Lluniau Dydd Sul: Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
Roedd yr haul yn gwenu ym Moduan ar ail ddiwrnod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.
Dyma rai o'r golygyfeydd ar y Maes.

Eisteddfod y cŵn! Diwrnod ar y maes i Elsi, cavapoo yr actor Wynford Ellis Owen a'i wraig Meira, ac i Wini, goldendoodle yr actorion Bethan Ellis Owen a Jack Quick

Yr oedfa yn y Pafiliwn Mawr

Nedw o Lanrug yn dweud helô wrth Mistar Urdd. Ac wyddoch chi be? Roedd ei frawd bach, Mabon, yn cysgu yn braf yn y troli

Rhai o aelodau Côr Ieuenctid Môn cyn cystadlu yn y côr adloniant

Y Parchedig Harri Parri yn rhannu hanes Meddygon y Ddafad Wyllt yn Y Sfferen, pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Nona o Lantrisant ar y tractor gyda'i thaid, Lyn

Ciwio am gyw iâr amser cinio

Aled, Lona a Mai. Lona o Bwllheli yw un o 'smwddiwrs' gwisgoedd yr Orsedd a Mai o Lwyn Hudol yw Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith

Ciwio i weld y cystadlu yn y Pafiliwn Mawr...

Ac yno i agor y drws oedd Jenny o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Dyma ei hail flwyddyn yn stiwardio yn yr Eisteddfod ac mae hi'n dysgu Cymraeg

Mae Hari a Sara o Ynys Môn wrth eu boddau gydag ychydig o fwd...

Mared Williams a Morgan Elwy oedd yn cynnig bach o hwne yng Nghaffi Maes B

Fe wnaeth Sorela ymuno â Linda Griffiths yn y Tŷ Gwerin

Seidir ar y Sul i aelodau o gôr Cantilena, Llanrwst. Roedd angen torri syched ar ôl cystadlu yn y côr adloniant

Pwy sy'n gwneud campau o flaen Llwyfan y Maes? Glain Rhys sy'n perfformio
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
Mwy o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd5 Awst 2023