Yr Archdderwydd newydd am ysbrydoli merched eraill

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mererid Hopwood ar faes Eisteddfod Boduan
Disgrifiad o’r llun,

Mererid Hopwood fydd yr ail ddynes i fod yn Archdderwydd

Mae'r ail fenyw i'w hethol yn Archdderwydd yn gobeithio y bydd ei phenodiad yn annog merched eraill i ymgymryd â'r swydd yn y dyfodol.

Y Prifardd a'r Prif Lenor Mererid Hopwood fydd Archdderwydd 2024-2027, wrth i gyfnod Myrddin ap Dafydd ddod i ben yr wythnos hon.

Hi fydd yr ail fenyw i ymgymryd â'r rôl, yn dilyn cyfnod Christine James wrth y llyw rhwng 2013 a 2016.

"Yn anochel mae rhywun yn ymwybodol bod prinder difrifol o fenywod wedi bod yn y rôl," meddai wrth BBC Cymru Fyw.

"A falle bod yng nghefn fy meddwl... ryw obaith y bydd hyn yn annog pobl eraill i 'weud, 'ie iawn ai amdani.'"

Fe gafodd Mererid Hopwood ei hethol yn Archdderwydd yn ystod Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Mehefin.

'Ewch amdani chwiorydd!'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mererid Hopwood yn fwyaf adnabyddus i gynulleidfa'r Brifwyl fel y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn 2001

"Mae 'na ddigon [o ferched] sy'n gymwys," meddai ar faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

"Mae ennill Cadair, Coron neu'r fedal yn rhoi chi ar dir i gael eich ethol, ac mae 'na ddigon o fenywod yn y man hwnnw.

"Felly amdani nawr chwiorydd!"

Mae'r Athro Hopwood eisoes yn adnabyddus i gynulleidfa'r Brifwyl fel y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, a hynny yn Eisteddfod Sir Ddinbych yn 2001.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Christine James oedd yr Archdderwydd rhwng 2013-2016

Mae'n un o'r criw dethol o feirdd a llenorion sydd wedi llwyddo i bontio rhwng barddoniaeth a rhyddiaith, gan ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith.

Christine James oedd y ddynes gyntaf i'w hethol yn Archdderwydd gan olynu Jim Parc Nest, hynny yn 2012.

Fe ddywedodd hi yn 2022 ei bod hi'n siŵr "nad fi fydd yr olaf, o bell ffordd".

"Mae lle mawr 'da fi i ddiolch i Myrddin ap Dafydd a swyddogion cyfredol yr Orsedd am fod mor ffeind, mor gynnes mor dwym eu croeso," meddai Mererid Hopwood.

"Mae'i di bod yn hyfryd iawn."

Ychwanegodd bod sawl un yn gyffrous ei bod yn camu i'r rôl am wahanol resymau.

Roedd yr Orsedd hefyd yn destun ar sioe gomedi 'Cracharela' yn y Pafiliwn Mawr yn ystod yr wythnos - gyda'r cast yn ystod eu perfformiad yn meddwl am wahanol ffyrdd o gael mynediad.

"Synnech chi faint o bobl sydd eisoes wedi dod atai a dweud 'w sut allai ddod mewn i'r Orsedd!'.

"Mae'n rhaid i chi gael eich enwebu trwy'r ffyrdd priodol… dim llwgrwobrwyo!"