Parafeddyg yn 'disgwyl profi rhywiaeth' yn y gwaith
- Cyhoeddwyd
Mae parafeddyg benywaidd sy'n gweithio yng Nghymru yn dweud ei bod hi'n mynd i'r gwaith gan ddisgwyl sylwadau rhywiaethol gan gyd-weithwyr.
Mae hi'n dweud bod sylwadau ac ymddygiad o'r fath mor ganolog i'r diwylliant yno, mae hi'n ofni y byddai dyfodol ei gyrfa yn y fantol pe bai hi'n cwyno.
Dyw hi ddim eisiau datgelu ei henw yn gyhoeddus, ond mae'n rhan o ymgyrch gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i ddelio â phroblemau o'r fath.
Fe fu'r gwasanaeth yn cynnal arolwg ymhlith eu staff, yn dilyn adroddiadau o ymddygiad sarhaus tuag at fenywod o fewn gwasanaethau brys eraill, fel Heddlu'r Met, y gwasanaeth tân a'r lluoedd arfog.
Mae penaethiaid y Gwasanaeth Ambiwlans yn dweud bod y canlyniadau yn anghyfforddus ond ddim yn annisgwyl.
'Y fenyw yn cael y bai'
Doedd un parafeddyg ddim eisiau cyhoeddi ei henw oherwydd ei bod yn poeni am effaith gwneud hynny ar ei gyrfa. Ond roedd yn awyddus i rannu gyda BBC Cymru pa mor gyffredin yw ymddygiad o'r fath.
"Dwi'n disgwyl cyrraedd y gwaith am chwech o'r gloch y bore yn fy iwnifform, ac oherwydd mod i'n fenyw ifanc dwi'n disgwyl clywed sylwadau rhywiaethol," meddai
"Fel arfer mae 'na sylwadau bach ynglŷn â beth dwi'n gwisgo, sut dwi wedi gwneud fy ngwallt, ydw i'n gwisgo colur ai peidio."
Mae'n pwysleisio nad yw pob aelod o staff gwrywaidd yn ymddwyn felly, bod ganddi gydweithwyr gwych a'i bod yn mwynhau ei gwaith yn fawr.
Ond doedd hi ddim yn teimlo y gallai gwyno am yr hyn roedd hi'n ei brofi.
"Os wyt ti'n siarad am y pethe 'ma, fel arfer mae pobl yn gofyn: 'Pam ddigwyddodd hwnna i ti? Beth oeddet ti'n 'neud sydd wedi gwneud iddyn nhw ymddwyn fel 'na?'
"Mae hwnna'n rhywbeth sydd ddim yn perthyn i'r Gwasanaeth Ambiwlans yn unig. Mae'n rhan o'r gymdeithas gyfan - bod y fenyw yn cael y bai. Yn amlwg ti wedi bod yn gwneud rhywbeth sydd wedi gwneud iddo fe fynd ar dy ôl di yn y ffordd yna.
"Dwi wir yn ofni am fy ngyrfa a'r ffordd bydde pobl yn meddwl amdana'i... tasen i'n cael fy nabod fel yr un sy'n ceisio cael gwared ar y banter... 'hi yw'r un wnaeth drio stopio'n hiwmor ni'."
"Derbyn y broblem yn ei chyfanrwydd, er gall hynny fod yn anghyfforddus, yw'r cam cynta' er mwyn newid pethau," meddai Bron Biddle, sydd wedi arwain y gwaith ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans.
Mae Ms Biddle yn un o staff y gwasanaeth sydd wedi bod yn rhannu eu profiadau o aflonyddu rhywiol o fewn y gweithle gan gydweithwyr.
"Mae'r gweithle wastad yn adlewyrchu'r gymdeithas, and yn anffodus mae hon yn rhan o broblem tipyn ehangach.
"Doeddwn i ddim wedi fy synnu gyda'r hyn glywais i, ond mae maint y broblem wedi fy llorio."
Mae pennaeth y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru, Jason Killens, wedi bod yn cynnal sesiynau gyda chydweithwyr sydd wedi profi ymddygiad annerbyniol fel hyn, ac mae'n dweud ei fod wedi dysgu llawer.
"Dwi ddim yn credu 'mod i wedi sylweddoli'n llawn pa mor unig gall bobl deimlo os ydyn nhw'n gorfod diodde' ymddygiad fel hyn yn y gweithle," dywedodd.
"Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phobl ledled y gwasanaeth i greu cynllun i newid ein diwylliant."
Ychwanegodd bod ei farn ei hun wedi newid dros y misoedd diwethaf - yn lle adnabod y drwgweithredwyr a'u diswyddo, mae eisiau newid agweddau ac ymddygiad o fewn y gweithle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2023