Eisteddfod: 'Angen mwy o statws i gerddoriaeth werin'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Robin Huw Bowen a Rhiain Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae Robin Huw Bowen a Rhiain Bebb wedi lleisio'u siom nad oes cystadleuaeth i unawdwyr offerynnol yn y Tŷ Gwerin eleni

Mae rhai o delynorion gwerin amlycaf Cymru yn dweud eu bod yn poeni am ddiffyg cystadlaethau i offerynwyr gwerin yn y Brifwyl.

Mae rhai wedi lleisio'u siom nad oes cystadleuaeth i unawdwyr offerynnol yn y Tŷ Gwerin, na chyfle i ennill gwobr goffa John Weston Thomas eleni.

Yn ôl Rhiain Bebb, tiwtor ac un sy'n arbenigo ar y delyn deires, mae'r tlws yn un pwysig i offerynwyr gwerin.

"Mae amryw o delynorion ifainc newydd fyddai'n frwdfrydig iawn dros gystadlu," meddai.

"Fe ddylai yr Eisteddfod fod yn hybu y gystadleuaeth."

Fe ddywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod tair cystadleuaeth telyn yn yr adran gerddoriaeth ac fod y panel gwerin canolog wedi cymeradwyo treialu Brwydr y Bandiau Gwerin am gyfnod cychwynnol o dair blynedd.

'Os am wella mae angen statws hefyd'

Dywed Robin Huw Bowen, sydd yn gerddor proffesiynol ac sy'n canu'r delyn deires, bod angen mwy o sylw a statws i'n traddodiadau gwerin ni yn hytrach na'u bod yn rhywbeth o'r neilltu.

Dywedodd: "'Da ni 'di bod yn brwydro dros hyn ers blynyddoedd.

"Dwi'n teimlo os yw pobl yn mynd i ddatblygu a gwella safon y traddodiad gwerin a'r sîn werin yng Nghymru mae angen statws hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Robin Huw Bowen yn gerddor proffesiynol sy'n canu y delyn deires

Mae'r Eisteddfod wedi cyflwyno cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin sy'n gystadleuaeth i grwpiau neu unigolion a'r enillydd eleni oedd Lo-Fi Jones.

Mae Rhiain a Robin Huw yn dweud nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad i gystadleuaeth newydd Brwydr y Bandiau, ond yn teimlo na ddylai gael ei chynnal ar draul y gystadleuaeth i offerynwyr unigol.

Dywedodd Ms Bebb: "Dwi ddim yn gwrthwynebu cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ond ddylai hi ddim cymryd lle cystadleuaeth i offerynwyr, a dyw hi ddim yn addas i offerynwyr unigol."

Mae Mr Bowen yn cytuno.

"Does gen i ddim yn erbyn brwydr y bandiau, ond dewch i ni barchu sylfaen y traddodiad a'r diwylliant," meddai.

'Cryfhau'r sîn werin ar gyfer y dyfodol'

Mewn ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod yn "datblygu ac yn esblygu'n barhaus ac mae'r panelau cenedlaethol yn gwerthuso ac adolygu'r cystadlaethau'n flynyddol yn y cyfnod yn dilyn yr ŵyl.

"Cyflwynwyd y syniad ar gyfer Brwydr y Bandiau Gwerin gan y pwyllgor lleol yn dilyn niferoedd isel yn cystadlu yng nghystadlaethau'r Tŷ Gwerin gyda'r panel canolog [cenedlaethol] yn cymeradwyo'r syniad yn unfrydol.

"Roedd teimlad bod Brwydr y Bandiau Maes B yn mynd o nerth i nerth ar ei newydd wedd ac y byddai cyflwyno cynllun tebyg ar gyfer cerddorion gwerin yn rhoi cyfle i godi safon a chynnig cyfle i ddatblygu artistiaid a thrwy hynny gryfhau'r sîn werin ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r panel gwerin canolog wedi cymeradwyo treialu Brwydr y Bandiau Gwerin am gyfnod cychwynnol o dair blynedd fel sy'n arferol gan obeithio y bydd y gystadleuaeth yn datblygu.

"Yn ogystal â'r gystadleuaeth hon, mae tair cystadleuaeth telyn yn yr adran gerddoriaeth, ac mae'r rhain yn hunan ddewisiad, ac felly yn addas i delynorion teires neu delynorion pedal".

Disgrifiad o’r llun,

Rhiain Bebb: 'Dwi ddim yn gwrthwynebu cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ond ddylai hi ddim cymryd lle cystadleuaeth i offerynwyr, a dyw hi ddim yn addas i offerynwyr unigol'

Mae Rhiain Bebb yn dweud y bydd hi'n parhau i ymgyrchu i ailgyflwyno cystadleuaeth werin John Weston Thomas yn Eisteddfodau y dyfodol.

"Mae lle i siarad â phwyllgorau Eisteddfodau y blynyddoedd nesaf i weld a allwn ni fel telynorion wyrdroi y penderfyniad neu fe fyddwn ni mewn peryg gwirioneddol o golli statws y cerddorion a'r offerynwyr unigol ym myd gwerin," meddai.