Urddo aelodau newydd i Orsedd Cymru ym Moduan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Bu ein criw ar y maes yn holi rhai o'r aelodau newydd am eu hargraffiadau nhw wedi'r seremoni

Roedd Archesgob Cymru a sawl enw cyfarwydd o'r byd darlledu ymhlith yr unigolion a gafodd eu derbyn i Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd fore Gwener.

Mae 50 o bobl wedi cael eu hanrhydeddu eleni am eu "cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol".

Ymysg aelodau newydd diweddaraf yr Orsedd mae'r cyflwynwyr Aled Hughes, Geraint Lloyd a John Roberts, y cerddor a'r arweinydd corau Mari Lloyd Pritchard, a chyn-bêl-droediwr Cymru, John Mahoney.

Bu'n bosib cynnal y seremoni yn yr awyr agored, er gwaethaf sawl cwmwl du a gwynt cryf yn ardal Boduan.

Y Wisg Las sy'n cydnabod cyfraniadau nodedig ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro neu genedl.

Mae'r Wisg Werdd yn cael ei rhoi i bobl am eu cyfraniad i'r celfyddydau, ac i'r rheiny sydd wedi sefyll arholiad, neu sydd â gradd gymwys ym maes llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama neu gelf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna dorf dda i wylio'r seremoni yn yr awyr agored

'Seremoni sbesial'

Roedd y sylwebydd gwleidyddol Mared Gwyn a'r cyflwynydd Aled Hughes - y ddau o Ben Llŷn yn wreiddiol - yn cydgerdded o'r seremoni ar ôl cael eu hurddo.

"Dwi dal mewn sioc mewn ffordd ers i fi gael y gwahoddiad," meddai Mared, sy'n byw ym Mrwsel ac yn llais cyfarwydd wrth drafod datblygiadau gwleidyddol yn Ewrop.

"O'dd hi'n seremoni sbesial iawn i ni'n dau, a ninnau'n dod o'r ardal leol yma ym Moduan, felly diwrnod i'w gofio."

Disgrifiad o’r llun,

Mared Merch y Cyfandir a Pedrog Foel - sef y sylwebydd gwleidyddol Mared Gwyn a'r cyflwynydd Aled Hughes

Dywedodd Aled: "Mae'n golygu gymaint oherwydd mae'n digwydd ym mro fy mebyd.

"Cydgerdded efo Mared - o'n i'n nabod nain Mared.

"O'dd 'na gymaint o bobl sydd wedi dylanwadu arnon ni'n dau dwi'n siŵr yn y seremoni heddiw ac sydd wedi naddu pwy ydan ni i ryw raddau, felly oedd cael cydgerdded efo Mared a bod ynghanol pawb wir yn arbennig."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kristoffer Hughes yn wên o glust i glust wedi'r seremoni ond yn ei ddagrau o flaen y Maen Llog

Roedd y profiad yn un emosiynol iawn i Kristoffer Hughes, pennaeth Urdd Derwyddon Môn, a'r dyn tu ôl i'r comedïwr drag, Maggi Noggi.

"Nes i grio o flaen yr Archdderwydd!" dywedodd ar S4C.

"Fydda i byth yn crio - sa'm llawer o'm byd symud fy nghalon fach i, ond mi 'naeth hynny!"

Ychwanegodd Llŷr Môn - ei enw yn yr Orsedd - ag yntau wedi ei urddo â'r Wisg Las: "Dyna'r teimlad gorau dwi 'rioed 'di gael yn fy mywyd."

'Mae wedi bod yn fore arbennig'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Laura McAllister bod cael ei hurddo yn yr Eisteddfod yn bwysig i bobl fel hi sy'n 'dod o ardal lle does dim lot o siawns i siarad Cymraeg'

Cafodd Yr Athro Laura McAllister - Laura o Ben-y-bont - ei hanrhydeddu am ei chyfraniad i wella hawliau LHDTC+ ac i'r byd pêl-droed - y fenyw gyntaf a'r cynrychiolydd cyntaf o Gymru i gael ei hethol i Bwyllgor Gweithredol UEFA.

Dywedodd ar S4C: "Mae'n hynod o arbennig i fi yn bersonol - cael rhywbeth gan eich cenedl eich hun i gydnabod be' 'dan ni gyd yn 'neud i sicrhau'r iaith, ond hefyd sicrhau statws Cymru ar lwyfan y byd.

"Mae'n golygu cymaint i fi ac mae wedi bod yn fore arbennig."

"Roedd yn anrhydedd jyst i fod yma mae mor bwysig i fi'n bersonol yn dod o ardal lle deos dim lot o siawns i siarad Cymraeg ond nawr cael yr enw Laura o Ben-y-bont - mae hwnna'n bwysig iawn i fi

Disgrifiad o’r llun,

Anwen Cellan yw enw Anwen Butten yn yr Orsedd

Cafodd y bowliwr lawnt Anwen Butten ei derbyn yn yr Orsedd am ei gyrfa yn y byd chwaraeon - hi oedd capten Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad y llynedd.

Mae hi hefyd yn nyrs arbenigol cancr y pen a'r gwddf yn Ysbyty Glangwili.

"O'dd e'n brofiad anhygoel," dywedodd ar S4C. "Jest mor hyfryd. Goosebumps drosta i gyd.

"O'dd e mor bleserus, ac yn anrhydedd sbesial iawn."

Ychwanegodd ei bod "bendant" yn nerfus cyn y seremoni, ac y bu'n brofiad "swreal".

Disgrifiad o’r llun,

Sian Eirian ar fore gwyntog ar faes y Brifwyl

Cafodd Sian Eirian y fraint yn sgil ei gwaith dros y blynyddoedd fel cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

Hi hefyd sefydlodd wasanaethau Cyw a Stwnsh ar S4C yn ystod ei chyfnod fel pennaeth Rhaglenni Plant a Phobl Ifanc y sianel.

Dywedodd: "Mae 'di bod yn fraint ac anrhydedd cael gweithio efo cenedlaethau o blant a phobl ifanc - wrth edrych yn ôl mae wedi bod yn brofiad cwbl anhygoel.

"Mae heddiw'n g'neud i chi deimlo am y dylanwadau arnoch chi hefyd - mae 'di bod yn fraint i fi gael cydweithio hefo'r holl bobl ar hyd y blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Sion Bwrw Golwg yw enw Gorseddol John Roberts, gan adlewyrchu'r rhaglen y mae'n ei chyflwyno ers blynyddoedd ar Radio Cymru

Fe ddewisodd Sian Eirian gael ei hadnabod o fewn yr Orsedd dan ei henw arferol - fel y gwnaeth yr AS Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor ac un o sylfaenwyr Sesiwn Fawr Dolgellau, Ywain Myfyr.

Ond fe wnaeth ambell enw Gorseddol godi gwên - gan gynnwys Carlo ap Luigi (cyn Arweinydd Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru, sy'n hanu o Milan); Cennydd Crwydryn y Cefnforoedd (cyn harbwr-feistr Pwllheli, Porthmadog a'r Bermo, Kenneth Fitzpatrick) ac Yr Arglwydd Smedley (y sacsoffonydd Edwin Humphreys).

Fe ddewisodd Archesgob Cymru, Y Gwir Barchedicaf Andrew John enw anghyffredin hefyd.

"Roedd Porus yn Gristion cynnar yn y chweched ganrif," dywedodd. "Wnaeth e ddod â'r ffydd Gristnogol i Drawsfynydd, ac mae'r bedd yn dal i fod wrth ochr y ffordd.

"O'n i'n meddwl, dyw e ddim yn adnabyddus ond o'n i'n meddwl fod sefyll yn y traddodiad yna yn fraint i fi hefyd."

Pynciau cysylltiedig