Pryder am 250 o swyddi mewn cwmni offer amddiffyn

  • Cyhoeddwyd
General DynamicsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi dod i'r amlwg bod prosiect system gyfathrebu gan General Dynamics, gwerth £330m, ar ei hôl hi

Mae yna bryder am swyddi mewn cwmni sy'n cynhyrchu offer amddiffyn ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod prosiect i ddatblygu system gyfathrebu newydd ar ei hôl hi.

Mae cynllun Morpheus, sydd werth £330m, yn cael ei ddylunio gan gwmni General Dynamics yn Oakdale, ger Y Coed Duon.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyfaddef nad yw gwaith ar y cynllun wedi cwrdd â'r gofynion a'u bod nhw'n "ystyried eu camau nesaf".

Dywed yr AS Llafur lleol ei fod yn bryderus iawn am y 250 o swyddi ar y safle.

Mae General Dynamics yn dweud eu bod nhw'n cydweithio â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'u bod yn falch o'r hyn maen nhw'n ei ddarparu iddyn nhw.

Roedd disgwyl i Morpheus fod yn barod erbyn 2025, ond does dim dyddiad nawr ar gyfer ei gwblhau.

Pryder am swyddi

Mae Chris Evans, AS Islwyn, a gweinidog amddiffyn yr wrthblaid, wedi galw am sicrwydd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r cwmni ynglŷn â swyddi.

Crëwyd 125 o swyddi peirianneg o safon uchel a diogelwyd 125 arall pan gafodd y cytundeb ei roi yn Ebrill 2017.

"Rwy'n bryderus iawn am y swyddi," dywedodd Mr Evans.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth y DU
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Evans ei fod hefyd yn poeni am effaith dileu'r prosiect i'r lluoedd arfog

"Rwy'n bryderus iawn ynglŷn ag os yw'r MoD yn mynd i fod yn betrusgar am roi cytundebau ychwanegol. Os nad ydyn nhw'n rhoi mwy o gytundebau, fydd y swyddi yna'n mynd."

Mae Mr Evans wedi cyflwyno sawl cwestiwn ysgrifenedig i weinidogion amddiffyn, ond mae wedi cael gwybod bod y wybodaeth yn sensitif yn fasnachol ac fe fyddai'n amhriodol gwneud sylw.

"Rwyf wedi siarad â'r cwmni a ddywedodd wrtha'i bod 'na broblemau ond eu bod nhw'n delio â nhw," dywedodd.

"Ydyn maen nhw'n fasnachol sensitif, ond i'r gweithwyr - gweithwyr brwdfrydig iawn - i gael eu labelu fel eu bod nhw'n methu cyrraedd targedau mae'n bryder mawr iddyn nhw hefyd."

Ychwanegodd Mr Evans ei fod hefyd yn poeni am y goblygiadau i'r lluoedd arfog mewn cyfnod o fygythiadau byd-eang - yn enwedig yn sgil ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

"Fy mhryder yw bod ein hoffer yn heneiddio," dywedodd.

"Y peth pwysicaf yw, ydy'r milwyr ar y rheng-flaen yn cael yr offer sydd angen arnynt i amddiffyn eu hunain? Y peth diwethaf rydyn ni eisiau ydi i'n milwyr gael offer sydd wedi dyddio.

"Tydi gweithio i'r fyddin ddim fel gweithio i siop stryd fawr neu ffatri gyffredin. Maent yn risgio'u bywydau ac mae'n rhaid i ni roi yr offer gorau posib iddyn nhw, heb oedi."

'Adolygu'r camau nesaf'

Mi fydd Morpheus yn caniatáu arweinwyr i edrych a chyfarwyddo'u lluoedd ar faes y gad ac i'w cerbydau gysylltu â'i gilydd. Mae'n dod â radio, apiau a systemau eraill ynghyd.

Mae'r oedi yn golygu bod system bresennol y lluoedd arfog, Bowman - sydd hefyd wedi ei greu yn Oakdale - yn parhau i gael ei defnyddio.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Fel mae gweinidogion wedi ei wneud yn glir, rydym yn parhau yn ymrwymedig i brosiect Morpheus.

"Er ein bod ni'n parhau i gyrraedd ein gofynion gweithredol, mae'r cynnydd ar brosiect Morpheus wedi methu a chyrraedd y gofynion, ac rydym yn adolygu'r camau nesaf ar sut i gyrraedd ein nod."

Dywedodd llefarydd ar ran General Dynamics UK: "Mae GDUK yn cydweithio gyda'r MoD ar y cynllun Bowman uchel ei barch, y system fydd Morpheus yn ei olynu.

"Mae rhan gyntaf prosiect Morpheus yn ei anterth, ac rydym yn cyflwyno'r seiliau ar gyfer y rhan nesaf fydd yr MoD yn ei gwblhau.

"Rydym yn falch iawn o'r gwaith rydym yn ei wneud a'r budd y bydd yn ei rhoi i'r Fyddin Brydeinig."

Pynciau cysylltiedig