Rhybudd wedi i wylan ymosod ar ddynes ym Mhrestatyn

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon FennellFfynhonnell y llun, Rhiannon Fennell
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymosododd yr wylan ar Rhiannon Fennell ger ei chartref ym Mhrestatyn

Mae dynes o Brestatyn wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus ar ôl i wylan oedd yn nythu ymosod arni y tu allan i'w chartref.

Fe gafodd Rhiannon Fennell o Brestatyn niwed difrifol i'w phen wedi i'r wylan ymosod arni tra roedd hi'n cerdded i'w sied ddydd Iau.

"Nes i deimlo ergyd ar fy mhen. Doedd yna ddim rhybudd o gwbl a ro'n i'n meddwl fod bric neu deilsen wedi disgyn arna i, ac yna weles i'r aderyn yn hedfan i ffwrdd," meddai.

Roedd hi ar ei phen ei hun ar y pryd ac yn ddiweddarach fe gafodd gymorth cymdoges a arferai fod yn nyrs i drin y clwyf.

Dywed bod yr adar wedi bod yn nythu ar simneiau cymdogion ers blynyddoedd, ond mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymosod arni.

Ychwanegodd ei bod yn gwella ond ei bod hi hefyd wedi troi ei phigwrn wrth ddisgyn.

Ers y digwyddiad dywed ei bod "yn nerfus iawn" am fynd allan ond "be all rhywun ei wneud - gwisgo het galed?"

Mae Ms Fennell yn annog eraill i fod yn ymwybodol o ymosodiadau posib.

"Nid bai'r wylan yw e," ychwanegodd.

"Mae'r cywion yn gadael y nyth ac yn naturiol mae'r gwylanod yn hynod amddiffynnol."

Pynciau cysylltiedig