Menter gymdeithasol eisiau prynu Marina'r Felinheli
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymdeithasol newydd wedi'i lansio yng Ngwynedd i brynu marina, a'i blaenoriaeth yw i fod y gyntaf o'i math yng Nghymru.
Cafodd Menter Felinheli ei sefydlu ychydig wythnosau yn ôl yn unig, gyda'r nod o greu buddion economaidd a chymdeithasol i'r pentref rhwng Caernarfon a Bangor.
Ond mae'r rheiny sydd tu ôl i'r fenter yn dweud mai ei nod gyntaf fydd ceisio sicrhau dyfodol i'r marina, sydd ar werth ar hyn o bryd.
Mae Menter Felinheli wedi gosod targed "uchelgeisiol" o gasglu £1m er mwyn ceisio prynu'r safle.
'Cymreigeiddio'r marina'
Cafodd Marina'r Felinheli ei adeiladu yn yr 1980au, ar safle porthladd ble roedd llechi o chwarel Dinorwig yn arfer cael eu gyrru o amgylch y byd.
Ond yn gynharach eleni aeth y cwmni oedd yn berchen arno - y Marine and Property Group - i ddwylo'r gweinyddwyr.
Mae pob marina oedd dan ofal y cwmni - Y Felinheli, Aberystwyth, Caerdydd, Porth Tywyn, a Watchet yng Ngwlad yr Haf - bellach ar werth.
Un o'r rhai y tu ôl Menter Felinheli yw Huw Watkins sydd, fel cyfarwyddwr gweithredol BIC Innovation, â phrofiad sylweddol o gefnogi a datblygu busnesau yng ngogledd Cymru.
Ar raglen Dros Frecwast dywedodd: "Mae Marina yn bodoli [yn Y Felinheli] ers cyfnod y porthladd, wedi ei adeiladu yn y 1980au, ac wedi ei adeiladu i bob pwrpas fel cymuned ar wahân.
"Mae cyfle fan hyn a'r nod yn amlwg ydy uno a Chymreigeiddio'r marina er budd economaidd a chymdeithasol Felinheli.
"Mi fyddai yna sicrwydd i'r busnesau, mae 'na gyfleoedd i adeiladu ar beth sydd 'na yn forol o ran gwasanaethau newydd a chyfleoedd yma i sefydlu mentrau newydd ac yn fwy na hynny, i adeiladu ar hanes a threftadaeth a dod a hynny'n fyw i blant y pentref."
Gŵr lleol arall sy'n rhan o'r prosiect yw'r digrifwr, y cyflwynydd teledu a radio, Tudur Owen. Dywedodd fod y fenter yn "uchelgeisiol".
"Be' sy'n anodd ydy ma'r arwerthwr 'di penderfynu cynnal ocsiwn gudd, ond 'dan ni wedi rhoi nod i'n hunain o £1m.
"Os medran ni gyrraedd y nod a chael gafael ar y lle yma fe fydd yna ddyfodol cyffrous iawn.
"Mae 'na lot o waith i'w wneud. Mae'n rhaid arolygu'r holl le a thrio cael syniad o be' 'di gwir werth y lle, ond hefyd faint o gostau sydd yn y lle am mai ychydig iawn o fuddsoddiad sydd wedi bod yn y lle ma'.
"Mae hynny yn rhywbeth y gallwn ni edrych a rhoi sicrwydd i'r staff sydd gweithio yma'n barod."
'Holl arian i'r gymuned'
Pan holwyd a fyddai modd i'r safle weithio fel busnes, dywedodd Tudur Owen: "Yn bendant, mae'n fusnes sy'n llwyddo yn barod efo'r tîm sydd wedi bod drwyddi braidd yn ddiweddar efo'r ansicrwydd gyda'r busnes yn mynd a'i ben iddo.
"Mae 'na denantiaid busnesau lleol yn ffynnu yma sydd wedi gosod sylfaen yn barod, ac mi allwn ni adeiladu ar hynny hefyd iddo lwyddo a bydd yr holl arian yn aros yn y gymuned a'i fuddsoddi yn ôl yn y gymuned."
Cafodd cyfarfod cyntaf y fenter ei gynnal yr wythnos ddiwethaf, a'r gobaith yw trefnu mwy er mwyn rhoi llais i'r gymuned wrth i'r cynlluniau i brynu'r marina ddatblygu.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yr wythnos nesaf bydd y fenter yn lansio apêl am roddion gan bobl leol neu unrhyw un sydd â chysylltiad â'r pentref.
"'Dan ni'n gwthio'r cwch i'r dŵr yr wythnos nesa yn yr Eisteddfod," ychwanegodd Tudur Owen.
"Mae hi yn bwysig cofio bod 'na gynnwrf yn barod o fewn y pentref, ond mae pwysigrwydd y lleoliad yma a'r cysylltiadau ar draws y byd, a 'dan ni'n gobeithio creu ychydig o gynnwrf llawer iawn pellach na ffiniau'r pentref yma."