Llywodraeth Cymru'n 'colli cwsg' dros doriadau ariannol

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

"Os nad yw'r arian yno, allwn ni ddim ei wario," meddai Eluned Morgan

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn dweud ei bod hi ac eraill yn Llywodraeth Cymru yn colli cwsg wrth geisio canfod sut i wneud arbedion ariannol.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru, o'i gymharu â'r hyn roedden nhw'n ei ddisgwyl, yn dweud eu bod £900m yn fyr yn eu cyllideb - cyllideb sy'n £20bn.

Mae'r Prif Weinidog wedi galw ar weinidogion i wneud toriadau yn eu cyllidebau wrth i chwyddiant roi pwysau ar y pwrs cyhoeddus.

Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn wynebu'r "sefyllfa ariannol fwyaf heriol" ers datganoli.

'Sefyllfa ofidus tu hwnt'

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Ms Morgan: "Dwi'n meddwl ein bod ni gyd yn Llywodraeth Cymru yn colli cwsg dros hyn.

"Y ffaith yw, mae'r gwasanaeth iechyd eisoes dan bwysau aruthrol, ac mae trio ffeindio arbedion yn mynd i fod yn sialens aruthrol i ni gyd.

"Mae'n mynd i fod yn anodd tu hwnt i dorri, ond os nad yw'r arian yno allwn ni ddim ei wario.

"Dyna'r sefyllfa ni ynddi ar hyn o bryd, ac mae'n sefyllfa ofidus tu hwnt pan mae'r gwasanaeth iechyd dan gymaint o bwysau.

"Mae'n broblem aruthrol, a 'dyn ni wedi bod yn gweithio am ychydig fisoedd eisoes, a dwi'n disgwyl cael syniadau oddi wrth y byrddau iechyd yn fuan iawn ynglŷn â ble allwn ni ddisgwyl gweld yr arbedion hynny'n digwydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan yn cydnabod y bydd gwasanaethau iechyd yn rhan o'r toriadau

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa wasanaethau neu brosiectau fydd yn cael eu torri, ond mae Ms Morgan yn cydnabod y bydd gwasanaethau iechyd yn rhan o'r toriadau hynny.

"Bydd yn rhaid i ni weld arbedion o gannoedd o filiynau o bunnau, felly ni'n sôn am lot fawr o arian," meddai.

'Dim ceiniog yn ychwanegol'

Dywedodd fod hynny oherwydd chwyddiant, a ffactorau fel "y ffaith ein bod ni wedi gorfod ffeindio arian ychwanegol i dalu gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, a dim ceiniog yn ychwanegol wedi dod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig".

"Felly mae'n rhaid i'r arian yna ddod o rywle, ac mae hynny, mae arna i ofn, yn golygu ein bod ni wedi gorfod gofyn i fyrddau iechyd ddod lan â syniadau ynglŷn â ble allen ni weld yr arbedion hynny'n digwydd."

Mae Llywodraeth y DU yn dadlau fod gan Lywodraeth Cymru y setliad ariannol mwyaf yn hanes datganoli, a bod cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cynyddu mewn termau real.

Yn siarad ar faes yr Eisteddfod fe ddywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards: "Ar hyn o bryd rydyn ni'n gwario rhywbeth fel gorwariant o £140 miliwn felly mae angen i ni fynd i'r afael â hynny a gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n gorwario mwyach."

Disgrifiad o’r llun,

Dyfed Edwards - cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd - yw cadeirydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru

Fe ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Bwrdd Iechyd ddod o hyd i arbedion o hyd at 30% o gyfanswm y gorwariant - gan olygu arbedion o hyd at £45 miliwn.

Cadarnhaodd hefyd eu bod yn llunio rhestr o ble y gall y toriadau ddisgyn.

"Mae gennym ni restr, sawl rhestr, byddwn yn trafod hynny gyda'r llywodraeth - i'r llywodraeth ein helpu gyda'r penderfyniadau a cheisio penderfynu efallai y gall rhai o'r pethau hynny ddigwydd ar draws Cymru gyfan.

"Gall rhywfaint ohono ddigwydd yn lleol ond rydym mewn deialog gyda'r llywodraeth ynghylch hynny.

"Gofyniad y Llywodraeth yw ymateb i gyllideb sy'n lleihau o fewn y bwrdd iechyd ar hyn o bryd, ond hefyd i edrych yn ehangach, i weld a allwn gynhyrchu mwy o arbedion.

"Mae hynny'n rhan o'r drafodaeth gyda'r llywodraeth - iddyn nhw gael darlun clir o'r hyn y bydd y gyllideb ostyngol honno'n edrych arno a beth mae'n ei olygu o ran darparu gwasanaethau."