Eisteddfod: Galw am gymdeithas lefaru i roi hwb i'r grefft

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Côr Llefaru dros 16 mewn nifer (132) Eisteddfod Tregaron 2022
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cystadlaethau llefaru grŵp ac unigol yn rhan bwysig o arlwy yr Eisteddfod Genedlaethol

Wrth nodi 60 mlynedd ers dechrau un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol i lefarwyr - Gwobr Llwyd o'r Bryn - mae yna alw am sefydlu cymdeithas i lefarwyr.

Mewn sesiwn ar y maes ym Moduan i gofio un o hoelion wyth y byd llefaru, Madge Hughes, galwodd Cefin Roberts am sefydlu cymdeithas i roi hwb i ddyfodol y grefft.

Dywedodd hefyd fod angen "cadw golwg ar y sefyllfa" wrth rybuddio bod testunau i lefarwyr "yn crebachu".

Ychwanegodd Sian Teifi, cadeirydd Pwyllgor Llefaru lleol yr Eisteddfod eleni, y byddai cymdeithas yn "sicrhau seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol".

"Rwy meddwl y gallai trafod y grefft helpu 'Steddfodwyr a pherfformwyr y dyfodol fwy fyth," dywedodd Cefin Roberts.

"Does dim byd gwell na gweld rhywun ar lwyfan sydd yn wirioneddol dda wrthi yn llefaru.

"Allwch chi ddim cnocio'r grefft. Sut ffordd arall fydde' rhai pobl yn clywed barddoniaeth oni bai ei fod yn cael ei ddweud ar lwyfan Eisteddfod?"

Disgrifiad o’r llun,

Bu Cefin Roberts a Sian Teifi yn trafod dyfodol y grefft o lefaru mewn sesiwn ar faes yr Eisteddfod ddydd Sul

Mae Cefin Roberts yn cyfaddef fodd bynnag fod angen edrych ar ddarnau llefaru a thrafod sut mae denu cefnogwyr i'r grefft.

Dywed y gallai sgiliau llefaru fod o fudd i wleidyddion, siaradwyr cyhoeddus, barnwyr, actorion ac unrhyw berson sy'n siarad yn gyhoeddus.

'Testunau yn crebachu'

Wrth drafod y dyfodol, rhybuddiodd fod angen "cadw golwg ar y sefyllfa".

"Mae'r testunau i lefarwyr yn crebachu 'chydig bach, felly cadw llygad barcud ar be' sy'n digwydd fyddwn ni yn g'neud."

Disgrifiad o’r llun,

Awel Grug Lewis o Rydaman oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol dan 12 oed yr Eisteddfod eleni

Un sy'n cefnogi'r alwad yw Sian Teifi, Cadeirydd Pwyllgor Llefaru lleol yr Eisteddfod eleni ac enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn 1978.

"Roedd yna gymdeithas adrodd a llefaru yn yr 80au," dywedodd.

"Dyna be' ry'n ni'n chwilio amdano nawr yw rhyw fath o blatfform newydd lle y gallwn ni ddod at ein gilydd i drafod ein crefft a sicrhau fod y grefft ar seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol."

Mae hi'n dweud fod dewis darnau apelgar yn bwysig, hefyd.

"Mae angen dewis darnau sy'n ymestyn cystadleuwyr, wedyn bydd mwy yn cystadlu a bydd mwy o ddiddordeb yn y grefft a mwy o drafod y grefft, a thrwy hynny sicrhau ei dyfodol hi."