Ymchwiliad camymddwyn i bump o staff tân y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae pump aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub y gogledd yn wynebu ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn.
Dydy union fanylion yr honiadau heb eu cyhoeddi.
Fe gafodd pryderon eu codi gyntaf yn gynharach eleni, ond does neb wedi ei ddiarddel wrth i ymchwiliadau barhau.
Dywedodd y gwasanaeth tân ei bod yn bwysig i'r ymchwiliad fod yn drylwyr, ac nad oes lle i fwlio, gwahaniaethu nac aflonyddu o fewn eu lluoedd.
Does dim gwybodaeth wedi ei rannu am ble y digwyddodd y camymddwyn honedig na safle'r aelodau o staff o fewn y gwasanaeth.
Ond, dywedodd y gwasanaeth tân fod y pump ar lefel rheolwr criw - yr ail lefel o'r gwaelod - neu'n uwch.
Fe wnaeth yr uwch swyddog tân Dawn Docx amddiffyn y penderfyniad i beidio diarddel unrhyw un tra bod yr ymchwiliad yn digwydd.
Dywedodd: "Hoffwn sicrhau ein bod ni'n cymryd unrhyw bryderon sy'n codi gan ein staff o ddifrif gan sicrhau ein bod ni'n rhannu'r gefnogaeth addas gyda nhw ar bob adeg.
"Gydag unrhyw ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn, mae'n amhriodol dyfalu neu wneud sylwadau ar ddigwyddiad penodol.
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad gwaith cadarnhaol i'n holl weithwyr.
"Nid oes lle o gwbl i aflonyddu, bwlio na gwahaniaethu yn ein gwasanaeth tân ac achub."
'Ymchwilio'n briodol'
Dywedodd fod gan y gwasanaeth bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau er mwyn cyrraedd y safonau sy'n ddisgwyliedig gan aelodau'r cyhoedd.
"Fodd bynnag, fel gydag unrhyw sefydliad sy'n cyflogi dros 900 o bobl, rydym weithiau'n dod ar draws pryderon ynghylch ymddygiad sydd ddim yn cadw at ein safonau," dywedodd.
"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi, eu hymchwilio'n briodol a'u trin yn deg, naill ai'n anffurfiol neu'n ffurfiol yn dibynnu ar eu natur.
"Mae gennym ni brosesau cadarn yn eu lle i warchod a gweithredu yn erbyn ymddygiad amhriodol.
"Mae'n bwysig bod pobl yn teimlo'n gyfforddus i godi unrhyw bryderon ac mae gennym ni sawl ffordd y gallant wneud hyn, gan gynnwys llinell ffôn annibynnol a chyfrinachol.
"Mae'n galonogol i mi bod y mwyafrif o'n staff yn bobl gynhenid dda, sy'n dod i'r gwaith i ddarparu'r gwasanaeth gorau posib ac yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o'r gwasanaeth tân ac achub."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2014