'Rwy'n cael cefnogaeth na ches i yn fy hen ysgol'
- Cyhoeddwyd
Ymhlith y miloedd o ddisgyblion sy'n disgwyl canlyniadau arholiadau dros y pythefnos nesaf mae dysgwyr uned Bryn-y-Deryn - uned i bobl ifanc sydd wedi wynebu heriau ymddygiad neu gor-bryder.
Yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion yng Nghaerdydd y bwriad yw sicrhau bod dysgwyr sydd wedi cael trafferthion mewn ysgolion prif ffrwd yn gadael gyda chymwysterau.
Mae arholiadau'n cael eu cynnal mewn ffordd wahanol yma - mewn dosbarthiadau bach, nid mewn neuadd - oherwydd anghenion y disgyblion.
Fe fydd eu graddau TGAU ar gael ar 24 Awst, wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
'Gallu bod yn fi fy hun'
"Fe driais i fy nghorau - dyna'r cyfan allai wneud," meddai Mason, 15, pan wnaethon ni siarad gydag e ar ddiwrnod ei arholiad TGAU Mathemateg ym mis Mehefin.
Mae mwyafrif helaeth y dysgwyr sy'n 14-16 oed wedi gwneud arholiadau - nifer, fel Mason, ym Mlwyddyn 10 ac wedi sefyll papur am y tro cyntaf eleni er mwyn magu sgiliau arholiad cyn blwyddyn nesaf.
Mae Mason wedi bod ym Mryn-y-Deryn ers mis Ionawr ar ôl beth mae'n ei ddisgrifio fel "ymddygiad dwl drwy'r amser" yn ei ysgol flaenorol - ond mae pethau wedi gwella nawr.
"Dwi'n teimlo fy mod i'n gallu actio fel fi fy hun - fe allai ofyn am help pan dwi angen e ac os dwi'n stryglo neu angen rhywbeth, allai ofyn i'r athrawon ac maen nhw bob amser yna i helpu.
"Dwi isie cael fy ngraddau - dwi jyst eisiau bod yn hapus, aros yn yr ysgol a chario 'mlaen gyda beth dwi'n neud nawr," meddai Mason.
Canlyniadau'n gwella
Mae Uned Bryn-y-Deryn yn cefnogi dysgwyr sydd wedi gadael ysgolion prif ffrwd oherwydd eu bod wedi cael eu gwahardd, neu ar fin cael eu gwahardd achos ymddygiad.
Ond mae hanner arall y disgyblion yno wedi iddynt fethu mynd i'r ysgol oherwydd gor-bryder neu resymau emosiynol ac iechyd meddwl eraill.
Mae Megan, 16, wedi dod i ddiwedd ei chyfnod ym Mryn-y-Deryn. Dywed fod yr uned wedi ei helpu i ymdopi gydag addysg ac mae'n obeithiol am ei chanlyniadau.
"Yn fy hen ysgol, roedd disgwyl i fi gael Fs - nawr mae disgwyl i fi cael Cs a Bs."
Ar ôl cael ei graddau mae hi eisiau parhau i astudio cyn penderfynu beth hoffai ei wneud fel gyrfa.
'Nerfus ond yn gyffrous'
Mae angen cymorth ychwanegol ar y rhan fwyaf o ddysgwyr Bryn-y-Deryn wrth wneud arholiadau, felly mae trefnu'r amserlen yn heriol, yn enwedig ar ddiwrnod papur poblogaidd fel Mathemateg.
"Fe fydd pob ystafell yn yr ysgol yn cael eu defnyddio a phob oedolyn yn cymryd rhan yn y trefniadau mewn rhyw ffordd," meddai'r dirprwy bennaeth a chydlynydd arholiadau, Hannah Smith.
Mae angen cymorth ychwanegol i ddarllen y papurau neu fwy o amser i'w cwblhau ar nifer o'r bobl ifanc.
Mae pob aelod o'r staff dysgu wedi eu hyfforddi i oruchwylio arholiadau fel bod oedolion cyfarwydd yn cefnogi'r dysgwyr ar y diwrnod.
Weithiau, mae sicrhau bod person ifanc yn dod i'r ysgol o gwbl ar gyfer yr arholiad yn llwyddiant.
Mae staff wrth y gatiau yn y bore i groesawu'r dysgwyr - ac ambell waith i'w hannog i ddod i mewn.
Mae Lishamarie, 15, yn "nerfus ond yn gyffrous" am arholiad heddiw.
"Rwy'n cael mwy o gefnogaeth yma na wnes i yn fy hen ysgol," meddai. "Dwi gymaint hapusach".
"Yn fy hen ysgol ro'n i'n cael pob dim yn anghywir - ond yma, dwi'n cael rhywfaint yn gywir a rhywfaint yn anghywir," meddai gyda gwên.
Yn ôl y pennaeth Fiona Simpson, mae magu hyder a sgiliau cymdeithasol yn bwysig i ddysgwyr Bryn-y-Deryn yn ogystal â sicrhau eu bod yn gadael gyda chymwysterau.
Mae dysgwyr yn cael sawl cyfle i sefyll papurau meddai "achos dydy sefyll eich arholiadau pwysicaf ar yr un diwrnod, yn yr un wythnos, ar draws y wlad ddim yn mynd i weithio i bawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023