Gwesty lloches: Protestwyr am frwydro ymlaen

  • Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i 241 o geiswyr lloches ymgartrefu yng Ngwesty Parc y StradeFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i 241 o geiswyr lloches ymgartrefu yng Ngwesty Parc y Strade

Mae grŵp sy'n gwrthwynebu cynllun i gartrefu ymgeiswyr lloches mewn gwesty yn Sir Gaerfyrddin yn dweud nad yw'r frwydr drosodd yn dilyn gorchymyn Uchel Lys yn eu herbyn.

Mae'r gorchymyn yn cyfyngu ar weithgareddau'r grŵp sydd wedi ymgasglu y tu allan i Westy Parc y Strade yn Ffwrnes ger Llanelli dros yr wythnosau diwethaf.

Mae Grŵp Gweithredu Ffwrnes yn dweud y byddan nhw'n parhau gyda'r frwydr yn erbyn y cynllun, ac wedi annog pobl ar y safle i bwyllo.

Bydd y gorchymyn mewn grym tan Ionawr y flwyddyn nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwrthwynebiad lleol wedi bod i'r cynlluniau ers eu cyhoeddi

Dywedodd Robert Lloyd o'r grŵp: "Dyw'r barnwr ond wedi caniatáu rhan o dir 12 troedfedd o led, sydd ddim yn fawr iawn. Gewch chi drafferth cael lori fawr i mewn. Fe ddywedodd e hefyd fod hawl i brotestio'n heddychlon yma.

"Mae'r llys wedi troi mater sifil yn fater troseddol. Lle'r ry'n ni'n sefyll, dyw e ddim yn dresmasu ond mae hawl mynediad i'r gwesty. Felly os nad ydych chi'n symud pan mae rhywun yn gofyn i chi wneud, fe allech chi gael eich harestio am rwystro.

"Rhaid i ni aildrefnu fel grŵp ar ôl colli'r achos. Ein bwriad o'r dechrau oedd gwneud popeth o fewn y gyfraith i stopio'r cynllun hurt yma.

"Ry'n ni wedi llwyddo i'w oedi, ac fe fydd rhaid iddyn nhw wneud lot mwy unwaith y cawn nhw fynediad i'r gwesty, felly dyw hi ddim ar ben arnom ni... dyw'r frwydr ddim drosodd ac fe fyddwn ni'n parhau.

"Roedden ni am warchod y gwesty yma, sy'n bwysig i bobl Sir Gaerfyrddin. Mae gan bobl atgofion melys yma boed hynny'n wyliau, priodasau ac ati, ond ry'n ni hefyd yn credu nad dyma'r lle iawn i gartrefu ymgeiswyr lloches.

"Ry'n ni'n derbyn fod gan bawb rhan i chwarae yn y wlad ac mae Sir Gaerfyrddin yn gwneud hynny ar lefel bwysig. Ond ry'n ni'n credu nad yw hi'n dderbyniol i 241 o bobl gael eu rhoi yma mewn 71 ystafell - 3 neu 4 i bob ystafell.

"Dyw e ddim yn syniad da.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o brotestiadau wedi eu cynnal ger y gwesty

"Ry'n ni wedi cael ein galw'n hiliol ac yn rhagfarnllyd, ond dyw hynny'n ddim yn wir. Dyma gynllun anghywir yn y lle anghywir ac mae angen ei stopio.

"Mae carfanau o grwpiau gwleidyddol gwahanol wedi herwgipio'r ddadl fan hyn ac mae hynny'n bryder i ni... mae'n bryder y gallai pethau fynd dros ben llestri.

"Hoffwn i i bobl gadw'u pennau. Ry'n ni'n ymwybodol o farnau gwleidyddol gwahanol ar y safle ac fe allai pethau boethi, ond ry'n ni am i bobl fod yn ofalus."

Dywedodd John Davies sy'n byw yn y pentref bod "tensiynau'n codi."

"Mae pobol o tu allan i'r ardal yn dod mewn a trial gwthio ei agendas nhw, sy'n siomedig.

"Mae pobol sy'n byw yn y pentref yn poeni oherwydd does dim ganddo ni y cyfleusterau.

"Os mae plant yn dod, mae ysgolion ni'n orlawn, dydych chi methu cael apwyntiad gyda'r doctor na'r deintydd, felly bydd e'n cael effaith mawr am y gymuned."

Pynciau cysylltiedig