Adar ffug yn gwarchod to Tŷ Hywel tra bod ASau adref

  • Cyhoeddwyd
Gwylan uwchben CaerdyddFfynhonnell y llun, Matt Cardy

Mae adar ysglyfaethus ffug yn cael eu defnyddio mewn ymdrech i ddychryn gwylanod o un o adeiladau'r senedd ym Mae Caerdydd.

Mae adeilad Tŷ Hywel drws nesaf i'r senedd wedi bod bron yn wag ers dechrau cyfnod clo'r coronafeirws.

Mae'r 60 Aelod o'r Senedd wedi bod yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir yn lle cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Roedd contractiwr rheoli plâu y senedd wedi argymell gosod yr adar ysglyfaethus ffug.

Disgrifiad o’r llun,

A fydd gwylanod yn ymatal rhag nythu ar y to?

Tŷ Hywel fel arfer yw gweithle staff cymorth Aelodau'r Senedd a staff Comisiwn y Senedd sy'n gyfrifol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, ond maen nhw hefyd yn gweithio gartref.

Esboniodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd "yn dilyn argymhelliad gan ein contractwr rheoli plâu, rydym yn eu treialu fel dull o atal gwylanod rhag nythu ar y to".

Mae gwylanod yn dodwy wyau o ddechrau mis Mai, gyda'r cywion cyntaf i'w gweld yn gyffredinol tua dechrau mis Mehefin.

Mae pob rhywogaeth o wylanod wedi'i gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon lladd neu ddinistrio nyth neu ei chynnwys yn fwriadol.

Mae Tŷ Hywel yn cael ei rentu, tra bod adeilad y Senedd drws nesaf sy'n cynnwys y Siambr yn eiddo i'r Cynulliad.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfarfu'r Senedd yn rhithiol eto ddydd Mercher, fel y mae wedi gwneud trwy gydol y pandemig

Mae adeilad Tŷ Hywel, sy'n gartref i swyddfeydd ac ystafelloedd pwyllgor, yn eiddo i Equitix Tiger English LP o Lundain, partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd gyda Thŷ'r Cwmnïau ym mis Rhagfyr 2018.