Eisteddfod 2023: Rhai'n ciwio am awr i gyrraedd y maes

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dyma oedd yr olygfa toc wedi hanner dydd ddydd Sul, wrth i geir giwio am hyd at ddwy filltir a hanner i gyrraedd y maes

Fe wnaeth rhai teithwyr i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd wynebu oedi o hyd at awr mewn ciwiau traffig i gyrraedd y maes ddydd Sul.

Gyda'r maes ei hun ym Moduan, mae holl draffig yr Eisteddfod o'r gogledd a'r dwyrain yn cael ei gyfeirio tuag at bentre'r Ffôr ac yna ar hyd y B4354 a'r A497.

Ond fe ddywedodd rhai teithwyr ddydd Sul ei bod hi wedi cymryd awr iddyn nhw deithio rhwng Y Ffôr a maes y Brifwyl - sy'n daith o chwe milltir.

Mewn ymateb fe ddywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi cael "bore prysur iawn" ond fod "popeth yn rhedeg yn hwylus" bellach.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Cyngor trefnwyr yr Eisteddfod yw i ddilyn yr arwyddion traffig.

Ond yn ôl sawl un oedd ar y maes ddydd Sul, roedd y ciwiau'n waeth na'r oedden nhw'n ei ddisgwyl.

'Ofnadwy'

Fe ddywedodd Geunor Roberts, darpar lywydd Merched y Wawr: "'Dan ni'n aros yn Llanystumdwy a ddoe mi ddo's i mewn rhyw 11:00 a dim trafferth.

"Roedd hi'n hynny arnon ni'n cychwyn heddiw ac mi gymerodd hi awr a hanner i ni gyrraedd yma! 12 milltir... awr!

"Traffig trwm a dim digon o heddlu i symud pobl ymlaen... ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Geunor Roberts fe wnaeth ei thaith 12 milltir i'r maes gymryd awr a hanner

Ychwanegodd: "Ma' gen i seremoni ar y llwyfan am 15:00 a taswn i wedi ei adael yn hwyrach i ddod mewn faswn i ddim 'di cyrraedd.

"Lwcus bod y seremoni ddim am 12:00 neu 'swn i'n dal yn y ciw."

Stori debyg oedd hi gan griw arall sy'n aros mewn pentref cyfagos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyneth Evans, Buddug Jones, Mary Lloyd a Nia Rowlands i gyd yn aros yn Y Ffôr

Fe ddywedodd Gwyneth Evans, sy'n aros yn y Ffôr - tua chwe milltir o faes y Brifwyl: "Mae'n wael... wnaeth o gymryd tua awr i ni ddod yma heddiw, jyst o'r Ffôr."

Fe ychwanegodd Mary Lloyd: "Mae 'na lot o lonydd cul a goleuadau traffig ar hyd y lôn hefyd, mae hynny'n arafu pethau."

Roedd Ieuan a Sian Roberts o Gaernarfon wedi teithio lawr am y dydd ac yn bwriadu dychwelyd penwythnos nesaf.

"Oedd y traffig yn uffernol," meddai Ieuan.

Disgrifiad o’r llun,

Ieuan a Sian Roberts o Gaernarfon

"Mae o 'di cymryd awr a hanner i ni ddod yma o Gaernarfon," ychwanegodd.

"Dwi'n meddwl oedd o tua awr arna ni yn y ciw [o gyffordd Y Ffôr]."

Gydag arwyddion wedi eu gosod ar gyfer cyrraedd maes yr Eisteddfod, mae pobl yn cael eu hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle'n bosib.

'Dilynwch yr arwyddion'

Mewn datganiad dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Rydyn ni wedi cael bore prysur iawn, ac yn sgil hynny, roedd dipyn o oedi ar un adeg.

"Yn ogystal, cafodd traffig ei ddal i fyny wrth i brotestwyr gerdded i'r maes ar y ffordd fawr.

"Unwaith y cyrhaeddodd y protestwyr y Maes, fe liniarodd y traffig, ac mae popeth yn rhedeg hwylus erbyn hyn."

Fore Sul, ar raglen Bore Sul Radio Cymru fe ddywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Dilynwch yr arwyddion.. mae ganddon ni ddigon o feysydd parcio felly beth y'n ni'n gwneud yw defnyddio rhai gwahanol bob dydd er mwyn sicrhau fod pob un yn cael amser i anadlu."

Cyn y Brifwyl fe ddywedodd: "Ry'n ni wedi cydweithio gyda'r heddlu a'r cyngor sir lleol a'r arbenigwyr trafnidiaeth gyda misoedd o waith wedi mynd i wireddu'r cynllun.

"Yr hyn ry'n ni'n gofyn i bawb yw i ddilyn yr arwyddion, peidiwch â dilyn Google!

"Dyna sy'n bwysig am fod yna gymorth ar hyd y daith i sicrhau bod y llif yn parhau."

Pynciau cysylltiedig