Protest gwesty lloches: 'Yma mor hir â sydd raid'
- Cyhoeddwyd
Mae Gwesty Parc y Strade yn wag, ac mae awyrgylch o ddrwgdeimlad ac anwybodaeth yn treiddio i bob cwr o'r gymuned fechan ar gyrion Llanelli.
Mae mis wedi mynd heibio ers i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi y byddai hyd at 241 o geiswyr lloches yn cyrraedd Ffwrnes, ond parhau'n wag mae'r adeilad, a bron i 100 o staff y gwesty wedi colli eu swyddi.
Mae'r methiant hyd yma i newid defnydd y gwesty yn cael ei ddathlu fel buddugoliaeth gan aelodau SOSPAN - Save Our Stradey Parc and Neighbourhood.
Mae criw bychan ond penderfynol o'u haelodau'n gwersylla y tu allan i unig fynediad y gwesty bob awr o'r dydd - a does ganddyn nhw ddim bwriad symud.
"Mi fydda i yma mor hir â sydd raid," meddai Theresa, sy'n 58 oed ac yn treulio rhyw chwe awr yma bob dydd.
Hi oedd yr unig un i gynnig ei henw, a'r unig un oedd yn fodlon ateb cwestiynau'r wasg.
Mae 'na ddrwgdeimlad cryf tuag at bron bob aelod o'r cyfryngau, a'r protestwyr yn flin eu bod nhw i gyd, medden nhw, wedi'u pardduo fel pobl hiliol.
Yma hefyd, yn sgwrsio'n hamddenol gyda'r ddau ddwsin o brotestwyr, mae dau o swyddogion cefnogi cymuned Heddlu Dyfed-Powys.
Mae 'na bryder y gall y sefyllfa waethygu'n gyflym dros y dyddiau nesaf.
Yr wythnos ddiwethaf fe lwyddodd perchnogion y gwesty, Gryphon Leisure, i gael gwaharddiad yn yr Uchel Lys i gyfyngu ar weithredoedd y protestwyr.
Mewn llythyr sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, mae'r perchnogion yn bygwth cyflogi swyddogion preifat i symud eu pebyll, eu dodrefn a'r rhwystrau.
Ond mae'r grŵp yn benderfynol o aros.
Mae Theresa yma bob bore am 09:00, ac yn aros am rai oriau cyn dychwelyd yn y prynhawn i gadw cwmni i'r rhai sy'n aros dros nos.
"Mae'r bwyd a diod 'dan ni'n gael gan bobl yn wych," meddai, wrth i gar arall ganu corn mewn cefnogaeth wrth yrru heibio.
'Heddychlon, hyd yma'
"Mae'r brotest hyd yma wedi bod yn un barchus a heddychlon," meddai Wayne Stephens, 58 oed a landlord y Stradey Arms, tafarn boblogaidd rhyw ganllath o fynediad y gwesty.
"Ond os fydd perchnogion y gwesty, neu'r heddlu, yn ceisio eu symud i ffwrdd, yna mi all hynny droi'n flashpoint.
"Mi fyddai hynny'n gamgymeriad, a dwi'n falch i weld fod y swyddogion cymuned yno bob dydd yn siarad gyda'r protestwyr a dod i'w hadnabod."
Does gan Wayne Stephens ddim syniad beth fydd pen draw'r brotest, nac ychwaith beth fydd y ceiswyr lloches yn wneud pe baen nhw'n cyrraedd yr ardal.
"Ydyn nhw'n mynd i gael crwydro'r dref neud a fyddan nhw'n sownd yn y gwesty? Os ydyn nhw i gyd yn dod i'r dafarn, fydd hynny'n gyrru pobl eraill i ffwrdd?
"Mwy na thebyg mi fyddan nhw, ond 'dan ni'n styc yn y canol a fydd pobl yn cael eu perswadio i beidio dod yma am ddiod.
"Un peth positif o hyn i gyd," ychwanegodd, "yw bod pobl o bob math o gefndir, a chrefydd, oedran a chefndir wedi dod mas i brotestio."
Wrth gerdded heibio Clwb Rygbi Ffwrnes ar eu ffordd tuag at lwybr yr arfordir, mae Allan Edwards a John Bennett yn cytuno fod achos Gwesty Parc y Strade yn cael ei drafod gan bawb.
"Mae pawb yn siarad am hyn," meddai Allan Edwards, 72.
"Does genna' i na fy ffrindiau ddim byd yn erbyn mewnlifiad - mae wedi digwydd ers cyn hanes - ond mae angen gwybod pwy yw'r bobl yma.
"Mae angen gwneud hynny cyn gynted â maen nhw'n cyrraedd [y DU]."
Yn ôl John Bennett, 74, mae yna bryder ynghylch sut y byddai ceiswyr lloches yn ymateb o fod yn sownd mewn gwesty am gyfnod amhenodol.
"Chi'n rhoi 200 o ddynion sydd ddim yn adnabod ei gilydd mewn un lle. Falle fydden nhw'n dod 'mlaen 'da'i gilydd am wythnos neu ddwy ond beth wedyn?
"Chi mond angen ambell gymeriad gwael."
Yn gwthio'i merch ar y siglen ym Mharc Howard rhwng Ffwrnes a chanol tref Llanelli, mae Rachel Peregrine, 33, yn ei chael hi'n anodd penderfynu beth yn union yw ei barn.
"'Sa i'n gwybod beth i feddwl, a dweud y gwir," meddai, "ond os bydd y gwesty yn llawn dynion, fydden i ddim yn rhy hapus.
"Ond ni'n cael dim gwybodaeth."
Un arall sy'n teimlo'n rhwystredig am y diffyg gwybodaeth yw Susan Davies, 64. Mae hi wedi prynu cloch diogelwch i'w drws ffrynt.
Mae hi'n cofio bod yn forwyn briodas yn y gwesty, ac yn teimlo'n drist am yr hyn sy'n digwydd.
"Mae 'na lawer o bobl yn cael trafferth ariannol ar hyn o bryd," meddai. "Mae'n ardal eitha' tlawd.
"Allwn ni fod wedi helpu'r bobl yma yn hytrach na gwario'r holl arian."
Wrth dderbyn cyflenwad o gwrw mae Geraint Phillips, 58, o Glwb Rygbi Ffwrnes yn poeni am effaith cymaint o geiswyr lloches ar gymuned mor fach.
"Dim ond ryw 400 o bobl sy'n byw yma, a dim ond siop gornel sydd," meddai. "Mi all y gymuned ddyblu mewn maint.
"Ni di bod yn y twyllwch ers y diwrnod cynta'. Ni jest ddim yn gwybod pwy na beth sy'n dod 'ma."
Nôl yn y gwersyll mae 'na gydnabyddiaeth gan un fenyw, sydd ddim am rannu ei henw, fod yr ymdrech yn amharu ar ei hiechyd.
Mae'r cyfan, medd sawl un, yn rhoi pwysau aruthrol arnyn nhw, ond maen nhw'n teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis.
Dim ond dau ddiwrnod i ffwrdd o'r brotest mae un o'r criw wedi'i gael mewn 31 o ddiwrnodau, gan gwblhau wyth awr o shifft bob dydd.
Gyda'r shifft nos yn paratoi i adael am saib yn eu cartrefi, mae'r brecwast poeth yn cyrraedd.
"Mae'r bwyd yn wych," meddai Theresa. "Roedd pavlova yma y diwrnod o'r blaen, ond nes i fethu hwnna. Mae cyri a reis, a digonedd o bice ar y maen."
Rhaid i rywun ildio, neu golli
Er gwaetha'r bwyd a'r gefnogaeth, mae'n anodd gweld na all yr awyrgylch ond gwaethygu dros yr wythnosau i ddod.
Gyda'r ddwy ochr yn benderfynol o lwyddo, mi fydd yn rhaid i rywun ildio, neu golli.
Mi fyddai'r profiad hwnnw'n chwerw i'r protestwyr ond hefyd i gymuned glós Ffwrnes, sydd bellach yn cael ei diffinio gan yr hyn sy'n digwydd, neu ddim yn digwydd, yn Ngwesty Parc y Strade.
Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu gyda pherchnogion Gwesty Parc y Strade ond heb gael ateb.
Mae'r Swyddfa Gartref yn gwrthod ymateb i achosion penodol, ond yn mynnu fod rhaid ymateb i'r niferoedd o geiswyr lloches sy'n cael eu cadw mewn gwestai dros dro, sy'n costio'r trethdalwyr tua £6m bob dydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023