Chwyddiant: Llywodraeth Cymru i chwilio am doriadau
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru'n galw ar weinidogion i wneud toriadau yn eu cyllidebau wrth i chwyddiant roi pwysau ar y pwrs cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu'r "sefyllfa ariannol fwyaf heriol" ers datganoli, meddai Mark Drakeford.
Fe fydd aelodau'r cabinet yn cwrdd dros yr haf er mwyn penderfynu beth sy'n bosib i'w dorri o'r gyllideb.
Fe wnaeth Mr Drakeford roi'r bai ar Lywodraeth y DU am "ymrwymiadau a wnaed heb iddynt gael eu hariannu," yn enwedig ynghylch cyflogau sector cyhoeddus.
Yn ôl Llywodraeth Lafur Cymru, o'i gymharu â'r hyn roedden nhw'n ei ddisgwyl, maen nhw'n £900m yn fyr yn eu cyllideb - cyllideb sy'n £20bn.
Mae'r llywodraeth yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, addysg, a gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan gynghorau, fel gofal cymdeithasol.
Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa wasanaethau neu brosiectau fydd yn cael eu torri.
Amser 'anghyffredin' i wneud arbedion
Mae'r rhan fwyaf o arian Llywodraeth Cymru yn dod gan Lywodraeth y DU, ond mae ychydig yn cael ei godi trwy drethi.
Er i Lywodraeth y DU gyhoeddi codiadau cyflog i athrawon a meddygon yn Lloegr yn ddiweddar, ni wnaeth hynny arwain at fwy o gyllid i Lywodraeth Cymru - gan fod y cyflogau uwch wedi'u hariannu gan gyllidebau oedd eisoes mewn lle yn San Steffan.
O ganlyniad, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i gynigion cyflog rywle yn ei chyllideb ei hun.
Fel arfer, mae cyllideb Llywodraeth Cymru'n cael ei osod ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, ym mis Ebrill, ac mae gorfod gwneud arbedion sylweddol fel hyn yng nghanol blwyddyn yn anghyffredin iawn.
Mewn llythyr at aelodau o'r Senedd, fe ddywedodd Mr Drakeford: "Dyma'r sefyllfa ariannol fwyaf heriol yr ydym wedi ei hwynebu ers datganoli.
"Rydym yn y sefyllfa hon o ganlyniad i weld y lefelau uchaf o chwyddiant erioed ar ôl y pandemig; ac oherwydd bod yr economi a chyllid cyhoeddus wedi cael eu camreoli gan lywodraethau olynol y DU yn ystod y 13 o flynyddoedd diwethaf, yn ogystal â'r ymrwymiadau a wnaed heb iddynt gael eu hariannu gan Lywodraeth y DU, yn enwedig mewn perthynas â chyflogau yn y sector cyhoeddus.
"Bydd y Cabinet yn gweithio dros yr haf i liniaru'r pwysau cyllidebol hyn yn seiliedig ar ein hegwyddorion, gan gynnwys diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, cyn belled â phosibl, a thargedu cymorth tuag at y rheini sydd â'r angen mwyaf. Rhoddir diweddariad pellach i'r Senedd unwaith bod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau."
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu beirniadaeth am ddod â chynllun darparu prydau ysgol am ddim i blant dros y gwyliau i ben - polisi sy'n costio £15m i'w ddarparu.
Ac yn sydyn, daeth cynllun £4.4m i fonitro dŵr carthion am Covid-19 i ben, er bod gweinidog wedi bod yn agor canolfan ymchwil newydd ym Mangor ychydig fisoedd ynghynt.
Problemau ariannol gafodd y bai am y ddau benderfyniad.
Yn ôl ffynhonnell o'r llywodraeth, mae'r penderfyniad dros brydau i blant dros y gwyliau yn dangos pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa.
Un o'r materion sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar weinidogion yw'r cytundebau cyflogau maen nhw wedi eu cytuno gyda gweithwyr y gwasanaeth iechyd ac athrawon - yn ogystal â rhestrau aros y GIG.
Fel gweddill cymdeithas, mae'r llywodraeth hefyd yn gorfod ymdopi â chynnydd mewn costau. Er bod chwyddiant wedi disgyn ychydig yn ddiweddar, mae'n parhau dipyn uwch nag oedd ychydig flynyddoedd yn ôl, gyda phrisiau'n codi 7.9% yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin.
'Dim panig'
Wrth siarad â BBC Cymru, fe wadodd Mark Drakeford bod ei ddatganiad i'r Senedd yn arwydd o banig o fewn ei lywodraeth.
"Bydd y penderfyniadau yn anodd, dwi'n siŵr am hynny, ond 'dan ni ddim yn neud e mewn panic o gwbl," meddai.
"Dwi ddim isio i bobl yng Nghymru i glywed am beth y'n ni'n 'neud ym mis Hydref, er enghraifft, pan fydd popeth wedi dod i ben.
"Dwi isio esbonio i bobl y problemau sy'n wynebu ni a sut ni'n mynd i ddelio gyda nhw a dyna beth y'n ni wedi cyhoeddi heddiw."
Dywedodd nad oedd mewn sefyllfa i roi manylion pellach, ond y bydd "pob rhan o Lywodraeth Cymru yn chwarae ei ran", gan gynnwys y GIG.
"Mae'r syniad y gallwch chi insiwleiddio'r gwasanaeth iechyd yn gyfan gwbl o realiti bwlch o £900m rhwng beth y'n ni angen a'r hyn sydd gyda ni - ni all fod yn fan cychwyn," dywedodd.
Ychwanegodd na allai gynyddu treth incwm yn y flwyddyn ariannol bresennol, ond nid yw'n diystyru'r posibilrwydd o ran y flwyddyn nesaf.
"Ni ddylai unrhyw un feddwl bod codi arian trwy drethi yng Nghymru ar bobl sydd eisoes wedi cyrraedd pen tennyn yn ffordd hawdd i ddatrys y dilema yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2023