Archdderwydd: Dathlu 'un byd Cymraeg am wythnos'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Archdderwydd wedi pwysleisio pwysigrwydd rheol iaith y Brifwyl, gan nodi fod ei dyfodiad â pherthynas agos iawn gydag ardal Llŷn.
Er gwaethaf rhai galwadau diweddar i'w llacio, mae Myrddin ap Dafydd wedi amddiffyn y rheol sy'n nodi mai'r Gymraeg yw unig iaith cystadlu a pherfformio'r Eisteddfod Genedlaethol.
Yn ystod seremoni gyhoeddi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024, fe ddywedodd: "Un Maes, un wythnos, dyna'i gyd mae'r rheol Gymraeg yn ei hawlio."
Wrth wynebu ei wythnos olaf wrth y llyw, fe atgyfnerthodd yr Archdderwydd ei safbwynt drwy ddweud wrth BBC Cymru fod cael "un byd Cymraeg am wythnos" yn rhywbeth i'w ddathlu.
'Llysgenhadaeth ar ran Cymru a'r Gymraeg'
Bellach yn byw yn Llŷn, bydd y Brifwyl eleni yn un arbennig i Myrddin ap Dafydd cyn iddo basio'r awenau i'r Ardderwydd nesaf, Mererid Hopwood.
Dywedodd ei fod yn argyhoeddedig y bydd hi'n "bâr o ddwylo diogel iawn" ac ar benwythnos cyntaf yr Eisteddfod fe bwysleisiodd bwysigrwydd yr ŵyl fel "llysgenhadaeth ar ran Cymru a'r Gymraeg".
Wrth siarad ar raglen Bore Sul Radio Cymru fe ddywedodd fod y cyffro yn amlwg yn Llŷn ac Eifionydd ers rhai misoedd.
Dywedodd ei fod yn falch hefyd fod ei gyfnod wedi dechrau yn ei ardal enedigol, sef yn Eisteddfod Llanrwst 2019.
"Fedran ni ddefnyddio'r Eisteddfod fel llwyfan rhyngwladol i groesawu a bod yn rhyw fath o lysgenhadaeth ar ran Cymru a'r Gymraeg," meddai.
"Mae'n bwysig i ni edrych ar yr Orsedd a'r Eisteddfod fel rhywbeth sy'n perthyn i Cymru gyfan... dwi'm yn meddwl fod y rheol Gymraeg yn destun dadl erbyn hyn.
"Hyrwyddo'r Gymraeg ydy diben yr egwyddor Gymraeg yn yr Eisteddfod ac ma' ei chysylltiadau gyda'r ardal hon yn gryf iawn.
"Yn 1937, pan oedd y tri Penyberth yn y carchar yn ystod Eisteddfod Machynlleth, dyna pryd sefydlwyd yr egwyddor Gymraeg.
"Fel nad oedd Lord Londonderry, oedd yn hyrwyddwr yr ysgol fomio ac ar ei dir o oedd Eisteddfod 1937, fel nad oedd o ddim yn cael annerch yr Eisteddfod fel llywydd.
"Felly mae 'na berthynas agos iawn ac 'da ni wedi bod ar daith ers hynny, ac rhaid edrych arni fel cyfle i hyrwyddo'r Gymraeg.
"Cael un byd Cymraeg am wythnos, ac mae llawer o ddysgwyr a siaradwyr newydd wedi dweud fod hynny mor gryf ac yn gweld rheswm gwirioneddol i ddysgu Cymraeg, er mwyn mwynhau hyn i gyd."
'Gobeithio fydd pobl yn crwydro'
Gyda gobaith fydd ymweliad y Brifwyl yn dod a buddion economaidd, yn ogystal a rhai diwylliannol i'r rhan hon o Wynedd, mae'n gobeithio "dathlu y busnesau sy'n bod yma'n barod".
"Mae'n deimlad braf fod yr ardal wedi dod at ei gilydd i estyn croeso gwirioneddol ac wedi cael llawer o hwyl wrth wneud", meddai.
"Ond mae 'na 15 milltir o'r maes 'ma at gyfeiriad Enlli hefyd sydd werth ei weld ac gobeithio'n wir fydd pobl yn crwydro."
Ond gyda'r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal mewn sir lle mae tua 8,000 o dai haf, ond 3,600 o bobl ar restrau aros am dai cymdeithasol, mae'r ddadl dros dai fforddiadwy yn un sydd wedi codi ei ben yn aml dros y blynyddoedd diwethaf.
Gyda'r ardal yn gysylltiedig â'r ymgyrch 'Hawl i Fyw Adra', fe ddywedodd fod modd rhoi "hyder i ardal os yw'n gallu dod â'r diwydiant ymwelwyr oddi fewn eu rheolaeth eu hunain".
"Mae'r cyfnod clo wedi cynnig y cyfle i bobl weithio o adra," meddai.
"Dyma gyfle allwn gydio ynddo gyda sefydliadau yn caniatáu pobl i ddychwelyd i'w hardaloedd.
"Mae yn codi cwestiwn hefyd, sut ydan ni'n edrych ar y diwydiant ymwelwyr. Be ydan ni'n neud o hwnna fel rhywbeth economaidd?
"'Da ni wedi clywed mai Cernyw ydy ardal dlotaf gwledydd Prydain... Gwynedd yn un o'r ardaloedd gyda'r cyflogau isaf.
"Dyna'r ardaloedd ymwelwyr, ydi'r diwydiant twristiaeth fel ag y mae o, yn gweithio er lles pobl leol? Wel yn amlwg dydy o ddim.
"Wrth sôn am hynny wrth gwrs mae'r Eisteddfod yn ran o'r diwydiant ymwelwyr, Eisteddfod deithiol yn dod i ardal ac felly mae'n ddyletswydd arnon ni Eisteddfodwyr hefyd ac mae 'na groeso.
"Dwi'n meddwl bydd pobl yn dychwelyd i ardaloedd os ydyn nhw wedi ymweld â phentrefi a busnesau, yn arbennig yma yn yr ardaloedd Cymraeg sy'n cynnig gwasanaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2016
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023