Cymru v Lloegr: Tîm cwbl newydd i'r gêm ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Dewi LakeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Warren Gatland wedi gwneud 15 o newidiadau i dîm wythnos ddiwethaf, gyda Dewi Lake wedi'i ddewis fel capten

Bydd y bachwr Dewi Lake yn gapten ar dîm cwbl newydd ddydd Sadwrn wrth i Gymru wynebu Lloegr yn Twickenham.

Mae Warren Gatland wedi gwneud 15 o newidiadau i'r tîm drechodd Lloegr 20-9 yng Nghaerdydd.

Dyma fydd y tro cyntaf i Lake fod yn gapten wedi i Jac Morgan arwain y tîm penwythnos diwethaf.

Bydd y canolwr Joe Roberts yn ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn a Taine Plumtree yn dechrau yng nghrys rhif wyth wedi perfformiad da yng Nghaerdydd.

'Cyfle i griw arall'

Roedd Gatland yn barod wedi awgrymu ei fod yn mynd i ddefnyddio tri chapten gwahanol yn ystod Cyfres yr Haf, ac mae'n siŵr i Morgan greu argraff dda yng Nghaerdydd, gan ennill seren y gêm.

Wrth edrych tuag at y penwythnos a'r capten newydd dywedodd Gatland: "Mae Dewi wedi gwneud argraff dda iawn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i Dewi Lake chwarae gêm ryngwladol oedd yn erbyn De Affrica yn 2022

"Mae'n uchel ei barch yn y grŵp, mae ganddo lais ac mae ganddo hyder yn ei hun a'i allu."

Mae Lake, sy'n 24, wedi chwarae wyth gêm ryngwladol i Gymru ond fe fethodd â chwarae yng ngemau'r Chwe Gwlad yn 2023 oherwydd anaf.

Hefyd ar y penwythnos bydd Josh Adams yn ennill ei 50fed cap i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Josh Adams of prif sgoriwir ceisiau Cymru yng Nghwpan y Byd yn 2019

Dywedodd Gatland: "Mae 'na gyfle i griw arall o chwaraewyr nad oedd yn rhan o'r gêm wythnos ddiwethaf.

"Mae 'na gystadleuaeth wych o fewn y garfan. Roeddwn i'n eithaf hapus gyda pherfformiad y tîm a'r canlyniad wythnos ddiwethaf."

Y garfan i wynebu Lloegr:

Liam Williams; Josh Adams, Joe Roberts, Nick Tompkins, Tom Rogers; Owen Williams, Tomos Williams; Gareth Thomas, Dewi Lake (capten), Tomas Francis, Adam Beard, Rhys Davies, Dan Lydiate, Tommy Reffell, Taine Plumtree.

Eilyddion: Sam Parry, Kemsley Mathias, Dillon Lewis, Christ Tshiunza, Taine Basham, Kieran Hardy, Dan Biggar, Kieran Williams.

Pynciau cysylltiedig