrifennu nofelau i blant ac oedolion yn ogystal â chreu nifer o gyfresi drama ar gyfer y teledu. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2015 am ei nofel Awst yn Anogia.

Roedd yn gyfrifol am gyd-greu cyfresi drama ar S4C, fel Pengelli a Rownd a Rownd. Bu farw ar 14 Medi 2016, yn 61 oed.

Gareth Pierce

Cafodd Gareth Pierce ei fagu ym Mhwllheli ac aeth i Ysgol Gynradd Cymerau yn y dref. Oherwydd bod ei dad yn y fyddin symudodd y teulu i Swydd Efrog pan oedd yn 10 oed. Ond yn 18 oed fe ddaeth nôl i Gymru gan astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd. Yna fe symudodd ei rieni nôl i Bwllheli.

Mae wedi actio mewn sawl rhaglen ar S4C fel Caerdydd, Cowbois ac Injans, Pen Talar, Y Gwyll a 35 Diwrnod. Ers 2020 mae wedi chwarae rhan Todd Grimshaw yn Coronation Street.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Robert Jones

Roedd Robert Jones yn fathemategydd ag aerodynamegydd a gafodd ei eni yng Nghricieth yn 1891.

Roedd yn un o brif arbenigwyr yn ymdrin â diogelwch awyrlongau, ac arweiniodd yr ymchwil wedi damwain ar awyrlong y R101 yn 1930. Bu farw yn Stanwell, Surrey, yn 1962.

Disgrifiad o’r llun,

Awyrlong R101, a ffrwydrodd ar 5 Hydref, 1930

Wil Sam ac Elis Gwyn

Dau frawd o Lanystumdwy a wnaeth enwau i'w hunain yn y celfyddydau oedd Wil Sam ac Elis Gwyn.

Roedd William Samuel Jones yn awdur a oedd yn ysgrifennu dan yr enw W.S. Jones neu Wil Sam. Roedd yn ddramodydd, ac hefyd yn ysgrifennu ar gyfer radio a theledu. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones. Roedd Wil Sam yn adnabyddus am ddefnyddio comedi a thafodiaith Pen Llŷn yn ei waith. Mae ei waith enwocaf yn cynnwys y dramâu Dinas Barhaus (1969) a Y Sul Hwnnw (1981). Bu farw ym mis Tachwedd 2007.

Roedd Elis Gwyn Jones yn athro, arlunydd ac yn ddarlledwr. Roedd yn athro yn Ysgol Ramadeg Pwllheli am 31 mlynedd, gan hefyd ddarlithio gyda'r nos. Yn 1974 cyhoeddodd lyfr am arlunydd arall o Gymru, Richard Wilson. Roedd llawer o'i ddarluniau'n canolbwyntio ar gefn gwlad Pen Llŷn. Bu farw yn 1999.

Ruth Martin-Jones

Roedd Ruth Martin-Jones yn arfer cystadlu yn y naid hir a'r heptathlon. Cafodd ei geni yng Nghricieth yn 1947.

Fe gystadlodd hi yng Ngemau Olympaidd Munich yn 1972, ac fe enillodd y fedal efydd dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad Christchurch yn 1974. Yn 2016 cafodd ei derbyn i 'Neuadd o Enwogrwydd' Athletau Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Eliseus Williams (Eifion Wyn)

O'i enw barddol, Eifion Wyn, y mae Eliseus Williams yn cael ei adnabod rhan amlaf, a chafodd ei eni ym Mhorthmadog yn 1867. Roedd yn cael ei ystyried gan lawer yn un o feirdd gorau'r oes, yn ogystal â bod yn emynydd. Roedd hefyd yn glerc ar hyd ei oes i Gwmni Llechi Gogledd Cymru.

Mae ei farddoniaeth i'w gweld yn y cyfrolau Telynegion Maes a Môr (1906) a Caniadau'r Allt (1927). Roedd yn dioddef o salwch ar hyd ei oes a bu farw ar 13 Hydref 1926. Cafodd ei gladdu wrth ei rieni a'i chwaer ym mynwent Chwilog.

William Alexander Maddocks

Ganwyd William Madocks yn Llundain yn 1773 yn fab i John Maddocks sgweier Ystâd Fron Yw, Dinbych. Mae William Maddocks yn ffigwr hynod bwysig yn hanes Eifionydd gan mai fo oedd yn gyfrifol am ddraenio'r Traeth Mawr ac adeiladu'r morglawdd a adnabyddir fel y Cob ym Mhorthmadog.

Yn 1820 fe ddechreuodd Maddocks ddatblygu Porthmadog fel canolbwynt masnachol, gyda llongau yn mynd a llechi o Ffestiniog ledled y byd. Roedd yn Aelod Seneddol dros Boston yn nwyrain Lloegr o 1802 i 1820. Bu farw ym Mharis yn 1828.

John Ystumllyn

Garddwr a chrefftwr oedd John Ystumllyn, a oedd hefyd yn cael ei alw'n Jac Du neu Jack Black gan lawer. Roedd yn un o'r bobl ddu gyntaf yng Nghymru i gael hanes ei fywyd wedi ei gofnodi.

Does 'na ddim sicrwydd o ble y daw John yn wreiddiol. Mae'n bosib ei fod wedi'i gipio ar gyfer masnach gaethweision yr Iwerydd, ynnau o Orllewin Affrica neu India'r Gorllewin. Pan oedd tua 8 mlwydd oed, fe'i cymerwyd gan deulu Wynn i'w stad, Ystumllyn, yng Nghricieth, lle cafodd ei fedyddio, a chafodd yr enw Cymraeg John Ystumllyn.

Roedd yn gweithio fel crefftwr a garddwr ac fe briododd ferch leol, Margaret Gruffydd, ac aethant i fyw i Ynysgain Fawr ger Cricieth. Bu farw John ar 9 Gorffennaf, 1786, gyda Margaret yn byw nes 1828.

John ac Alun

Mae John Jones ac Alun Roberts wedi bod yn perfformio fel deuawd canu gwlad ers dros 30 mlynedd. Mae'r ddau'n hanu o'r un pentref - Tudweiliog ar ochr ogleddol Penrhyn Llŷn.

Mae gan y ddau raglen adloniant poblogaidd ar BBC Radio Cymru ers blynyddoedd, ac maent yn dal i berfformio ledled y genedl.

R.S. Thomas

Er iddo gael ei eni yng Nghaerdydd, mae Ronald Stuart Thomas a Phen Llŷn ynghlwm. Roedd yn ficer ac yn fardd, yn genedlaetholwr ac yn ymgyrchydd. Gwasanaethodd fel Ficer Aberdaron o 1967 i 1978, ac wedi iddo ymddeol aeth i fyw i bentref Y Rhiw wrth droed Mynydd Rhiw, hefyd yn Llŷn.

Enillodd wobr yr Horst-Bienek-Preis für Lyrik ym 1996 ac yn Saesneg oedd y rhan fwyaf o'i waith llenyddol, ond fe wnaeth hefyd gyhoeddi darlithoedd a chyfrolau rhyddiaith Cymraeg. Bu farw ym Mhentrefelin ger Cricieth ar 25 Medi, 2000, yn 87 mlwydd oed.

Dic Aberdaron

Roedd Richard Robert Jones yn amlieithydd hunan-addysgedig a chrwydryn a gafodd ei eni yn Aberdaron yn 1780.

Roedd ei dad yn saer coed a oedd yn arbenigo mewn gwneud a thrwsio cychod. Cafodd Dic ddim addysg ffurfiol ond roedd yn enwog am ddysgu hyd at 15 iaith gan gynnwys y Saesneg, Lladin, Groeg, Hebraeg, Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg.

Roedd yn siarad Lladin yn 12 oed, ac wedi dysgu Groeg cyn ei fod yn 20. Tra'n crwydro cafodd gyfnodau yn Lerpwl yn 1804, ac yn Llundain yn 1807, gan hefyd aros ym Mangor, Caernarfon ac Ynys Môn. Bu farw ar 18 Rhagfyr 1843.

Hywel Williams AS

Mae Hywel Williams wedi bod yn Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn San Steffan ers 2001. Rhwng 2001 a 2010 roedd yn cynrychioli Caernarfon, ac yna ers i'r ffiniau newid mae wedi cynrychioli sedd Arfon o 2010 hyd heddiw.

Cafodd ei eni ym Mhwllheli yn 1953, ac wedi ei gyfnod yn Ysgol Glan y Môr aeth i'r Brifysgol yng Nghaerdydd. Ym mis Tachwedd 2022 fe ddywedodd ni fydd yn sefyll fel ymgeisydd seneddol yn yr etholiad nesa.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru

Cowbois Rhos Botwnog

Ffurfiwyd y band Cowbois Rhos Botwnnog yn 2006 ac mae'r aelodau yn dri brawd o Fotwnnog, sef Iwan, Dafydd ac Aled Hughes. Mae'r band yn cyfuno cerddoriaeth gwerin, canu gwlad, Americana a roc.

Harri Parri

Magwyd Harri ym mhentref Llangian ym Mhen Llŷn - mae'n awdur a chyn-weinidog. Rhestrwyd ei lyfr Iaith y Brain ac Awen Brudd ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2009.

Ffynhonnell y llun, S4C

Albert Evans-Jones (Cynan)

Bardd, dramodydd ac eisteddfodwr oedd Albert Evans-Jones, sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Cynan. Cafodd ei eni ym Mhwllheli yn 1895 ac aeth ymlaen i raddio o'r Brifysgol ym Mangor yn 1816. Enillodd y Goron yn 1921, 1923 ac yn 1931.

Bu'n Archdderwydd ddwywaith, yr unig berson i gael ei ethol i'r swydd am ail dymor. Ei ddau dymor oedd rhwng 1950 a 1954, a rhwng 1963 a 1966.

Gwyneth Glyn

Mae Gwyneth Glyn yn fardd, llenor a chantores o Lanarmon, Eifionydd. Aeth i Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, ac i Goleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.

Rhyddhaodd ei record gyntaf yn 2005, Wyneb Dros Dro, a hi oedd bardd plant Cymru yn 2005-06. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac hefyd wedi ysgrifennu i'r cyfresi teledu Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.

Endaf Emlyn

Mae Endaf Emlyn Jones yn ganwr, cyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilm o Bwllheli. Yn ei arddegau bu'n aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru ar yr un pryd a Karl Jenkins a John Cale, gan chwarae'r ffidil.

Fe'i hyfforddwyd fel athro ond daeth yn adnabyddus ar ddiwedd y 1960au fel cyhoeddwr teledu gyda HTV Cymru.

Rhyddhawyd ei albwm gyntaf, Hiraeth yn 1973, a blwyddyn yn ddiweddarach fe gyhoeddodd yr albwm Salem. Yn 1974 hefyd fe gyfansoddodd gerddoriaeth agoriadol opera sebon Gymraeg y BBC, Pobol y Cwm.

Mae rhai o'r ffilmiau â gyfarwyddodd yn cynnwys Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig (1985), Un Nos Ola Leuad (1991) a Y Mapiwr (1995).

Jan Morris a Twm Morys

Roedd Jan Morris yn awdures ac yn hanesydd a oedd yn wreiddiol o Loegr - ei thad yn Gymro o Sir Fynwy a'i mam o Loegr.

Roedd Jan Morris yn enwog am ei llyfrau hanes yn dadansoddi hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica, a hefyd ei llyfrau yn portreadau dinasoedd Rhydychen, Fenis, Trieste ac Efrog Newydd.

Teithiodd Jan Morris gyda chriw Edmund Hillary â ddringodd Everest yn 1953. Dringodd i 22,000 troedfedd o uchder ac hi yrrodd y neges nôl i bapur The Times yn datgan bod Hillary a Tenzing Norgay wedi llwyddo yn eu hymdrech i gyrraedd y copa.

Cafodd Jan Morris bump o blant, ac un ohonynt yw Twm Morys. Enillodd Twm Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003, ac ef oedd bardd plant Cymru o 2009 i 2010. Mae Twm hefyd yn canu ac roedd yn un o sylfaenwyr y band Bob Delyn a'r Ebillion ar ddiwedd yr 80au.

Ffynhonnell y llun, National Porttrait Gallery

Richard Tudor

Mae Richard Tudor yn forwr o fri a wnaeth gapteinio gwch hwylio yn y British Steel Challenge (ras o amgylch y byd) ddwywaith, yn 1992-93 ac yn 1996-97.

Mae wedi rasio yn Ne a Gogledd America, oddi ar arfordir De Affrica, ac mae wedi bod yn ffigwr allweddol yn hanes Clwb Hwylio Pwllheli.

Ffynhonnell y llun, Clwb Hwylio Pwllheli

Rob Piercy

Cafodd Rob Piercy ei eni ym Mhorthmadog yn 1946. Mae'n beintiwr, arlunydd ac yn gyn-athro celf yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, lle bu'n dysgu am bymtheg mlynedd cyn gadael i ganolbwyntio ar ei waith celf yn 1989. Mae'n enwog am ei ddarluniau trawiadol o dirwedd a thraethau Eryri.

Ffynhonnell y llun, Rob Piercy

Elfyn Lewis

Arluniwr o Borthmadog yw Elfyn Lewis, ac fe enillodd Fedal Aur Eisteddfod Genedlaethol Cymru am gelfyddyd gain yn 2009 a gwobr Artist Cymreig y Flwyddyn yn 2010.

Astudiodd ym Mhrifysgol Central Lancashire, Preston, cyn astudio am MA mewn Celfyddyd Gain yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yn 1998. Mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Elfyn Lewis

Barri Griffiths

Daw Barri Griffiths, neu 'Barri 10ft' fel mae'n cael ei 'nabod gan lawer yn lleol, o Dremadog. Aeth i Ysgol y Gorlan, Tremadog, ac yna i Ysgol Eifionydd, Porthmadog.

Fe roedd yn chwaraewr pêl-droed brwd pan oedd yn ei arddegau, gan chwarae dros Glwb Pêl-droed Porthmadog.

Dechreuodd hyfforddi fel relswr yn 2006 dan arweiniad Orig Williams. Yn 2009 cafodd rôl ar raglen newydd Gladiators fel y cymeriad Goliath.

Yna, hefyd yn 2009, daeth y foment a newidiodd ei fywyd am byth pan ymunodd â'r WWE yn yr Unol Daleithiau- y cwmni reslo mwyaf yn y byd. Cymrodd yr enw Mason Ryan ac fe roedd gyda'r WWE tan 2014.

Yn 2016 ymunodd a chast Cirque du Soleil ac mae bellach yn byw yn Tampa, Florida.

David Owen (Dafydd y Garreg Wen)

Roedd David Owen, neu Dafydd y Garreg Wen fel roedd hefyd yn cael ei adnabod, yn delynor o Ynyscynhaearn ger Morfa Bychan, tu allan i Borthmadog, ar ddechrau'r 18fed ganrif. Cafodd ei fagu ar y fferm Garreg Wen (llun isod).

Cyfansoddodd Dafydd yr alawon Codiad yr Ehedydd a Rosalin Castle, ond ei alaw enwocaf yw Dafydd y Garreg Wen.

Disgrifiad o’r llun,

Garreg Wen

William Ambrose (Emrys)

Gweinidog a bardd oedd William Ambrose, a ddefnyddiai'r enw barddol Emrys. Ysgrifennodd nifer o emynau poblogaidd a bu'n gyd-olygydd ar gylchgrawn Y Dysgedydd o 1853 i 1873

Yn 1837 daeth yn weinidog eglwys annibynnol Porthmadog, a bu yno hyd ei farwolaeth ar 31 Hydref 1873, yn 60 oed.