Pryder am effaith diswyddiadau Pen-y-bont ar yr ardal

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr yn gadael ffatri Zimmer Biomet
Disgrifiad o’r llun,

Cannoedd o weithwyr yn gadael safle Zimmer Biomet ddydd Iau ar ôl i'r cwmni gyhoeddi bwriad i gau'r ffatri

Mae 'na bryder yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr am yr effaith y gallai cau ffatri Zimmer Biomet ei chael ar y gymuned.

Dydd Iau cyhoeddodd y cwmni sy'n cynhyrchu dyfeisiau meddygol bod yna fwriad i ddod â gwaith cynhyrchu ar stad ddiwydiannol Waterton i ben,, gan roi 540 o swyddi yn y fantol.

Dywedodd Aelod Seneddol Pen-y-bont, Jamie Wallis bod y cyhoeddiad yn un "cwbl syfrdanol".

Ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru dywedodd Huw Griffiths, sy'n byw yn lleol, y gallai nifer o bobl "unwaith eto orfod symud mas o'r ardal i ffeindio gwaith".

'Ceisio dod dros y sioc'

Mae'r cwmni Americanaidd wedi dweud y byddai angen "buddsoddiad sylweddol" er mwyn cadw'r safle yn agored.

Dywedodd Mr Wallis nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gais gan Zimmer Biomet am gymorth ariannol.

"Mae'n fater o geisio dod dros y sioc," meddai wrth siarad â BBC Cymru.

"Beth allwn ni wneud nawr yw ceisio gweithio gyda'r cwmni a cheisio helpu'r rhai fydd yn cael eu heffeithio."

Dywedodd yr aelod Ceidwadol bod y cwmni wedi "addo dweud wrtho petaen nhw'n dod yn ymwybodol bod swyddi yn y fantol", a bod cael gwybod awr cyn y cyhoeddiad ddydd Iau yn "annerbyniol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffatri ym Mhen-y-bont yn cynhyrchu dyfeisiau meddygol fel cluniau a phengliniau newydd i gleifion

Yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr undeb ar y safle ddydd Gwener, dywedodd swyddog rhanbarthol Unite, Jason Bartlett nad oedd hi'n glir ar hyn o bryd pa gymorth allai'r cwmni fod yn ceisio ei gael, ond ei fod yn gobeithio cyfarfod â Gweinidog yr Economi.

"Mae'n rhaid brwydro yn erbyn y cynlluniau - os oes unrhyw beth angen ei archwilio ymhellach, mae'n rhaid i ni wneud hynny.

"Os gallwn ni arbed 544 o swyddi yma yn hytrach na cholli'r swyddi a cholli'r busnes gan nad oes llawer ar ôl yn ardal Pen-y-bont."

Dywedodd bod y ffordd y mae'r cwmni wedi ymdrin â'r cyhoeddiad yn "reit wael".

"Mae gennych chi weithwyr sy'n ansicr, ond does dim digon o wybodaeth wedi cael ei ddatgelu ynglŷn â pham rydan ni yma.

"Os yw e am resymau ariannol, eglurwch beth sydd angen i ni wneud i'ch cefnogi chi. Mae 'na gefnogaeth ar gael - defnyddiwch y gefnogaeth yna."

'Cymryd yn ganiataol bod popeth yn hapus'

Yn ôl Huw Griffiths, sy'n byw yn yr ardal ac a fu'n gweithio yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont, doedd dim sibrydion yn lleol bod 'na unrhyw ansicrwydd ynglyn â gwaith Zimmer Biomet.

"O'n i ddim wedi clywed bod unrhyw drafferthion yn mynd 'ma," meddai.

"O'n i ddim wedi clywed bod unrhyw fuddsoddiad wedi ei wneud yma, ond o'dd pawb yn cymryd yn ganiataol bod popeth yn hapus 'ma, bod popeth yn mynd ymlaen fel mae wedi gwneud ers blynydde mawr."

Dyma'r ergyd ddiweddaraf i'r ardal, gyda Ford yn cau safle a cholli 1,700 o swyddi yn 2020, a Sony yn cau ffatri yn 2005 gyda cholled 900 swydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Griffiths yn poeni am yr effaith ar y gymuned

Fe allai gael effaith fawr ar y gymuned leol yn ôl Mr Griffiths.

"Unwaith eto bydd pobl yn gorfod symud tŷ, symud mas o'r ardal falle i ffeindio gwaith," meddai.

"Mae'r ysgolion lleol yn mynd i gael effaith. Mae lot o blant yn yr ysgolion cynradd Cymraeg yma sydd â rhieni ddim yn siarad Cymraeg.

"Mae hwnna'n beth da, ond beth yw dyfodol y bobl yna heb waith lleol, dibynnu ar eu hoedran beth yw eu siawns nhw?"

'Bod mor agored â phosib'

Mewn datganiad a gafodd ei rhyddhau yn syth wedi i'r gweithwyr adael ddydd Iau, fe ddywedodd y cwmni eu bod yn "cydnabod effaith cau ar aelodau'r tîm a'r gymuned, ac rydym wedi ymrwymo i drin pobl gydag urddas a pharch, ac i fod mor agored â phosib gydol yr ymgynghoriad.

"Ein ffocws yw cynnal cadwyn gyflenwi gadarn a danfoniadau dibynadwy i'n cwsmeriaid.

"Os bydd yna benderfyniad i symud ymlaen, rydym wedi cynllunio sut i drosglwyddo gwaith cynhyrchu yn ddiogel ac yn effeithiol i leoliadau eraill o fewn rhwydwaith byd-eang Zimmer Biomet."

Mae disgwyl i Zimmer Biomet ac undeb Unite, sy'n cynrychioli gweithwyr ar y safle, gyfarfod ddydd Gwener i drafod y camau nesaf wrth i gyfnod o chwe mis o ymgynghori gyda'r gweithwyr ddechrau.

Pynciau cysylltiedig